a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

    Senedd Fyw

    A dyna ni am heddiw - diolch am eich cwmni.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar 12 Ionawr.

    Ond tan hynny Nadolig Llawen i chi a chadwch yn ddiogel.

    Bydd straeon y dydd i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.

    Hwyl.

    bauble
  2. Dadl Fer: Achub ein cerfluniau: pwysigrwydd parhaus cofebau a henebion hanesyddol

    Yn nadl fer olaf y flwyddyn mae Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) yn trafod pwysigrwydd parhaus cofebau a henebion hanesyddol.

    Mae Neil Hamilton wedi dadlau ar hyd yr amser bod angen coffhau y cadfridog Syr Thomas Picton gan ei fod yn allweddol yn sicrhau buddugoliaeth Prydain yn erbyn Napoleon.

    Mae cofgolofn i'r cadfridog yng Nghaerfyrddin.

    Mae'r Arglwydd Elis-Thomas AS Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn nodi y camau priodol sy'n rhaid eu dilyn os am ddymchwel cofeb.

    Thomas Picton
  3. Dadl Fer: Pwysigrwydd cefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon

    Dadl Fer a gafodd ei gohirio o wythnos diwethaf sydd nesaf.

    Mae Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) yn nodi pwysigrwydd cefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon ar gyfer gwead cymdeithasol ein cymunedau.

    fans
  4. Cymeradwyo y cynnig ar brydau ysgol (wedi'i ddiwygio gan Lywodraeth Cymru)

    Mae'r cynnig, wedi ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gymeradwyo gan ASau.

    Roedd 26 o blaid, fe wnaeth pump ymatal ac roedd 18 yn erbyn.

  5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth)

    Nesaf mae Jeremy Miles (Castell-nedd) yn cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

    Mae ASau yn cymeradwyo y cynnig.

  6. 'Darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig'

    Mae Llywodraeth Cymru am ddileu popeth a rhoi yn ei le:

    Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:

    a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;

    b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;

    c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;

    d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;

    e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;

    f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.

    cinio ysgol
  7. 'Angen diwygio'r meini prawf cymhwysedd'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyrfalseam ddileu popeth a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi'r meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru.

    2. Yn cydnabod y caledi ariannol y mae teuluoedd wedi'i wynebu ledled Cymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws a'r heriau y mae hyn wedi'u hachosi i rieni a gwarcheidwaid, a'i effaith ar y galw am brydau ysgol am ddim.

    3. Yn croesawu'r rôl sydd gan brydau ysgol am ddim o ran gwella iechyd a maeth.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim er mwyn ymestyn y ddarpariaeth i:

    a) dysgwyr mewn addysg bellach; a

    b) teuluoedd heb incwm ac nad ydynt yn gallu hawlio arian cyhoeddus ar unwaith.

  8. Dadl Plaid Cymru – Prydau ysgol am ddim

    Plaid Cymru

    Mae Sian Gwenllian (Arfon) yn cynnig bod y Senedd:

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ar unwaith i sicrhau bod unrhyw blentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, yn gymwys, fel y cam cyntaf tuag at sicrhau bod prydau bwyd maethlon yn cael eu darparu am ddim i bob plentyn oed ysgol yng Nghymru.

  9. Cymeradwyo nodi yr adroddiad ar effaith y pandemig ar y Gymraeg

    Mae ASau yn cymeradwyo nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg.

    Cymraeg
  10. 'Y Gymraeg yn cael ei hystyried yn llawn wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig'

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan "fod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn llawn wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig.

    ‘Er mwyn helpu economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i ymateb yn gyflym i heriau eithriadol y pandemig, roedd angen ailflaenoriaethu cyllidebau sy'n cefnogi'r Gymraeg.

    "Er bod hyn wedi bod yn heriol yn y byrdymor, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y cyfnod hwn i wneud y gorau o gyfleoedd digidol a chyllid uniongyrchol i sefydliadau sydd ag anghenion dybryd.

    Dyw'r darlun ddim yn ddu i gyd, meddai, 20% o grwpiau wedi llwyddo i barhau.

    Mae'n ystyried argymhellion y pwyllgor ar y cyd â'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog bore 'ma.

  11. 'Cyllidebau'r Gymraeg yn annigonol cyn y pandemig'

    Dywed Sian Gwenllian o Blaid Cymru bod rhaid cael cynllun gweithredu i wynebu'r gyflafan sy'n wynebu'r Gymraeg.

