Etholiad 2019: Ymgeiswyr yn poeni am gyhoeddi cyfeiriad

Poster wedi'i difrodi yn 2017 Image copyright Sheryll Murray
Image caption Mae sawl ymgeisydd weid cwyno am bosteri yn cael eu difrodi yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Mae ymgeisydd benywaidd yn rhybuddio merched eraill na ddylen nhw fod yn cyhoeddi eu cyfeiriad cartref ar bapurau pleidleisio am resymau diogelwch.

Yn ôl Tonia Antonazzi, sy'n ymgeisydd Llafur, mae hi eisoes wedi gorfod adrodd bygythiad tuag ati i'r heddlu wrth ymgyrchu'n lleol ers i'r etholiad cyffredinol gael ei alw.

Daw ei sylwadau ar ôl i ymgeisydd benywaidd arall, Fay Jones o'r Ceidwadwyr, ddweud nad yw hin teimlo'n ddiogel yn ei chartref ar ôl sylwi fod rhywun wedi ceisio cael mynediad i'w gardd ac ar ôl i boster y Ceidwadwyr gael ei dynnu i lawr.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yng Nghymru (ERS Cymru) yn dweud fod esiamplau o gamdriniaeth o ymgeiswyr yn "adlewyrchiad pam fod sawl ymgeisydd yn gwrthod cyhoeddi eu cyfeiriad cartref cyn etholiad".

Diogelwch

Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod fod 52% o ymgeiswyr ar draws etholaethau Cymru wedi penderfynu peidio â chyhoeddi eu cyfeiriad yn llawn eleni ar ddogfennau etholiad swyddogol.

Yn ystod etholiadau San Steffan, mae ymgeiswyr yn cael dewis naill ai i gyhoeddi eu cyfeiriadau ar bapurau etholiad - mae'n cael ei weld fel ffordd o gadarnhau cysylltiad yr ymgeisydd gyda'r ardal leol - neu dim ond cyhoeddi'r etholaeth y maen nhw'n byw ynddi.

Image caption Yn ôl Tonia Antonazzi sy'n ymgeisydd Llafur, mae hi eisoes wedi gorfod adrodd bygythiad tuag ati i'r heddlu wrth ymgyrchu'n lleol ers i'r etholiad cyffredinol gael ei alw.

Ond mewn o leiaf pedair etholaeth yng Nghymru - Ynys Môn, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Mynwy ac Aberconwy - mae'r holl ymgeiswyr wedi penderfynu peidio â datgelu eu cyfeiriadau ac wedi dewis datgan eu hetholaeth yn unig.

Dywedodd Ms Antoniazzi fod ei phenderfyniad i beidio â chyhoeddi ei chyfeiriad yn "benderfyniad gwbl fwriadol ar ei rhan".

"Ni ddylai pobl ei wneud e, yn enwedig marched …. Fyswn i ddim yn ei argymell," meddai.

Ychwanegodd ei bod eisoes wedi gorfod adrodd am un achos i'r heddlu ble roedd person yn ymddwyn yn fygythiol tra oedd hi allan yn ymgyrchu ar ôl "bygwth lladd ASau".

"Dwi ddim eisiau i bobl wybod ble dwi'n byw ….. Nid yw o ddiddordeb i unrhyw un os nad ydyn nhw eisiau bod yn fygythiol."

'Safbwyntiau eithafol'

Dywedodd fod yr heddlu wedi bod yn dda iawn yn ei chefnogi hi a'i staff gydag unrhyw fater diogelwch yn ystod y cyfnod etholiadol.

"Mae rhai pobl gyda safbwyntiau eithafol …. Ac mae'r etholiad yma'n cael ei baentio am etholiad am Brexit - mae'n ysgogi llawer o gasineb."

Dywedodd un ymgeisydd arall, Fay Jones sy'n sefyll dros y Ceidwadwyr ei bod hi'n difaru cyhoeddi ei chyfeiriad ar ddogfennau etholiad.

"Tair wythnos cyn yn etholiad, mae eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi, mae pobl yn gwybod ble mae ymgeiswyr yn byw."

Image caption Ers iddi gael ei hethol yn AS Plaid Cymru yn 2015, dyweodd Liz Saville Roberts mai dyma'r tro cyntaf erioed iddi beidio â chyhoeddi ei chyfeiriad llawn.

