'Angen i S4C fod yn fwy radical'
Wrth i S4C ddathlu ei phenblwydd yn 30 oed mae prif weithredwr y sianel wedi dweud wrth y Post Cyntaf fod angen i S4C "dorri mas o'r bocs yng nghornel y stafell".
Mae Ian Jones yn dweud bod rhaid i gynnyrch y sianel fod ar gael pryd bynnag a lle bynnag mae'r gynulleidfa am ei weld.
Pennaeth un o brif gwmniau annibynnol Cymru, Tinoplis, yw Ron Jones.
Mae o hefyd wedi dweud fod angen i S4C fod yn fwy radical yn y dyfodol.
Garry Owen fu'n ei holi.