    "Roedd cyllidebau'r Gymraeg yn annigonol cyn y pandemig," meddai

  12. Cyngor Llyfrau: 'Mae rhai gweisg yn gallu colli hanner eu hincwm'

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Dywedodd Helgard Krause o Gyngor Llyfrau Cymru: "Jest i roi enghraifft i chi am yr effaith o golli'r Eisteddfod—mae'r tri llyfr mawr… yn gwneud lan dros £100,000 o werthiant… Ac, wrth gwrs, dŷch chi byth yn gwneud hyn lan.

    "Mae wedi cael ei golli, mae wedi mynd, ac mae'r bwlch hwn yn parhau. I rai gweisg bach sydd ddim ond yn gallu cyhoeddi tri, pedwar, pum llyfr y flwyddyn, mae hwn yn gallu bod yn hanner eu hincwm nhw."

  13. Merched y Wawr: 'Gorfod defnyddio arian wrth gefn'

    Merched y Wawr

    Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr wrth y pwyllgor: "Mae'r digwyddiadau rydyn ni'n arfer eu cynnal, fel cynnal raffl fawr neu'r penwythnos preswyl, sydd fel arfer yn dod ag incwm o tua £10,000 i mewn i'r mudiad, does dim un o'r rheini wedi medru cael ei gynnal.

    "Felly, yn amlwg, rŷn ni'n gorfod edrych ar ddefnyddio'r arian a oedd gyda ni wrth gefn i sicrhau bod y mudiad yn gallu parhau am y flwyddyn i ddod, a wedyn bydd sefyllfa economaidd anodd iawn yn ein hwynebu ni ymhen dwy flynedd hefyd."

    Tegwen
    Image caption: Cyfarwyddwr Merched y Wawr Tegwen Morris mewn Eisteddfod Genedlaethol
  14. Urdd Gobaith Cymru: 'Rhagweld dyled o £3.5 miliwn'

    Urdd Gobaith Cymru

    Cyfeirir yn yr adroddiad ar effaith y pandemig ar y Gymraeg at effaith canslo digwyddiadau cenedlaethol yn sgil y pandemig.

    Dywed Siân Lewis o’r Urdd mai: 'ein sefyllfa ni, fel dŷch chi'n gwybod, yw ein bod ni wedi colli £14 miliwn o incwm, ac yn rhagweld hynny dros y ddwy flynedd nesaf, a mynd i fod mewn dyled o £3.5 miliwn.

    "Mae hwn, yn naturiol, wedi cael effaith enfawr ar ein gweithlu ni, sydd wedi'n harwain ni i golli hanner ein gweithlu o 320 o staff… dŷn ni'n rhagweld y bydd ein colledion incwm ni dan fygythiad i gynyddu i ryw £18 miliwn o golled dros y blynyddoedd nesaf, a gan y bydd pobl ifanc yn methu â mynychu ein gwersylloedd ni."

  15. 'Angen sicrhau swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg wrth adfer economi'

    Nesaf mae Helen Mary Jones AS yn cynnig bod y Senedd yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg.

    Mae'r pwyllgor wedi gwneud chwech o argymhellion sef:

    1. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw ailddyrannu cyllid y Gymraeg yn y tymor byr, oherwydd y pandemig, yn arwain at ddyraniadau cyllid tymor hwy a allai dynnu oddi ar gyflawni nodau Cymraeg 2050. Dylai Llywodraeth Cymru adfer y dyraniadau cyllideb ar gyfer cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yn llawn, a hynny cyn gynted â phosibl.
    2. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru yn ganolog i'w chynllun ar gyfer adfer yr economi.
    3. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a diweddaru ei chynllun gweithredu Cymraeg 2050 a'r cynllun gweithredu technoleg Cymraeg i adlewyrchu'r newid cyflym mewn dysgu Cymraeg, gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol ar-lein, sy'n hwyluso ei defnydd gartref ac yn cynyddu diddordeb yn yr iaith y tu allan i Gymru.
    4. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod hyfforddiant ar gael i sefydliadau ac unigolion er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar-lein i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a chefnogi eu haelodau.
    5. Dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei strategaeth ddigidol i adlewyrchu’r ffaith bod mwy o angen am wasanaeth rhyngrwyd cyflym a dibynadwy ledled Cymru yng ngoleuni'r ddibyniaeth gynyddol ar gynnwys digidol yn dilyn yr achosion o Covid-19.
    6. Dylai cynllun gweithredu nesaf strategaeth Cymraeg 2050 ystyried yn llawn y newidiadau o ran cyfleoedd dysgu sydd bellach ar gael. Bydd angen iddo ystyried y ffyrdd y gellir cyfuno dysgu ar-lein a gwersi personol i weddu orau i ddysgwyr, a lefel y cyllid sydd ei angen i sicrhau y gellir cynnal y twf mewn dysgu ar-lein.
    Cymraeg
  16. ASau yn nodi yr adroddiad Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach

    Mae ASau yn nodi yn ddiwrthwynebiad Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.

