Guto Bebb ar Bwyllgor 1922

Mae Aelod Seneddol o Gymru bellach yn aelod o bwyllgor gwaith y pwyllgor dylanwadol sy'n cynrychioli aelodau meinciau cefn y blaid Geidwadol yn y senedd - Pwyllgor 1922.

Roedd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn un o 12 gafodd eu hethol ddydd Mercher.

Yn ôl rhai sylwebyddion roedd canlyniad y bleidlais yn ergyd i'r adain mwy traddodiadol y blaid yn y senedd.

Garry Owen fu'n holi Guto Bebb.