Atal alltudiaeth: 'Y system yn anghywir', medd AS

Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor oedd yn wynebu cael ei halltudio i Sri Lanka wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref y bydd yn cael aros yn y DU, yn ôl ei Haelod Seneddol.

Fe wnaeth AS Arfon, Hywel Williams gyhoeddi nos Lun y bydd Shiromini Satkunarajah, 20, yn cael ei rhyddhau o ganolfan gadw Yarls Wood.

Bu'n siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mawrth am y datblygiad.

Cyhoeddwyd