Galw tîm achub Llanberis am y 200fed tro yn 2016

Eisoes yn 2016, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi cael eu galw allan 200 o weithiau, sy'n fwy nag erioed o'r blaen.

Daeth galwad rhif 200 nos Fercher, pan y bu'n rhaid i'r tîm godi dau gerddwr oddi ar Crib Goch ar ôl i un dorri ei ffêr.

Mae'r tîm yn cynghori cerddwyr i ddod â chyfarpar addas i fwynhau Eryri dros y gaeaf.