'Angen newid y gwasanaeth ambiwlans o'r top'
Mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi adolygiad o'r gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.
Bydd yn edrych ar bob agwedd o'r gwasanaeth gan gynnwys perfformiad, cyllid, y berthynas gyda'r byrddau iechyd lleol a'r ffaith bod y gwasanaeth methu â chwrdd â thargedau o ran cyrraedd cleifion ar amser.
Nia Thomas fu'n trafod yr adolygiad a chyflwr y gwasanaeth ambiwlans gyda'r cyn-barafeddyg gyda'r gwasanaeth, Trefor Lloyd Hughes, sydd hefyd yn gynghorydd ar Ynys Môn.