Cymraes yn son am ddaeargryn Yr Eidal

Mae daeargryn yn Yr Eidal wedi lladd o leiaf chwech o bobl.

Mae tua 50 o bobl wedi cael eu hanafu.

O ganlyniad i'r ddaeargryn mae adeiladau hanesyddol wedi eu difrodi.

Roedd y canolbwynt tua 20 milltir i'r gogledd o Bologna.

Dyfan Tudur gafodd ymateb y Gymraes Menna Price sy'n byw ger Bologna.

Cyhoeddwyd
Is-adran
Hafan