Cyfarfod i drafod undeb credyd newydd
Fe fydd 'na gyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin i drafod sefydlu undeb credyd newydd yno.
Banciau cymunedol ydyn nhw mewn gwirionedd, sy'n rhoi benthyciadau i bobl ac yn eu galluogi i gynilo.
Ond pam yr ymgyrchu i gael undeb yng Nghaerfyrddin a beth yw gwerth sefydliad o'r fath?
Catrin Heledd fu'n holi.