Annog athrawon i drafod Islamoffobia yn yr ysgol
Mae'r Comisiynydd Plant yn annog mwy o athrawon i drafod Islamoffobia gyda'u disgyblion.
Bellach mae cymorth ar gael i athrawon i wneud hynny ac mae adnoddau yn cael eu cynnig i holl ysgolion uwchradd Cymru.
Yn ôl Sally Holland mae'r ffordd y mae rhai mewn cymdeithas yn trin y boblogaeth Fwslemaidd yn broblem gynyddol.