Bydd y cyfarfod llawn yn dychwelyd ddydd Mercher, Rhagfyr 16.
Tan yfory - nos da.
Cymeradwyo y cynnig ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd gyda gwelliannau
Mae ASau yn cymeradwyo cynnig Llywodraeth Cymru (wedi'i ddiwygio) ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd ond gyda dau welliant sef gwelliant y Ceidwadwyr am groesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru a gwelliant Plaid Cymru a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Roedd 45 o blaid y cynnig, un wedi ymatal a 5 yn erbyn.
Cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant sy’n codi o ganlyniad i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu
Mae ASau yn
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu
(Cymru),
yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Roedd 37 o
blaid, fe wnaeth wyth ymatal ac roedd chwech yn erbyn.
Cytuno i egwyddorion cyffredinol Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu
Mae ASau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Egwyddorion
Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Roedd 40 o
blaid, fe wnaeth un ymatal ac roedd 10 yn erbyn.
Cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru
Mae ASau yn
cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl)
(Diwygio) 2020
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y
Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) yn nodi'r rheolau manwl ar gyfer cynnal
etholiadau i Senedd Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 i adlewyrchu
newidiadau polisi a deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers etholiad cyffredinol y
Senedd yn 2016 i baratoi at etholiad cyffredinol y Senedd yn 2021. Yn benodol,
mae'r Gorchymyn hwn:
• yn gweithredu newidiadau sy'n codi o ganlyniad i’r newid
enw, estyn yr etholfraint a’r meini prawf anghymhwyso a gyflwynwyd gan Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020,
• yn rhoi'r opsiwn i ymgeiswyr beidio â chyhoeddi eu
cyfeiriad cartref yn etholiadau'r Senedd,
• yn gwneud newidiadau i'r modd y gwneir taliad i swyddogion
canlyniadau ar gyfer gwasanaethau a roddwyd.
Roedd 38 o
blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd pump yn erbyn.
GettyCopyright: Getty
Fe fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021Image caption: Fe fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021
Cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach)
Mae ASau yn
cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a
Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020
Mae'r dystiolaeth o astudiaethau gwyliadwriaeth yn dangos
canfyddiad newydd o dystiolaeth o lefelau uwch o haint (symptomatig ac
asymptomatig) a throsglwyddo mewn grwpiau oedran ysgol nag a gydnabuwyd yn
flaenorol, yn enwedig mewn grwpiau oedran 11-17.
O ganlyniad i'r dystiolaeth hon, mae'r Rheoliadau'n gwneud
darpariaeth mewn dau faes allweddol: a) cyfyngu ar gategorïau penodol o
fyfyrwyr rhag mynychu mangreoedd ysgolion uwchradd b) i gyfyngu ar fyfyrwyr
rhag mynychu mangreoedd Sefydliadau Addysg Bellach.
Roedd 40 o
blaid, ni wnaeth yr un aelod ymatal ac roedd 12 yn erbyn.
BBCCopyright: BBC
Bellach mae tystiolaeth yn dangos lefelau uwch o haint (symptomatig ac asymptomatig) a throsglwyddo mewn grwpiau oedran ysgolImage caption: Bellach mae tystiolaeth yn dangos lefelau uwch o haint (symptomatig ac asymptomatig) a throsglwyddo mewn grwpiau oedran ysgol
Cymeradwyo rheoliadau diogelu iechyd Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol
Mae ASau yn
cymeradwyo rheoliadau diogelu iechyd Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau
Awdurdodau Lleol (Diwygio) (Cymru) 2020
Roedd 30 o
blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd 13 yn erbyn.
'Rhaid creu plant hyderus, hapus a diogel'
Mewn ymateb angerddol yn y Senedd dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei fod yn ddyletswydd amddiffyn plant Cymru rhag yr hyn a all eu bygwth bob dydd.
"Rhaid sicrhau ein bod yn creu plant hyderus, hapus a diogel," meddai, "ac mae'n bwysig nad oes yr un plentyn yn cael ei eithrio rhag hynny".
