Miloedd yn aros am dâl cyfartal
Fe aeth pum mlynedd heibio ers i gynghorau Cymru gytuno i dalu'r un cyflog i ddynion a merched, am yr un math o waith.
Ond mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod mai dim ond tri chyngor sydd wedi llwyddo i wneud hynny hyd yma.
Dydy amryw o gynghorau ddim wedi talu ceiniog o'r hyn y mae cannoedd o ferched yn ei hawlio.
Adroddiad Steffan Powell.