Her i'r Gymraeg
Dywed Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones mai'r brif her i'r Gymraeg yw gwneud yn siwr fod pobl ifanc yn siarad yr iaith y tu allan i'r dosbarth.
Daeth ei sylwadau ar ddiwrnod cyhoeddi ystadegau Cyfrifiad 2011.
Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys fu'n holi Mr Jones ynglyn â defnydd y Gymraeg.