Caerdydd yn croesawu Solskjær

"Gwireddu breuddwyd yw cael bod yn reolwr yn Uwch Gynghrair Lloegr" - dyna oedd geiriau cyn ymosodwr Manchester United Ole Gunnar Solskjær, sydd yn olynu Malky Mackay fel rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd. Cafodd Mackay ei ddiswyddo gan Vincent Tan ddydd Gwener diwethaf ond gwadodd y rheolwr newydd y byddai'n anodd cydweithio gyda'r perchennog. Adroddiad Iwan Griffiths.