10% o ffermwyr yn cyfadde i ladd moch daear
Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor i agweddau tirfeddianwyr at anifeiliaid gwyllt yn awgrymu bod gymaint â 10% o ffermwyr Cymru yn lladd moch daear, er bod hynny'n anghyfreithlon.
Mi wnaeth nifer gyfadde' i wneud hynny am eu bod nhw'n poeni bod moch daear yn heintio'u gwartheg efo'r diciâu a bod polisïau'r llywodraeth i ddelio efo'r broblem yn methu.
Adroddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru Iolo ap Dafydd.