Cyhoeddiad annisgwyl Y Pab
Am y tro cynta' ers bron i 600 mlynedd mae Pab wedi penderfynu ymddiswyddo.
Mewn cyhoeddiad cwbl annisgwyl mi ddywedodd y Pab Bened XVI fod ei iechyd yn dirywio ac nad oedd ganddo'r egni corfforol na meddyliol erbyn hyn i fedru cyflawni ei holl ddyletswyddau.
Fe fydd arweinydd yr Eglwys Babyddol, sy'n 85 mlwydd oed, yn gadael ei swydd ar ddiwrnod ola'r mis.
Y bwriad, meddai'r Fatican, yw dewis y Pab nesa' cyn y Pasg.
Telor Iwan sy'n edrych ar ei benderfyniad hanesyddol a'r goblygiadau i'r Eglwys Gatholig a thu hwnt.