'Rhy hwyr i'r Llewod'

Mae maswr Cymru a'r Sgarlets Rhys Priestland yn gobeithio bod 'nôl ar y cae rygbi mewn deufis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei achillies. Ond mae o'n ofni y bydd hynny'n rhy hwyr iddo fo gael ei ystyried ar gyfer taith y Llewod yn yr Haf. Roedd o yn Llangefni ddydd Gwener - hen glwb George North - mewn sesiwn hyfforddi i blant lleol, a Dafydd Gwynn aeth draw i'w holi.