Etholiad 2019: Diwrnod olaf o ymgyrchu

Boris Johnson, Jeremy Corbyn, Adam Price, Nigel Farage and Jo Swinson Image copyright Getty Images

Bydd y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn gwneud ymgais olaf i ennill pleidleisiau cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â de Cymru ddydd Mercher i geisio cael cefnogaeth i'r Ceidwadwyr.

Bydd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, hefyd yn ymgyrchu yn y de.

Mae Plaid Cymru yn galw am wneud dweud celwydd mewn gwleidyddiaeth yn drosedd.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni y byddai atal Brexit yn arwain at 'fonws Aros' o £50bn i wasanaethau cyhoeddus.

Y Ceidwadwyr a Llafur yw'r unig ddwy blaid i sefyll ymhob un o'r 40 etholaeth yng Nghymru.

Yn dilyn cytundeb etholiadol ymhlith pleidiau sydd o blaid Aros, fe fydd Plaid Cymru yn sefyll mewn 36 etholaeth, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Brexit mewn 32 a'r Gwyrddion mewn 18.

Bydd Mr Johnson yn annog pleidleiswyr i roi mwyafrif seneddol iddo er mwyn cwblhau Brexit a fydd, meddai, yn "rhyddhau potensial y wlad".

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Ein neges yw y bydd pleidlais i unrhyw blaid arall yn bleidlais dros fwy o oedi - mae'n rhaid i ni gwblhau Brexit er mwyn canolbwyntio ar bethau sy'n bwysig i bobl fel swyddi, iechyd, addysg, taclo troseddu a manteisio ar y buddion a ddaw o adael yr Undeb Ewropeaidd."

Bydd Mark Drakeford yn ymgyrchu yn un o seddau targed Llafur - Bro Morgannwg - ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae Llafur wedi addo mwy o arian i Gymru i fuddsoddi yn y GIG, addysg, llywodraeth leol a'r heddlu, gan alw am "chwyldro diwydiannol gwyrdd".

Mae Llafur hefyd wedi addo cyflog byw go iawn i o leia' £10 yr awr, ac wedi rhoi cefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe ac atomfa newydd ar Ynys Môn.

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur yng Nghymru, Carolyn Harris: "Mae'r bygythiad o bum mlynedd arall o lywodraeth Geidwadol y DU yn hongian dros Gymru, ac fe fydd Llafur Cymru yn cnocio drysau ledled Cymru tan i'r blychau pleidleisio gau am 22:00 nos yfory."

Mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu am refferendwm arall ar yr UE ac am "chwyldro swyddi gwyrdd" gyda buddsoddiad mewn meysydd fel ynni adnewyddol ac isadeiledd trafnidiaeth.

Ddydd Mercher, bydd y blaid hefyd yn sôn am gynllun ei harweinydd Adam Price fyddai'n golygu bod dweud celwydd gan wleidyddion etholedig yn dod yn drosedd.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Adam Price am ei gwneud hi'n drosedd i wleidyddion ddweud celwydd yn fwriadol i'r cyhoedd

Dywedodd Mr Price, sydd wedi llunio Mesur Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Twyllo), y byddai'n adfer ymddiriedaeth mewn oes o "newyddion ffug, barn ffug a ffigyrau ffug".

Wrth sôn am ei neges gyffredinol i bleidleisiwyr, dywedodd Mr Price: "Plaid Cymru yw'r brif blaid dros 'Aros' yma yng Nghymru, ac ry'n ni wedi bod yn glir am hynny gydol yr etholiad yma.

"Ry'n ni am weld diwedd Brexit unwaith ac am byth, a'r ffordd i wneud hynny yw cael pleidlais y bobl ar y cyfle cyntaf."

Roedd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn pwysleisio neges ei phlaid ar yr amgylchedd.

"Am rhy hir, mae ein gwleidyddiaeth wedi cael ei nodweddu gan rhaniadau, anonestrwydd ac anoddefgarwch," meddai.

"Dyna pam yr ydym yn cynnig cynllun uchelgeisiol i adeiladu dyfodol gwell i Gymru yn yr etholiad hwn.

"Mae taclo newid hinsawdd yn ganolog i'n gweledigaeth i Gymru. Ni allwn adeiladu dyfodol gwell os fyddwn yn gadael planed wedi'i difrodi i genedlaethau'r dyfodol."

Image caption Dywedodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfryol fod taclo newid hinsawdd yn ganolog i'w gweledigaeth i Gymru

Dywedodd y Blaid Werdd y byddai'n gwneud Cymru yn arweinydd wrth daclo newid hinsawdd, ac y byddai'n cefnogi cynlluniau fel Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, ei fod "wedi ymrwymo i amddiffyn ein hawliau fel dinasyddion Ewrop drwy barhau i ymgyrchu am Bleidlais y Bobl ar y cytundeb Brexit terfynol, a brwydro wedyn dros Aros a thrawsnewid yr UE".

Ychwanegodd: "Gall pleidleiswyr ymddiried ynom ni i gymryd y camau angenrheidiol a phenderfynol i daclo newid hinsawdd, gwarchod ein hamgylchedd a gadael i natur ffynnu."

Dywedodd Plaid Brexit y byddan nhw'n sicrhau y bydd Boris Johnson, os fydd yn ennill yr etholiad, yn cadw'i addewid i gyflawni Brexit.

Maen nhw wedi addo buddsoddi £12bn dros bum mlynedd yng Nghymru ar ôl i Brydain adael yr UE - fel rhan o gynllun gwario gwerth £200bn ar draws y DU - ar isadeiledd, wi-fi a gwasanaethau i bobl ifanc.

Straeon perthnasol