'Rhy fuan' i drafod effaith arbedion BBC Cymru ar staff

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i'r sefydliad ddod o hyd i arbedion o £9m erbyn 2022.

Ond mae'n "rhy fuan" i drafod effaith y cyhoeddiad ar lefelau staffio, meddai Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru.