a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto'r wythnos nesaf.

    Da boch chi.

  2. Galwad ffôn neu fideo gyda meddyg teulu ddim yn opsiwn 'ail ddosbarth'

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw galwad ffôn neu fideo gyda meddyg teulu yn opsiwn "ail ddosbarth", ac y gall barn proffesiynol gweithwyr meddygol benderfynu pryd mae angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

  3. Gweinyddiaeth lles

    Mae Adam Price hefyd yn gofyn am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar ddatganoli gweinyddiaeth lles.

    Dywed y prif weinidog fod ymchwiliad budd-daliadau Pwyllgor Materion Cymru yn fforwm da i ystyried y dadleuon.

  4. Codiad yswiriant gwladol yn 'cosbi'r tlotaf'

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn dychwelyd i'r Senedd ar ôl ei gyfnod tadolaeth.

    Mae'n disgrifio'r defnydd o godiad yswiriant gwladol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel un "sy'n cosbi'r tlotaf", barn y mae'r prif weinidog yn cytuno â hi.

    Dywed Mr Price fod teilyngdod parhaus mewn datrysiad gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar syniadau Gerry Holtham. Dywed y prif weinidog iddo ddweud wrth Gomisiwn Silk yn flaenorol fod mwy o deilyngdod mewn datganoli yswiriant gwladol na threth incwm.

    Dywed y prif weinidog “roedd yna well penderfyniadau y gallai ac y dylid fod wedi eu gwneud” gan lywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol. Ond ychwanega na all anghofio y bydd pobl nawr yn talu yswiriant gwladol ychwanegol. Dywed hefyd y bydd y grŵp rhyng-weinidogol nawr yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud gyda'r arian i newid y system gofal cymdeithasol.

    View more on twitter
  5. Pwyso eto am ymchwiliad annibynnol Covid-19 i Gymru

    Mae Andrew RT Davies yn pwyso eto am ymchwiliad annibynnol Covid-19 i Gymru, gan nodi bod nifer o grwpiau yn cefnogi'r syniad.

    Dywed y prif weinidog ei fod wedi ysgrifennu eto at Michael Gove ac os bydd yn derbyn "y sicrwydd yr wyf yn meddwl ein bod wedi'i gael o'r blaen yna byddaf yn barod i fwrw ymlaen â'r cytundeb yr ydym eisoes wedi'i gyrraedd gyda'r prif weinidog [Boris Johnson]."

    Covid
  6. Pasbortau brechlyn

    Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies yn ailadrodd ei wrthwynebiad i basbortau brechlyn.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y penderfyniad yn “gytbwys iawn” a’i fod ef yn dechrau o safle o “amheuaeth”.

    Ychwanegodd fod yna faterion moesegol, ymarferol a chyfreithiol i'w hystyried ochr yn ochr â buddion iechyd cyhoeddus posib. ac mae cabinet Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ar y mater a byddant yn cwrdd eto yr wythnos hon.

    Andrew RT Davies
  7. Gorfod dewis rhwng 'gwresogi, bwyta a gallu teithio i'r gwaith'

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn disgrifio'r toriad i gredyd cynhwysfawr fel penderfyniad "croengaled", gan ddweud y bydd dileu'r codiad o £20 yn arwain at bobl yn gorfod dewis rhwng "gwresogi, bwyta a gallu teithio i'r gwaith".

    Mark Drakeford
  8. Cynlluniau’r llywodraeth ynghylch tai cymdeithasol

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor, sy'n gofyn am ddatganiad ar gynlluniau’r llywodraeth ynghylch tai cymdeithasol.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyfeirio at gynlluniau i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yng Nghymru erbyn 2026.

    Roedd Plaid Cymru eisiau 30,000 o gartrefi cymdeithasol fel rhan o becyn ehangach o 50,000 o dai fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddai wedi darparu 100,000 o gartrefi dros y degawd nesaf - 40,000 ohonynt yn gartrefi cymdeithasol.

    Adeiladu tai
  9. Croeso

    Prynhawn da, mae'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Daw dychweliad yr ASau i'r Siambr ar ôl toriad yr haf ddiwrnod ar ôl i athletwyr Cymru y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gael eu croesawu i'r Senedd ddoe.

    View more on twitter