BBC Cymru Fyw

£5m i wella Gorsaf Reilffordd Llandudno

Gwella Gorsaf Reilffordd Llandudno ydi bwriad cynllun £5 miliwn sy'n dechrau'r wythnos hon.

Bydd cyntedd yr adeilad yn cael ei weddnewid a bydd na swyddfa docynnau newydd.

Bydd gwaith tebyg yn digwydd mewn gorsafoedd ar draws Cymru maes o law.

Adroddiad Rhian Price o Landudno.