Lle mwy amlwg i'r sêr hylendid?
Mae'n bosib y bydd bwytai yn cael eu gorfodi i arddangos y marciau maen nhw wedi eu cael am hylendid bwyd.
Ar hyn o bryd does dim rhaid i bob busnes sy'n darparu bwyd ddangos eu sgôr.
Ond mae disgwyl i Aelodau Cynulliad bleidleisio o blaid mesur newydd ddydd Mawrth, fyddai'n gorfodi busnesau i arddangos eu marciau.
Aeth Alun Rhys i gaffi ym mhentre'r Ffor ger Pwllheli i holi'r farn yno.