'Athrawon ddim yn gymwys i ddysgu am ryw a pherthynas'
Dywed Caroline Jones o'r grŵp Cynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio ei bod yn credu bod y bil yn cael gwared ar hawl rieni i addysgu eu plant am ryw a pherthynas.
Dywed bod rhai athrawon wedi dweud wrthi nad ydyn nhw wedi cael eu hyfforddi nac yn gymwys i addysgu plant am ryw a pherthynas a'u bod yn bwysicach bod arbenigwr iechyd yn gwneud hyn.
BBCCopyright: BBC
'Yn bwysig dysgu am hanes Cymru'
Dywed Sian Gwenllian ei bod hi'n gwbl bwysig bod hanes cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnwys fel rhan o'r bil.
Dywed hefyd bod angen yr hyfforddiant a'r cyllid priodol i weithredu'r cwricwlwm newydd - mae'n bwysig nad yw'r "cyfan yn mynd o chwith", meddai.
Mae'n dweud hefyd bod addysg rhyw a dysgu am berthynas yn hanfodol.
BBCCopyright: BBC
Y Pwyllgor Cyllid yn gwneud naw o argymhellion
Dywed Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid bod y pwyllgor wedi gwneud naw o argymhellion.
Mae'r Pwyllgor, er enghraifft, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn
gwneud gwaith pellach i asesu'r costau i ysgolion ac yn ymgysylltu ag ysgolion
heblaw Ysgolion Braenaru ynghylch y costau sydd wedi'u cynnwys yn yr Asesiad
Effaith Rheoleiddiol.
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru
ddarparu manylion am ei thrafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch y costau posibl
i'r system addysg ôl-16 a chyhoeddi unrhyw fanylion am y goblygiadau ariannol.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru ddarparu manylion ynghylch sut y bydd yn adolygu'r costau a ddarperir gan
Goblygiadau Ariannol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
6
randdeiliaid (ac yn rhoi gwybod i’r Senedd am y costau hynny) a’r amserlenni
gweithredu.
BBCCopyright: BBC
'Rhaid newid y drefn addysg wedi perfformiad cymharol wael yn arolwg PISA'
Mae Memorandwm a gyflwynwyd gan y Gwenidog Addysg yn haf 2020 yn nodi fod y siwrnai ar gyfer
diwygio addysg yng Nghymru wedi dechrau yn 2009 pan berfformiodd Cymru yn
gymharol wael yn arolwg Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y Sefydliad
ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Roedd perfformiad pobl
ifanc 15 oed o Gymru gryn dipyn yn is na chyfartaledd yr OECD, yn enwedig ar
gyfer darllen a mathemateg.4 9.
Cafodd adroddiad yr Athro Graham Donaldson,
'Dyfodol Llwyddiannus': Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu
yng Nghymru (2015), a'r adroddiad dilynol ar y Sgwrs Fawr ynghylch Addysg
(2015), eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru â'r bwriad o ailedrych ar ddibenion
sylfaenol addysg.
BBCCopyright: BBC
Mae rhaglen PISA yn profi galluoedd disgyblion ar draws y bydImage caption: Mae rhaglen PISA yn profi galluoedd disgyblion ar draws y byd
Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r gost ariannol
Nesaf mae Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac
Asesu (Cymru) a’r
Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn cael eu
trafod gyda’i gilydd ond bydd pleidlais ar wahân
Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn darparu’r sylfaen
statudol i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r cwricwlwm. Mae'n sefydlu 'Cwricwlwm i
Gymru', a ddatblygwyd yn dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson ac adroddiad
'Dyfodol Llwyddiannus' yn 2015.
Bydd y
cynllun yn cynnwys mwy o bwyslais ar addysg tu hwnt i'r dosbarth ac addysg
ar-lein.
Bydd y
cwricwlwm newydd hefyd yn cynnig cymorth i gefnogi iechyd meddwl a lles
emosiynol disgyblion.
Yn ôl
Llywodraeth Cymru bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon
o ran dulliau addysgu, a cheisio lleihau effaith y newid ar ddisgyblion.
bbcCopyright: bbc
Mae'r cwricwlwm newydd fod i gynnig cymorth i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion.Image caption: Mae'r cwricwlwm newydd fod i gynnig cymorth i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion.
