Arglwydd, dyma fi

Rwy'n tybio bod Theresa May yn ddiolchgar bod y gwefannau newyddion yn llawn dop o straeon Bregsit y bore 'ma a bod ei rhestr anrhydeddau olaf yn cael fawr o sylw.

Holl bwynt rhoi'r cyfle i Brif Weinidog lunio rhestr anrhydeddau ar ôl ymddiswyddo yw rhoi cyfle iddi hi neu fe wobrwyo pobol sydd wedi eu cynorthwyo, ond, yn ddieithriad bron mae hynny'n denu beirniadaeth lem.

Yn wir rodd Mrs May yn rhan o'r feirniadaeth honno pan gyhoeddodd David Cameron ei restr. Roedd dyrchafu pennaeth cyfathrebu Cameron, Craig Oliver, i fod yn farchog yn gwneud iddi gyfogi, mynte hi.

Does dim lle gan Mrs May i gwyno felly os oes 'na adwaith tebyg wrth iddi wasgaru'r llythrennau ymhlith pobol fel Nick Timothy, Fiona Hill ac Olly Robbins.

Beth sy'n fwy diddorol efallai yw bod dau wleidydd o Gymru wedi eu dyrchafu i Dy'r Arglwyddi sef Byron Davies o'r Ceidwadwyr a Debbie Wilcox o Lafur.

Darllen yr erthygl yn llawn Arglwydd, dyma fi

Boneddigion a Foneddigesau

Un o'r problemau wrth ysgrifennu pwt mewn cyfnod fel yr un presennol yw bod pethau'n dyddio'n rhyfeddol o sydyn a bod bron popeth sy 'na i ddweud wedi ei ddweud gan rywun yn rhywle! Mae bod yn wreiddiol yn gallu bod yn anodd weithiau.

Ond fe wnaeth un peth fy nharo wrth wylio BBC Parliament neithiwr.

Darllen yr erthygl yn llawn Boneddigion a Foneddigesau

Y bore wedyn

Mae Sir Frycheiniog yn sir o drobwyntiau. Fe fyddai Cymru'n lle gwahanol iawn pe bai Llywelyn ap Gruffydd heb anelu ei geffyl i gyfeiriad Cilmeri neu pe bai Pantycelyn heb oedi ym mynwent Talgarth i wrando ar Hywel Harris.

Doedd isetholiad Brycheiniog a Maesyfed yn 1985 ddim yn un o'r trobwyntiau hynny er ei fod yn ymddangos felly ar y pryd. Geiriau gwag oedd honiad y Rhyddfrydwyr bod yr ornest wedi rhoi terfyn ar Thatcheriaeth a phroffwydoliaeth Neil Kinnock ei fod e ar ei ffordd i Downing Street.

Darllen yr erthygl yn llawn Y bore wedyn

Mae'n Foris yn Seion

Wele'n gwawrio ddydd i'w gofio, Geni Seilo, gorau swydd.

1997 oedd y tro cyntaf i mi gwrdd â Boris Johnson. Roeddwn i'n ffilmio proffil o etholaeth De Clwyd i newyddion S4C a Johnson oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr, y tro cyntaf iddo roi ei ben ar y bloc mewn etholiad.

Darllen yr erthygl yn llawn Mae'n Foris yn Seion

Draw yn yr India

Rydym yn tueddu meddwl am fwrdeistrefi pwdr fel pethau wnaeth ddiflannu gyda'r Great Reform Act yn 1832 a do, fe gafwyd gwared ar yr esiamplau gwaethaf, llefydd fel Old Saurum a Gatton, ill dau â saith etholwr yn unig. Ond serch y ddeddf, fe oroesodd nifer o etholaethau rhyfeddol o fach tan y ganrif ddiwethaf.

Fe barodd etholaeth bwrdeistref Maldwyn, er enghraifft tan 1918 er mai dim ond rhyw dair mil o etholwyr oedd wedi eu cofrestru yno.

Darllen yr erthygl yn llawn Draw yn yr India

Plasdwreiddio

Hwre! Fi wedi bathu gair newydd!

Plasdwreiddio; (be) i gael eich traflyncu gan ddinas gyfagos.

Darllen yr erthygl yn llawn Plasdwreiddio

Bant â ni yn B&R

Dyw isetholiadau seneddol ddim yn bethau mor anarferol â hynny er eu bod yn prinhau wrth i'r chwipiaid roi pwysau ar aelodau oedrannus i ymddeol adeg etholiad yn hytrach nac aros ymlaen i ddisgwyl y bwytäwr pechodau.

Ond dyma ni yng Nghymru yn wynebu'n ail isetholiad eleni ar ôl i ragor na deng mil o etholwyr Brycheiniog a Maesyfed lofnodi deiseb i orfodi etholiad, y tro cyntaf i ni gael dau mewn blwyddyn ers isetholiadau Castell Nedd a Mynwy yn 1991.

Darllen yr erthygl yn llawn Bant â ni yn B&R

Wele faner Gwalia'i fyny

"Proud to be Welsh and proud to be British"

Pe bawn i'n cael peint am bob tro rwyf wedi clywed Carwyn Jones yn ynganu'r geiriau yna fe fyddwn i'n lywydd ar Undeb y Tancwyr erbyn hyn.

Darllen yr erthygl yn llawn Wele faner Gwalia'i fyny

Bwrw'r nenfwd

Mae modd darllen gormod mewn i isetholiadau seneddol. Pe bawn i'n cael punt am bob gwawr ffug i'r Democrataid Rhyddfrydol fe fyddwn i'n ddyn reit gefnog erbyn hyn!

Ar ôl dweud hynny rwy'n meddwl bod isetholiad Peterborough yn ddadlennol, nid oherwydd yr hyn ddigwyddodd ond oherwydd yr hyn na ddigwyddodd.

Darllen yr erthygl yn llawn Bwrw'r nenfwd

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau

Mae'n anodd coelio hyn ond union wythnos sy 'na ers i Theresa May ddod allan trwy ddrws rhif deg, Downing Street a chyhoeddi ei bod am ildio awenau ei phlaid a'i llywodraeth.

Ers hynny cafwyd llanast i'r ddwy blaid fawr yn etholiadau Ewrop, dechrau syrcas etholiadol y Ceidwadwyr gyda llond gambo o ymgeiswyr yn ceisio hudo'r selogion, moelid gwaed ar yr ochor goch i bethau, ac un arolwg barn yn gosod y Lib Dems, ie'r rheiny, ar y brig.

Darllen yr erthygl yn llawn Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau