Cymru yn mentro

Bydd Gweinidog Busnes Cymru Edwina Hart yn cyhoeddi mwy o fanylion am ardaloedd menter newydd y llywodraeth ddydd Mawrth.

Y llynedd fe ddaeth Llywodraeth Cymru o dan bwysau i sefydlu ardaloedd o'r fath ar ôl methu perswadio cwmni Jaguar i godi ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyhoeddwyd y bydd pum ardal menter yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddiwydiannau gwahanol.

Adroddiad Steffan Powell.

Cyhoeddwyd
Is-adran
Hafan