Arian i ddiogelu rhai o drysorau Cymru sy'n eiddo i Brifysgol Cymru
Mae'n bosib fod dyfodol rhai o drysorau diwylliannol Cymru'n fwy diogel.
Y sefydliadau sy'n eiddo i Brifysgol Cymru yw'r rhain.
Maen nhw'n cynnwys Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd, Geiriadur a Gwasg y Brifysgol a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Cyhoeddodd Cyngor y Brifysgol y bydd cronfa newydd o bron i £7 miliwn ar gael i'w cynnal nhw.
Adroddiad Gwenfair Griffith