Rhybudd o dlodi i Gymru heb syniadau newid
Bydd Cymru'n wlad dlotach, gyda llai o bobl yn gweithio yma, os nad ydyn ni'n gweithredu syniadau newydd - dyna rybudd Sefydliad Bevan.
Mae eu hadroddiad diweddara yn paentio darlun digon tywyll o gyflwr ein gwlad dros y blynyddoedd nesaf.
Maen nhw'n rhybuddio y bydd economi Cymru'n gwanhau, y bydd cyflogau'r sector gyhoeddus yn gostwng ac y bydd mwy o salwch eto.
O Gaernarfon, adroddiad Sion Tecwyn.