Protest yn erbyn 'israddio' Llwynhelyg

Daeth chwe chant o bobl i brotestio y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn erbyn cynlluniau i symud Gofal Arbenigol i Fabanod i Gaerfyrddin. Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda'n bwriadu canoli'r gwasanaethau'n Ysbyty Glangwili, ond mae ymgyrchwyr yn poeni y gallai Llwynhelyg golli gwasanaethau eraill hefyd. Adroddiad Aled Scourfield.