Ceidwadwyr yn ennill seddi yng Nghymru ac ar draws y DU

ceidwadwyr
Image caption Mae'r Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Sir Faesyfed

Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill saith o seddi yng Nghymru - y rhan fwyaf yn y gogledd ddwyrain, a hynny ar noson dda i'r blaid ar draws y DU. Cyfanswm y blaid yng Nghymru oedd 14.

Llwyddodd y Torïaid i gipio Wrecsam, De Clwyd, Dyffryn Clwyd a Delyn, yn ogystal ag Ynys Môn a Phen-y-bont, oddi ar y blaid Lafur.

Fe wnaethon nhw hefyd adennill Brycheiniog a Sir Faesyfed ar ôl colli'r sedd honno mewn isetholiad ym mis Awst.

Ond mae Llafur wedi dal eu gafael ar seddi eraill oedd o fewn cyrraedd y Ceidwadwyr, gan gynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy, Gŵyr a Gorllewin Casnewydd.

Mae Plaid Cymru wedi cadw'r pedair sedd oedd ganddyn nhw, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig sedd yng Nghymru.

Llwyddodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol, i ddal ei afael ar etholaeth Bro Morgannwg.

'Wal goch' yn syrthio

Ar draws y DU mae'r Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi oddi ar y blaid Lafur i sicrhau mwyafrif o 80 yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae'r darlun yn wahanol yn yr Alban ble mae'r SNP wedi ennill 48 o seddi - gan gynnwys un Jo Swinson, sydd wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi dweud na fydd yn arwain y blaid i mewn i'r etholiad nesaf.

Ond mae nifer o ASau a chyn-ASau Llafur wedi galw ar Mr Corbyn i gamu o'r neilltu yn syth ar ôl y canlyniadau siomedig.

Image caption Map etholiadol newydd Cymru (chwith) o'i gymharu â chanlyniad etholiad cyffredinol 2017 (dde)

Gyda phob un o 40 sedd Cymru wedi'u cyhoeddi mae Llafur wedi ennill 22 sedd, y Ceidwadwyr ar 14, a Phlaid Cymru ar bedair.

Cafodd 13 o fenywod eu hethol yng Nghymru - y nifer fwyaf erioed - gan gynnwys ASau benywaidd cyntaf y blaid Geidwadol.

Fe ddaeth colledion Llafur yng Nghymru yn bennaf yn y gogledd ddwyrain, ble collwyd y 'wal goch' o seddi i'r Ceidwadwyr - gan gynnwys Wrecsam, sedd sydd erioed wedi bod yn nwylo'r Torïaid cyn nawr.

Mae'n golygu mai Alun a Glannau Dyfrdwy - gafodd ei chadw gyda mwyafrif o ddim ond 213 - ydy'r unig sedd sydd gan y blaid y tu hwnt i'r cymoedd a dinasoedd y de.

Dywedodd yr AS Ceidwadol David TC Davies, sy'n dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ar ôl adennill sedd Mynwy: "Rydw i'n gwybod yn iawn fod lot o bobol wedi pleidleisio i'r Ceidwadwyr am y tro cyntaf yn yr etholiad yma.

"Dydw i ddim yn gweld hyn fel mandad ar gyfer rhyw fath o lywodraeth eithafol, rwy'n gweld hyn fel mandad am lywodraeth ar y tir canol."

'Sawl ffactor' ym mherfformiad Llafur

Wrth ymateb i'r canlyniad siomedig i'r Blaid Lafur, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod Brexit a sawl ffactor arall yn gyfrifol, a nid dim ond ymateb y cyhoedd i arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Dywedodd fod penderfyniad Mr Corbyn i barhau fel arweinydd am y tro yn benderfyniad cywir: "Mae jyst yn ymarferol - mae lot o bobl wedi gwneud beth mae Jeremy yn wneud. Mae pum mlynedd yn San Steffan gyda'r llywodraeth newydd felly does dim rhaid i ni wneud popeth mewn pum munud.

"Mae e'n mynd i helpu ni i gynllunio am y dyfodol...mae lan i aelodau'r Blaid Lafur am bwy fydd yr arweinydd newydd. Gawn ni weld pwy fydd yn fodlon gwneud y gwaith a bydd dewis i'w gael ond dydyn ni ddim yn y sefyllfa yna heddi."

Image caption Llwyddodd Ben Lake i gynyddu ei fwyafrif yng Ngheredigion, un o lwyddiannau'r noson i Blaid Cymru

Llwyddodd y Ceidwadwyr i ailgipio Brycheiniog a Sir Faesyfed, sedd a gollon nhw i'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn isetholiad yn gynharach eleni.

Arhosodd Plaid Cymru yn eu hunfan o ran nifer y seddi, ond llwyddodd y blaid i gynyddu eu mwyafrif yn seddi Ceredigion ac Arfon lle bu canlyniadau agos iawn yn 2017.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi amddiffyn y penderfyniad i fod yn rhan o'r cytundeb gyda phleidiau eraill sy'n gwrthwynebu Brexit mewn ymgais i osgoi rhannu'r bleidlais Aros.

Dywedodd bod hi'n "hollol gywir" i'r blaid fod "yn glir ynghylch lle roedden ni'n sefyll" a bod y Blaid Lafur wedi gwneud "camgymeriad erchyll, digyfiawnhad trwy geisio eistedd ar y ffens" ynghylch Brexit.

Straeon perthnasol