Cau ysgol Gymraeg ardal Rhuthun?
Mae cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych i gau ysgol cyfrwng Cymraeg ger Rhuthun wedi gwylltio nifer o rieni yn yr ardal.
Mae adroddiad sy'n cael ei drafod gan gynghorwyr ddydd Mawrth yn argymhell uno Ysgol Pentrecelyn - sy'n uniaith Gymraeg - gydag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd - sy'n ysgol ddwyieithog.
Mae'r cynlluniau'n rhan o adrefnu ehangach ysgolion cynradd ardal Rhuthun.