Mandela: Trefniadau angladd

Mae rhagor o fanylion am gynhebrwng Nelson Mandela wedi eu rhyddhau ar ôl marwolaeth cyn arlywydd De Affrica nos Iau.

Yn ôl y trefniadau sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Sadwrn bydd yr arch yn cael ei chludo drwy'r brifddinas Pretoria cyn gorwedd yn gyhoeddus am dri niwrnod.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn ardal enedigol Mr Mandela ym Mhenrhyn Dwyreiniol y wlad ddydd Sul.

Adroddiad Luned Gwyn.