Gwrthrychau Indiana Jones mewn arddangosfa newydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos gwrthrychau Indiana Jones am y tro cyntaf yng Nghymru.

Bydd het, siaced a chwip yr anturiaethwr yn rhan o'r arddangosfa Trysorau: Anturiaethau Archeolegol sydd yn edrych ar ddylanwad archaeoleg ar ddiwylliant poblogaidd.

Mae'n gohebydd celfyddydol ni, Huw Thomas wedi bod draw i weld y casgliad.