'Oes 'na or-ddefnydd o'r gwn taser?'
Mae'r tebygrwydd y bydd yr heddlu yn eich saethu â gwn Taser yn amrywio gan ddibynnu ar ba ran o Gymru yr ydych chi.
Mae hyn o ganlyniad i'r ffordd y mae'r lluoedd yn dehongli'r rheolau yn ôl y grŵp hawliau dynol Amnest Rhyngwladol.
Yn ôl y ffigyrau diweddara, mae Heddlu Gwent yn defnyddio'r teclyn yn fwy aml o gymharu â Heddlu'r Gogledd, er bod yr un nifer o heddweision wedi'u hyfforddi i'w ddefnyddio, mewn cymuned sydd â phoblogaeth debyg
Garry Owen gafodd ymateb Aelod Seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd sy'n aelod o bwyllgor dethol ar gyfiawnder San Steffan gan ofyn iddo a oedd o'n rhannu pryderon mudiad Liberty ynglyn â defnydd o ynnau Tasers.