Gatland yn enwi carfan o 35

Mae carfan rygbi Cymru ar gyfer y cyfnod ymarfer cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael ei chyhoeddi.

Ymhlith y 35 o chwaraewyr, mae 'na le i Gavin Henson.

Mae Warren Gatland wedi dewis Sam Warburton fel capten, wedi ei gyfnod o arwain yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

O'r 35, bydd carfan o 30 yn cael ei dewis yr wythnos nesa' ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda Chymru yn dechrau eu hymgyrch ar Chwefror 5.

Sylwebydd Rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, fu'n trafod y garfan gyda Dylan Jones ar raglen Taro'r Post.

Cyhoeddwyd
Is-adran
Hafan