'Gwerthfawrogi awgrymiadau adeiladol gan y gwrthbleidiau'
Wrth gau'r drafodaeth, dywed y Gweinidog Iechyd ei fod yn parchu hawl pobl i anghytuno gyda'r modd y mae'r llywodraeth wedi delio gyda'r pandemig.
Dywed bod gweinidogion yn ystyried "bob dydd" eu penderfyniadau er mwyn cadw pobl Cymru yn ddiogel a'i fod yn gwerthfawrogi awgrymiadau adeiladol gan y gwrthbleidiau.
'Angen datblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol'
Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru am ychwanegu dau bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sef galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru a
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
'Croesawu lefelau rhybudd newydd'
Ceidwadwyr Cymreig
Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr am ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sef croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.
'Gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth Covid-19 wahanol'
Dywed Gareth Bennett o Blaid Diddymu'r Cynulliad ei fod yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.
Dywed hefyd ei fod yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth Covid-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.
Dwy garreg filltir dywyll iawn wedi'u cyrraedd yr wythnos hon
Wrth agor y drafodaeth mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod un o bob pump o brofion Covid yn gadarnhaol.
Mae "dwy garreg filltir dywyll iawn wedi'u cyrraedd," meddai, "wrth i nifer yr achosion godi uwch 100,000 ac i 2,000 fod yn yr ysbyty gyda Covid-19.
"Mae'r haint ar gynnydd a bydd dim modd oedi'n hir cyn cyflwyno cyfyngiadau pellach."
Dadl ar y Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd
Nesaf mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a
gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o
gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am i’r Rheolau Sefydlog gael
eu hatal er mwyn cynnal dadl am egwyddorion y lefelau rhybudd newydd.
Dyma’r pedair lefel rhybudd:
Lefel rhybudd 1 (risg isel):Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at
normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol
eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
Lefel rhybudd 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli
ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu
gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli
achosion lluosog neu frigiadau penodol.
Lefel rhybudd 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod
atal byr neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol
lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y
feirws.
Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn
cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio’r
rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Dim ond teithiau "rhesymol" sy'n bosib os yw ardal mewn lefel 4Image caption: Dim ond teithiau "rhesymol" sy'n bosib os yw ardal mewn lefel 4
Cymeradwyo Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid
Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020.
Diben y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu’n
effeithiol unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r
Rheoliadau yn diwygio cyfeiriadau diangen at gyfreithiau a systemau'r UE na fyddant bellach
yn berthnasol ar ddiwedd y cyfnod gweithredu.
Mae'r diwygiadau arfaethedig yn cael eu
gwneud yn unol â'r Ddeddf Ymadael er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystr deddfwriaethol
i symud anifeiliaid byw (gan gynnwys ceffylau), a masnachu mewn cynhyrchion anifeiliaid
(gan gynnwys cig) gyda'r UE a thrydydd gwledydd rhestredig eraill ar ddiwedd y cyfnod
gweithredu.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Sara Down-Roberts
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl fawr
Senedd Fyw
A dyna ni am heddiw.
Bydd y cyfarfod llawn yn dychwelyd ddydd Mercher, Rhagfyr 16.
Tan yfory - nos da.
Cymeradwyo y cynnig ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd gyda gwelliannau
Mae ASau yn cymeradwyo cynnig Llywodraeth Cymru (wedi'i ddiwygio) ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd ond gyda dau welliant sef gwelliant y Ceidwadwyr am groesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru a gwelliant Plaid Cymru a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Roedd 45 o blaid y cynnig, un wedi ymatal a 5 yn erbyn.
Cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant sy’n codi o ganlyniad i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu
Mae ASau yn Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Roedd 37 o blaid, fe wnaeth wyth ymatal ac roedd chwech yn erbyn.
Cytuno i egwyddorion cyffredinol Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu
Mae ASau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Roedd 40 o blaid, fe wnaeth un ymatal ac roedd 10 yn erbyn.
Cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) yn nodi'r rheolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau i Senedd Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2007 i adlewyrchu newidiadau polisi a deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers etholiad cyffredinol y Senedd yn 2016 i baratoi at etholiad cyffredinol y Senedd yn 2021. Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn:
• yn gweithredu newidiadau sy'n codi o ganlyniad i’r newid enw, estyn yr etholfraint a’r meini prawf anghymhwyso a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020,
• yn rhoi'r opsiwn i ymgeiswyr beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref yn etholiadau'r Senedd,
• yn gwneud newidiadau i'r modd y gwneir taliad i swyddogion canlyniadau ar gyfer gwasanaethau a roddwyd.
Roedd 38 o blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd pump yn erbyn.
Cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach)
Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020
Mae'r dystiolaeth o astudiaethau gwyliadwriaeth yn dangos canfyddiad newydd o dystiolaeth o lefelau uwch o haint (symptomatig ac asymptomatig) a throsglwyddo mewn grwpiau oedran ysgol nag a gydnabuwyd yn flaenorol, yn enwedig mewn grwpiau oedran 11-17.
O ganlyniad i'r dystiolaeth hon, mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth mewn dau faes allweddol: a) cyfyngu ar gategorïau penodol o fyfyrwyr rhag mynychu mangreoedd ysgolion uwchradd b) i gyfyngu ar fyfyrwyr rhag mynychu mangreoedd Sefydliadau Addysg Bellach.
Roedd 40 o blaid, ni wnaeth yr un aelod ymatal ac roedd 12 yn erbyn.
Cymeradwyo rheoliadau diogelu iechyd Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol
Mae ASau yn cymeradwyo rheoliadau diogelu iechyd Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol (Diwygio) (Cymru) 2020
Roedd 30 o blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd 13 yn erbyn.
'Rhaid creu plant hyderus, hapus a diogel'
Mewn ymateb angerddol yn y Senedd dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei fod yn ddyletswydd amddiffyn plant Cymru rhag yr hyn a all eu bygwth bob dydd.
"Rhaid sicrhau ein bod yn creu plant hyderus, hapus a diogel," meddai, "ac mae'n bwysig nad oes yr un plentyn yn cael ei eithrio rhag hynny".
'Athrawon ddim yn gymwys i ddysgu am ryw a pherthynas'
Dywed Caroline Jones o'r grŵp Cynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio ei bod yn credu bod y bil yn cael gwared ar hawl rieni i addysgu eu plant am ryw a pherthynas.
Dywed bod rhai athrawon wedi dweud wrthi nad ydyn nhw wedi cael eu hyfforddi nac yn gymwys i addysgu plant am ryw a pherthynas a'u bod yn bwysicach bod arbenigwr iechyd yn gwneud hyn.
'Yn bwysig dysgu am hanes Cymru'
Dywed Sian Gwenllian ei bod hi'n gwbl bwysig bod hanes cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnwys fel rhan o'r bil.
Dywed hefyd bod angen yr hyfforddiant a'r cyllid priodol i weithredu'r cwricwlwm newydd - mae'n bwysig nad yw'r "cyfan yn mynd o chwith", meddai.
Mae'n dweud hefyd bod addysg rhyw a dysgu am berthynas yn hanfodol.
Y Pwyllgor Cyllid yn gwneud naw o argymhellion
Dywed Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid bod y pwyllgor wedi gwneud naw o argymhellion.
Mae'r Pwyllgor, er enghraifft, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith pellach i asesu'r costau i ysgolion ac yn ymgysylltu ag ysgolion heblaw Ysgolion Braenaru ynghylch y costau sydd wedi'u cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu manylion am ei thrafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch y costau posibl i'r system addysg ôl-16 a chyhoeddi unrhyw fanylion am y goblygiadau ariannol.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru ddarparu manylion ynghylch sut y bydd yn adolygu'r costau a ddarperir gan Goblygiadau Ariannol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 6 randdeiliaid (ac yn rhoi gwybod i’r Senedd am y costau hynny) a’r amserlenni gweithredu.
