Gwasanaeth newydd i ofalwyr y gogledd orllewin
Mae gwasanaeth cynnal gofalwyr Gwynedd, Môn a Chonwy yn agor swyddfa newydd yn Llangefni ddydd Mercher er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i bobl sy'n gofalu am berthnasau yn eu cartrefi.
Un sydd eisoes wedi elwa o gymorth y cynllun ydi Beti Wyn Morgan o Borth Llechog ger Amlwch sy'n gofalu am ei gŵr.
Bu'n sgwrsio efo Merfyn Davies.