Dywedodd Fay Jones ei bod wedi dychwelyd i'w chartref nos Lun a sylwi fod rhywun wedi ceisio cael mynediad i'w gardd a chymryd poster i lawr.

"Fyswn i ddim yn aros yno ar fy mhen fy hun …. Mae pobl yn teimlo'n gynhyrfus ar hyn o bryd.

"Os faswn i'n gwneud hyn eto ni faswn yn cyhoeddi fy nghyfeiriad eto. Dwi wastad wedi gwneud hyn, ond wrth edrych ymlaen mae rhaid edrych ar y sefyllfa, er mwyn cadw ymgeiswyr yn ddiogel."

Mae Bablin Molik, sy'n sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol, yn un o'r 104 o ymgeiswyr sydd wedi cyhoeddi eu cyfeiriad ond yn dweud na fyddai'n gwneud eto.

"Ar ôl i mi weld y cyfeiriad ar y papur pleidleisio am y tro cyntaf y peth cyntaf i mi wneud oedd meddwl am fy mhlant.

"Dim ond dogfen yw hi, pan rydych yn ei llenwi mae'n gofyn am eich cyfeiriad, nes i ddim meddwl am yr oblygiadau.

"Doedd dim cyfarwyddyd ynglŷn â beth fyddai'n digwydd os byddwn yn ei gyhoeddi. Dylai pobl fod yn ymwybodol," meddai.

Camdriniaeth

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol maen nhw yn darparu cyngor i ymgeiswyr ynglŷn â'r problemau posib cyn iddyn nhw sefyll mewn etholiad.

"Penderfyniad yr ymgeisydd yw cyhoeddi eu cyfeiriad a'i pheidio. Mae diogelwch ymgeiswyr yn hanfodol ac rydym wedi cyhoeddi cynghorion ar y cyd gyda Cyngor Cenedlaethol y Prif Gwnstabliaid i helpu ymgeiswyr adnabod ymddygiad aflonyddus a bygythiol, a sut i aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod etholiadol."

Ers iddi gael ei hethol yn AS Plaid Cymru yn 2015, dywedodd Liz Saville Roberts mai dyma'r tro cyntaf erioed iddi beidio â chyhoeddi ei chyfeiriad llawn.

"Dwi'n credu ei bod hi'n ddoeth i beidio â chyhoeddi cyfeiriad - yn yr oes ble mae pobl yn wynebu bygythiadau gwirioneddol.

"Rwyf wedi siarad gyda'r heddlu ynglŷn â hyn, a dwi ddim yn gweld unrhyw bwrpas i gyhoeddi eich cyfeiriad cartref.

"Ar un llaw mae'n bwysig i ddangos eich cysylltiad â'r ardal leol, ond mae cyhoeddi eich cyfeiriad cartref yn perthyn i oes arall .... mae'r teimlad o amgylch yr etholiad yma'n hollol wahanol."

Image caption Ni fyddai Bablin Molik yn cyhoeddi ei chyfeiriad ar ddogfen etom meddai.

Mae ERS Cymru yn dweud fod y nifer o ymgeiswyr sydd heb gyhoeddi eu cyfeiriad yn brawf o'r gamdriniaeth mae sawl un o'r ymgeiswyr yn ddioddef.

Dywedodd llefarydd: "Roedd ein hymchwil y llynedd yn dangos fod 54% o wleidyddion benywaidd wedi goddef camdriniaeth yn eu rôl.

"Mae hyn yn destun pryder. Mae'n glir fod y sefydliad a phleidiau wedi methu a thaclo camdriniaeth o fewn gwleidyddiaeth a sut y mae hi'n briodol i bleidiau gyd-weithio i wella diogelwch i'r rhai sy'n sefyll yn yr etholiad.

"Mae angen gwneud rhagor i sicrhau diogelwch ymgeiswyr gan gynnwys annog cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gymryd camau cryfach yn erbyn y rhai sy'n cam-drin ymgeiswyr ar-lein.

"Fe ddylai ymgeiswyr hefyd gael cynnig hyfforddiant ar sut i ymdopi ac i adrodd ar unrhyw ymddygiad bygythiol," meddai.

Straeon perthnasol