Tir Cefn Coch yn cynnig 'cyfle unigryw'

Mae dwy elusen amgylcheddol eisiau prynu mynydd yng Nghefn Coch ym Machynlleth a throi'r safle yn hafan ar gyfer rhywogaethau prin.

Byddai Coed Cadw a Sefydliad Tir Gwyllt Cymru yn plannu 5000 o goed cyn gadael i'r tirwedd ddatblygu yn naturiol.

Maent yn dweud bod hyn yn gyfle i arbrofi gyda "dull gwahanol o gadwraeth".

Rory Francis o Coed Cadw sydd yn esbonio sut y bydden nhw yn hoffi i'r tir edrych yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd