Trafod cynllun i ehangu'r brifddinas
Sicrhau bod digon o dai i bobl sydd eisiau byw a gweithio yng Nghaerdydd.
Dyna fydd cynghorwyr y brifddinas yn ei drafod ddydd Iau.
Maen nhw'n ystyried cynlluniau uchelgeisiol i ehangu maint y ddinas a chaniatau cynyddu nifer y cartrefi 25% dros y blynyddoedd nesa'.
Hwn fyddai'r cynydd mwya ers 1950au'r ganrif ddiwetha.
Adroddiad Alun Thomas.