Tweli Griffiths: 'Leanne Wood wedi ei themtio'

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Rhondda yn yr etholiad cyffredinol.

Daeth cadarnhad yn hwyr nos Sul ar ôl i Ms Wood, sy'n Aelod Cynulliad i'r etholaeth, ddweud ei bod yn rhoi "ystyriaeth fanwl" i'r posibilrwydd o ymgeisio am sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 8 Mehefin.

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru nad yw'n synnu fod Ms Wood wedi ei themtio i sefyll, ond wedi penderfynu peidio.