Sut fydd y BBC yn adrodd canlyniadau etholiadau lleol 2017?
- Cyhoeddwyd
Pa etholiadau fydd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2017?
Bydd etholiadau'n cael eu cynnal mewn 34 o gynghorau yn Lloegr, pob un o 32 o gynghorau Yr Alban a phob un o 22 o gynghorau Cymru ar 4 Mai 2017.
Yn ogystal, bydd chwe ardal yn Lloegr yn pleidleisio am rôl newydd y "meiri awdurdod lleol cyfunol".
Bydd y meiri yma'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd yn eu hardaloedd, ond fe fydd gan rai bwerau dros drafnidiaeth a thai.
Mae Doncaster a Gogledd Tyneside hefyd yn ethol meiri awdurdod lleol, fydd yn arweinwyr eu cynghorau.
Mewn etholiadau lleol, mae cynghorwyr yn cael eu hethol i redeg awdurdodau lleol.
Mae cyngor sir yn gyfrifol am reoli sir, fel Sir Ddinbych neu Sir Gaerfyrddin er enghraifft.
Maen nhw'n gyfrifol am ofalu am y gwasanaethau cyngor mwyaf drud gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, priffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, heddluoedd a gwasanaethau tân, gwastraff a chynllunio strategol.
Caiff rhai siroedd eu rhannu'n gynghorau ardal, sy'n gyfrifol am faterion lleol a gwasanaethau fel cynllunio, tai cyngor, ffyrdd llai, iechyd yr amgylchedd, marchnadoedd, casglu gwastraff ac ailgylchu, parciau a thwristiaeth.
Mewn rhai llefydd, mae'r ddau fath o gyngor yn cael eu cyfuno i greu awdurdod unedol sy'n gyfrifol am yr holl wasanaethau.
Yn 2017, mae bron pob etholiad yn Lloegr ar gyfer cyngor sir, tra bod pob cyngor yng Nghymru a'r Alban yn awdurdodau unedol.
Bydd chwe maer newydd yn cael eu hethol i gynrychioli nifer o ardaloedd yn Lloegr.
Mae'r swyddi yma'n cael eu creu fel rhan o gynllun y llywodraeth i gynyddu pwerau lleol a datganoli mwy o bwerau i ardaloedd yn Lloegr.
Bydd y meiri yn cynrychioli nifer o awdurdodau lleol ym mhob ardal.
Mae'r union bwerau yn amrywio yn ôl y gwahanol gytundebau rhwng awdurdodau a'r llywodraeth, ond yn gyffredinol yn ymwneud a strategaeth economaidd, trafnidiaeth a chynllunio.
Mae gwahanol fathau o gyngor ar draws y DU ac maen nhw'n cynnal etholiadau ar adegau gwahanol.
Nid yw pob cyngor yn cynnal etholiad bob blwyddyn.
Bydd rhai cynghorau yng Nghymru a Lloegr yn dechrau cyfri' pleidleisiau yn syth ar ôl i'r blychau gan am 22:00 ar 4 Mai.
Bydd eraill yn dechrau cyfri' fore Gwener gyda'r canlyniadau'n cael eu cadarnhau yn ystod y dydd.
Mae cynghorau yn Yr Alban yn dechrau cyfri' fore Gwener, ac mae disgwyl y canlyniadau cyntaf tua 12:00.
Bydd canlyniadau etholiadau meiri yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Os oes gan blaid fwyafrif ar unrhyw gyngor, mae'n cael ei ystyried mewn rheolaeth o'r cyngor yna.
Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif yna caiff ei ddisgrifio fel "Dim Rheolaeth Lawn".
Mae'r BBC, Press Association ac eraill yn diffinio rheolaeth cyngor cyn etholiad fel y blaid, os oes un o gwbl, sydd â mwyafrif ar y noson cyn y bleidlais.
Pe bai'r Ceidwadwyr wedi ennill cyngor yn 2012, ond yna drwy aelodau'n gadael y blaid a seddi wedi eu colli mewn isetholiadau mae'r cyngor yn troi'n un Dim Rheolaeth Lawn, yn 2017, pe bai'r Ceidwadwyr yn cael mwyafrif byddai'n cael ei ddisgrifio fel y Ceidwadwyr yn cipio'r cyngor.
Mae newid mewn seddi yn ddibynnol ar faint o seddi wnaeth bob plaid eu hennill yn yr etholiad tebyg diwethaf.
Yn Lloegr, roedd yr etholiad diwethaf i bron bob un o'r seddi yn 2013* a bron pobman yng Nghymru yn 2012**.
Roedd etholiadau lleol diwethaf Yr Alban yn 2012.
Mewn rhai cynghorau, mae newidiadau i ffiniau wrth ad-drefnu cynghorau ac mae'r nifer o seddi ar y cyngor yn newid.
Mewn achosion o'r fath, mae'r BBC yn defnyddio "canlyniadau damcaniaethol" i amcangyfrif beth fyddai'r canlyniad wedi bod petai'r ffiniau wedi newid yn yr etholiad diwethaf.
Bydd cyfanswm y seddi i bob plaid ychydig yn wahanol i'r seddi wrth ddiddymu a'r rhai gafodd eu hennill yn 2012 a 2013.
* Roedd etholiad diwethaf tebyg Doncaster yn 2015
** Cafodd etholiad Ynys Môn ei ohirio am flwyddyn tan 2013.
ANI - Annibynnol
CEID - Ceidwadwyr
DRL - Dim Rheolaeth Lawn
DRh - Democratiaid Rhyddfrydol
GRDD - Plaid Werdd
LLAF - Llafur
LLG - Llais Gwynedd
PC - Plaid Cymru
UKIP - Plaid Annibyniaeth y DU
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Penfro
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir Gaerfyrddin
Sir y Fflint
Torfaen
Wrecsam
Ynys Môn