  17. Y llywodraeth yn cydnabod y pryderon ac am gyflwyno gwelliannau

    Ar ran Llywodraeth Cymru dywed Eluned Morgan ei bod yn cydnabod y pryderon.

    "Mae cynnal gwasanaethau iechyd meddwl," meddai, " yn gwbl hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc".

    "Rwyf am i bobl fod yn gwybod sut mae cael mynediad at wasanaethau meddwl drwy'r byrddau iechyd cymunedol yn enwedig os yw pethau wedi newid oherwydd Covid."

    Mae'n nodi hefyd bod nifer o welliannau wedi'u cyflwyno a bod mwy i ddod yn fuan.

  18. 'Bod i ffwrdd o’r ysgol wedi effeithio ar les llawer o blant'

    Dywed y pwyllgor "er bod cau ysgolion yn rhan angenrheidiol o reoli’r pandemig yn ystod y misoedd cynnar, roedd yn amlwg bod effaith bod i ffwrdd o’r ysgol ar les llawer o blant yn sylweddol.

    "Ar y sail hon, dywedasom - o fis Medi 2020 - bod rhaid i blant gael cyswllt cyson, o ansawdd da â’u hathrawon, a bod rhaid i’r cyfleoedd i wneud cynnydd gyda’u haddysg gael eu cynyddu i’r eithaf ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

    "Fe wnaethom bwysleisio y byddai hyn hefyd yn galluogi ysgolion i chwarae eu rhan hanfodol yn y dull system gyfan o gefnogi iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc," ychwanega'r adroddiad.

    Ysgol
    Image caption: Wythnos diwethaf penderfynwyd y bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn cau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig
  19. Haint coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol ar blant a phobl ifanc, medd adroddiad

    Dywed y pwyllgor eu bod yn gweld newid yn dechrau digwydd ond nad yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym.

    "Rydyn ni’n gwybod nad yw’r hyn rydyn ni’n gofyn amdano bob amser yn hawdd, ac rydyn ni’n gwybod nad yw arian yn ddiderfyn. Ond rydyn ni’n meddwl bod hyn yn brif flaenoriaeth os ydyn ni’n mynd i gael pethau’n iawn i’r cenedlaethau o blant a phobl ifanc a fydd yn siapio dyfodol Cymru. Mae angen gwneud mwy i wneud gwelliannau yn gyflymach," medd y pwyllgor.

    "Rydym yn cydnabod bod llawer o wasanaethau yn gwneud llawer o bethau da iawn i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Ond credwn fod angen gwneud mwy i sicrhau bod pob gwasanaeth yn gwneud ei ran, a’u bod i gyd yn gweithio gyda’i gilydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc - ble bynnag maen nhw’n chwilio am gymorth - yn gallu cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnyn nhw.

    "Mae effaith pandemig y coronafeirws yn gwneud cynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed. Er ein bod ni’n cydnabod ei bod yn ymddangos bod plant a phobl ifanc yn llai tueddol i gael y coronafeirws nag oedolion, nid oes llawer o amheuaeth bod ei effeithiau ehangach - a’r mesurau a gymerwyd i’w reoli - wedi effeithio’n sylweddol ar eu bywydau.

    "Disgrifiwyd yr effeithiau ehangach hyn wrthym ni fel y “difrod ystlysol” i blant a phobl ifanc a achosir gan y pandemig, ac maent yn cynnwys pryder am gyfnodau i ffwrdd o’r ysgol, clybiau, teulu a ffrindiau," ychwanega'r pwyllgor.

    Disgybl trist
  20. Dadl ar adroddiad Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach

    Nesaf dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.

    Mae Lynne Neagle (Torfaen) yn cynnig bod y Senedd yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.

    Adroddiad dilynol yw hwn ar y newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Dywedodd yr adroddiad gwreiddiol yn 2018 fod angen newid mawr o ran y gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl a oedd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Er mwyn mynd i’r afael â hyn, nodwyd:

    • bod angen i’r ffocws newid i helpu pobl yn gynharach, i helpu i osgoi sefyllfa lle mae pethau’n gwaethygu ac i helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau cymorth;
    • bod angen i’r holl wasanaethau weithio gyda’i gilydd, nid dim ond iechyd, ond addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau eirioli, y gwasanaeth ieuenctid, yr heddlu ac eraill, er mwyn cyflawni newid go iawn;
    • bod angen i Lywodraeth Cymru wneud iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol, i sicrhau bod gan gefnogaeth y statws a’r arian y mae eu hangen arni.
    Sad child