'Rhaid newid y drefn addysg wedi perfformiad cymharol wael yn arolwg PISA'
Mae Memorandwm a gyflwynwyd gan y Gwenidog Addysg yn haf 2020 yn nodi fod y siwrnai ar gyfer diwygio addysg yng Nghymru wedi dechrau yn 2009 pan berfformiodd Cymru yn gymharol wael yn arolwg Rhaglen Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Roedd perfformiad pobl ifanc 15 oed o Gymru gryn dipyn yn is na chyfartaledd yr OECD, yn enwedig ar gyfer darllen a mathemateg.4 9.
Cafodd adroddiad yr Athro Graham Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus': Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru (2015), a'r adroddiad dilynol ar y Sgwrs Fawr ynghylch Addysg (2015), eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru â'r bwriad o ailedrych ar ddibenion sylfaenol addysg.
Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r gost ariannol
Nesaf mae Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a’r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn cael eu trafod gyda’i gilydd ond bydd pleidlais ar wahân
Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn darparu’r sylfaen statudol i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r cwricwlwm. Mae'n sefydlu 'Cwricwlwm i Gymru', a ddatblygwyd yn dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson ac adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' yn 2015.
Bydd y cynllun yn cynnwys mwy o bwyslais ar addysg tu hwnt i'r dosbarth ac addysg ar-lein.
Bydd y cwricwlwm newydd hefyd yn cynnig cymorth i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon o ran dulliau addysgu, a cheisio lleihau effaith y newid ar ddisgyblion.
'Gwerthfawrogi awgrymiadau adeiladol gan y gwrthbleidiau'
Wrth gau'r drafodaeth, dywed y Gweinidog Iechyd ei fod yn parchu hawl pobl i anghytuno gyda'r modd y mae'r llywodraeth wedi delio gyda'r pandemig.
Dywed bod gweinidogion yn ystyried "bob dydd" eu penderfyniadau er mwyn cadw pobl Cymru yn ddiogel a'i fod yn gwerthfawrogi awgrymiadau adeiladol gan y gwrthbleidiau.
'Angen datblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol'
Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru am ychwanegu dau bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sef galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru a
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
'Croesawu lefelau rhybudd newydd'
Ceidwadwyr Cymreig
Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr am ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sef croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.
'Gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth Covid-19 wahanol'
Dywed Gareth Bennett o Blaid Diddymu'r Cynulliad ei fod yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.
Dywed hefyd ei fod yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth Covid-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.
Dwy garreg filltir dywyll iawn wedi'u cyrraedd yr wythnos hon
Wrth agor y drafodaeth mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod un o bob pump o brofion Covid yn gadarnhaol.
Mae "dwy garreg filltir dywyll iawn wedi'u cyrraedd," meddai, "wrth i nifer yr achosion godi uwch 100,000 ac i 2,000 fod yn yr ysbyty gyda Covid-19.
"Mae'r haint ar gynnydd a bydd dim modd oedi'n hir cyn cyflwyno cyfyngiadau pellach."
Dadl ar y Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd
Nesaf mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am i’r Rheolau Sefydlog gael eu hatal er mwyn cynnal dadl am egwyddorion y lefelau rhybudd newydd.
Dyma’r pedair lefel rhybudd:
Lefel rhybudd 1 (risg isel):Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
Lefel rhybudd 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli achosion lluosog neu frigiadau penodol.
Lefel rhybudd 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio’r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo.
Cymeradwyo Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid
Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020.
Diben y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu’n effeithiol unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau yn diwygio cyfeiriadau diangen at gyfreithiau a systemau'r UE na fyddant bellach yn berthnasol ar ddiwedd y cyfnod gweithredu.
Mae'r diwygiadau arfaethedig yn cael eu gwneud yn unol â'r Ddeddf Ymadael er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystr deddfwriaethol i symud anifeiliaid byw (gan gynnwys ceffylau), a masnachu mewn cynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys cig) gyda'r UE a thrydydd gwledydd rhestredig eraill ar ddiwedd y cyfnod gweithredu.