Cywain yn cau
Mae Canolfan Cywain yn Y Bala, canolfan bywyd gwledig newydd, wedi cau ar ôl llai na phum mlynedd.
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Darren Millar AS wedi dweud ei fod am gyfeirio'r mater at Swyddfa Archwilio Cymru.
Asiantaeth leol 'Antur Penllyn' oedd yn gyfrifol am y ganolfan, ond mae'r adeilad bellach wedi ei drosglwyddo yn ôl i berchenog gwreiddiol y safle.
Mae BBC Cymru hefyd yn deall fod dyfodol Antur Penllyn ei hun bellach yn y fantol.
Adroddiad Illtud ab Alwyn.