Andrew RT Davies: Gallai myfyrwyr dderbyn llai

Andrew RT Davies

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi amddiffyn cynlluniau ei blaid i gael gwared ar gymhorthdal ffioedd dysgu, ar ôl cyfaddef y byddai myfyrwyr yn derbyn llai yn y dyfodol.

Yn nadl BBC Cymru yn Abertawe nos Lun, dywedodd nad oedd y system yn fforddiadwy ar hyn o bryd, ai fod eisiau gweld balans well rhwng cyllid ar gyfer addysg academaidd a galwedigaethol.

Mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu cyflwyno system sy'n talu hanner costau rhent myfyrwyr o Gymru, lle bynnag y maen nhw'n mynd i astudio.

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o Gymru yn talu £3,810 o'u ffioedd dysgu lle bynnag y maen nhw'n astudio, ac yna mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu £5,190 ar ben hynny.

'Cydraddoldeb'

Dywedodd Mr Davies y byddai myfyrwyr yn cael llai: "Mae ein pecyn ni werth £400m dros bum mlynedd ac yn y pen draw mae'r pecyn presennol o gefnogaeth yn agos at £250m y flwyddyn."

Ychwanegodd ei fod am weld mwy o falans yn y modd y mae addysg uwch ac addysg bellach yn cael eu hariannu, a "chydraddoldeb" rhwng addysg alwedigaethol ac addysg academaidd.

"Fel y dywedais i, un o'r pethau mwyaf sy'n atal myfyrwyr rhag mynd i'r brifysgol yw'r costau sy'n atal nifer rhag mynd i'r brifysgol o'u dewis."

Bydd adolygiad o'r polisi ffioedd dysgu yn dod i ben ym mis Medi. Mae cadeirydd Prifysgolion Cymru wedi beirniadu'r polisi gan ddweud bod gormod o arian yn mynd i brifysgolion yn Lloegr.

Dadansoddiad ein Gohebydd Gwleidyddol, Aled ap Dafydd

Nid Andrew RT Davies fydd y cyntaf i dystio pa mor anodd yw hi i arweinydd gwrthblaid yng Nghymru pan fo'r blaid mewn grym yn San Steffan.

O'r diwydiant dur, i fudd dal anabledd i drefniadau ariannol David Cameron, roedd hi'n noson o gyfiawnhau ac amddiffyn ymateb neu agwedd y Ceidwadwyr.

A phan drodd y drafodaeth at gyfrifoldebau'r cynulliad roedd yn rhaid i Andrew RT Davies gyfaddef y byddai myfyrwyr ar eu colled yn dilyn polisi ffioedd myfyrwyr y Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd ei ddadl dros wneud i bobl ar gyfradd uwch y dreth incwm dalu am bresgripsiwn mwy o groeso.

Dau bolisi sydd yn profi pam fod angen i bob plaid dorri 'nol yn rhywle er mwyn ariannu polisïau newydd.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones wrthod cyflwyno profion i weld pwy sydd yn gallu fforddio talu ffioedd heb y cymhorthdal, os yw Llafur yn parhau mewn grym.

Mae pob plaid arall wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar y cymhorthdal.

Byddai Plaid Cymru yn tynnu £6,000 oddi ar ddyledion myfyrwyr o Gymru sy'n dychwelyd i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn rhoi mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr gyda chostau byw.

Mae UKIP wedi awgrymu cael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n astudio pynciau fel gwyddoniaeth, meddygaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg os ydyn nhw'n byw, gweithio a thalu trethi yn y DU am bum mlynedd ar ôl graddio.