Brexit: Beth am economi Cymru?
Sarah Dickins
Gohebydd economaidd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Ai diwedd y gân yw'r geiniog?
Cymru sy'n derbyn y buddsoddiad mwya' gan yr Undeb Ewropeaidd, ond fe bleidleisiodd y rhan fwyaf i adael.
Mae'r farchnad brynu a gwerthu rhwng Cymru a gweddill gwledydd yr undeb yn rhan fawr o hyn, ond mae buddsoddiad uniongyrchol gan yr undeb yn hanfodol i hyn, hefyd.
Ers 2000, Cymru sydd wedi elwa fwya' o ran lefelau cymorth economaidd, gan mai dyma un o rannau tlotaf yr undeb er i wledydd eraill o ddwyrain Ewrop ymuno.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cymru wedi derbyn £4bn mewn nawdd ers 2000.
Roedd disgwyl i hynny barhau tan 2020. Erbyn hyn, dydy hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd. Fodd bynnag, mae'r arian yn cael ei ddosbarthu mewn cyfnodau o saith mlynedd, ac felly mae'n bosibl y bydd y nawdd yn parhau.
Nod yr arian hwnnw ydy rhoi cymorth i wneud economi Cymru yn gryfach a chyfoethocach.
Dwy ardal
Mae Cymru wedi ei rhannu'n ddwy ardal: Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sy'n cynnwys 15 awdurdod lleol, a Dwyrain Cymru, sy'n cynnwys saith.
Mae'r lefel uchaf o fuddsoddiad strwythurol wedi ei roi i Orllewin Cymru a'r Cymoedd. Yn 2000, dyma gafodd ei alw'n Amcan Un. Mae'n cael ei gynnig i wledydd yr UE sydd â Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) sydd dri-chwarter yn llai na'r GVA cyfartalog ledled yr undeb.
Yn y rownd ddiweddara' - hyd at 2020 - mae'r ardal wedi elwa o £1.89bn.
Mae buddsoddiad strwythurol wedi dod i Gymru o ddau bot: Y Gronfa Gymdeithasol a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol.
Fe gafodd yr arian ei ddefnyddio i helpu i ariannu nifer o fentrau ledled Cymru, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru ac adnewyddu Ffordd Pen y Cymoedd, yr A465.
Wedi i'r DU bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, fydd Cymru ddim yn gymwys i ymgeisio am y cronfeydd hynny. Gydol yr ymgyrch, mae ymgyrchwyr i adael yr undeb wedi mynnu y bydd modd gwneud cais am arian o'r fath gan y Trysorlys, petai Prydain yn gadael.
Yn ogystal, mae Cymru'n buddsoddi'n fewnol ar lefel ehangach na gweddill y DU.
Fe ddaeth nifer o fusnesau rhyngwladol i Gymru er mwyn bod o fewn y Farchnad Sengl Ewropeaidd - sy'n eu galluogi i fasnachu heb ffiniau.
Gyda'r bleidlais, mae hyn yn newid. Allwn ni ddim darogan sut y bydd hyn yn effeithio ar gwmnïau tramor yng Nghymru, na'r rheiny oedd yn bwriadu sefydlu safleoedd yma.
Y bore 'ma, fe ddywedodd prif weithredwr Aston Martin - sy'n buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnau a chreu 750 o swyddi yn Sain Tathan - fod rhaid i Brydain sicrhau marchnad Ewropeaidd heb dollau.
Mae Tata - sy'n berchen ar safleoedd ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre - yn ogystal â Jaguar Land Rover - sy'n cydweithio â nifer o fusnesau yng Nghymru - wedi dweud mai mynediad i'r marchnadoedd a gweithlu medrus yw'r blaenoriaethau i'w busnesau ym Mhrydain.