a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr

    Ar ôl newyddion calonogol ddoe am ddechrau'r broses brechu, mae'r awdurdodau yn dal i boeni am y cynnydd mewn niferoedd positif o Covid-19.

    Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, fod y sefyllfa yn un "ddifrifol iawn."

    Mae cynnydd mewn achosion positif wedi bod yn 21 o 22 siroedd Cymru.

    Dywedodd fod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws pellach yn y cyfnod cyn y Nadolig.

    Ond ychwanegodd nad oedd "pethau allan o reolaeth."

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw a diolch am ddarllen.

  2. 31 yn rhagor o farwolaethau

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 2,238 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru mewn 24 awr.

    Roedd 31 o farwolaethau medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae'n golygu bod 94,030 o achosion positif wedi'u cofnodi yng Nghymru, a 2,756 o farwolaethau.

    Ond mae gwir ffigwr y marwolaethau ymhell dros 3,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    View more on twitter
  3. 'Hanner staff rhai gwasanaethau iechyd yn absennol'

    Mae hyd at hanner staff rhai gwasanaethau iechyd i ffwrdd o'r gwaith yn sâl neu'n hunan-ynysu ar hyn o bryd.

    Rhybuddiodd Conffederasiwn GIG Cymru bod problemau staffio yn cael "effaith enfawr".

    Dywedodd bod 8-9% o staff GIG Cymru i ffwrdd o'u gwaith ar hyn o bryd, ond bod hyd at hanner staff rhai gwasanaethau yn absennol.

    Mae tua 5-6% o staff yn absennol mewn mis Rhagfyr arferol.

    ysbyty
  4. Galw am weld yr opsiynau

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi dweud fod angen i Lywodraeth Cymru ddangos i bobl fod ganddynt gynllun i daclo covid ar ôl cyfnod y Nadolig.

    Dywedodd Paul Davies AS: "Rydym angen deall nawr pa opsiynau maen nhw'n edrych arnynt.

    "Rwy'n deall fod angen gweld lle fyddwn ymhen ychydig wythnosau ond mae angen i ni weld yr opsiynau.

    "Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru wrth fynd yn ein blaenau - dyna be rydym am ei glywed."

  5. Gostwng cyfnod hunan-ynysu i 10 diwrnod

    Yn gynharach heddiw, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyfnod sy'n rhaid hunan-ynysu gyda Covid-19 yn cael ei ostwng o 14 diwrnod i 10.

    Dywedodd y llywodraeth fod y penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n awgrymu nad ydy unigolion yn heintus ar ôl 10 diwrnod.

    Mae'r newid yn berthnasol i bobl sy'n derbyn prawf positif, pobl sy'n rhannu cartref gyda'r bobl hynny a phobl sy'n gorfod hunan-ynysu ar ôl dychwelyd i Gymru o wlad dramor.

    Bydd y rheol newydd yn dod i rym ddydd Iau, 10 Rhagfyr.

    Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    adref
  6. Y sefyllfa "ddim allan o reolaeth"

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Atherton fod gan bawb ran i chwarae wrth geisio lleihau effaith yr haint.

    "Fe allai pobl rwystro'r risg drwy beidio cymysgu, mae'r neges syml."

    "Mae gan bobl eu rhan i'w chwarae, mae pawb yng Nghymru a rôl i'w chwarae."

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi disgwyl y byddai pobl Cymru wedi cymysgu llai ar ôl y cyfnod clo byr, ond bod "hynny heb ddigwydd fel yr oedd disgwyl."

    Pan gafodd ei holi a oedd pethau allan o reolaeth dywedodd Dr Atherton: "Dwi ddim yn meddwl fod pethau allan o reolaeth, ond mae cyfraddau yn codi, ac yn codi yn rhy gyflym."

    prawf
  7. Cyfyngiadau pellach cyn y Nadolig yn bosib

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws pellach yn y cyfnod cyn y Nadolig, meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru.

    Dywedodd Dr Frank Atherton fod y cwestiwn a fydd y mesurau presennol yn ddigonol i atal y gwasanaeth iechyd rhag cael ei orlethu yn "un pwysig".

    Ychwanegodd fod lefelau trosglwyddo ar hyn o bryd yn uwch na'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i ddisgwyl.

    "Rydyn ni mewn perygl o fynd i mewn i gyfnod y Nadolig gyda chyfraddau llawer uwch nag yr oeddem ni wedi ei ragweld neu wedi gobeithio," meddai.

    "Mae gweinidogion yn ystyried pa bethau pellach a allai fod yn bosibl yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae angen ystyried hynny."

    Aeth Dr Atherton ymlaen i ddweud ei bod yn anodd rhagweld pa fesurau y gallai fod yn rhaid eu cymryd ar ôl yr ŵyl, os bydd niferoedd yr achosion yn parhau i godi.

    anrheg
  8. 'Peidiwch cymysgu rhwng nawr a'r Nadolig'

    Llywodraeth Cymru

    Mae Dr Frank Atherton wedi annog pobl i beidio â chymysgu ag unrhyw un y tu allan i’w cartref.

    "Mae Covid yn ffynnu ar gyswllt dynol," meddai.

    "Nid oes ots a yw y tu fewn neu'r tu allan, unwaith y bydd yn cyrraedd ein cartrefi mae'n lledaenu'n gyflym iawn.

    "Yr anrheg orau y gallwn ei rhoi i’n teuluoedd eleni yw Nadolig di-coronafeirws.

    "Mae'r feirws yn lledaenu trwy gyswllt rhwng pobl yn hawdd iawn.

    "Rhaid i ni i gyd weithio i leihau nifer y bobl rydyn ni'n dod i gysylltiad â nhw nawr a'r Nadolig.

    "Mae fy neges ar hyn yn wirioneddol syml iawn: peidiwch cymysgu gyda phobl y tu allan i'ch cartref rhwng nawr a’r Nadolig. Peidiwch â chymysgu os gallwch chi ei osgoi."

  9. Nadolig: Angen i bobl gymryd gofal

    Llywodraeth Cymru

    Wrth drafod y Nadolig, dywedodd Dr Atherton fod angen i bawb gymryd gofal ychwanegol.

    Dywedodd fod ef ei hun wedi penderfynu canslo cynlluniau i ymweld â'i deulu yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.

    "Roeddwn am deithio i Ogledd Iwerddon i weld perthnasau. Byddwn yn gallu gwneud hyn oherwydd bod y cyfnod clo yno yn dod i ben ond rwyf wedi penderfynu peidio er mwyn eu cadw nhw'n ddiogel.

    "Roeddwn yn bwriadu mynd i weld fy mhlant yn Lloegr, ond rwyf wedi penderfynu peidio.

    "Fy mhrif flaenoriaeth yw i gadw fy holl deulu yn ddiogel."

    FA
  10. Pryder am ddau grŵp oedran penodol

    Llywodraeth Cymru

    Dywed prif swyddog meddygol Cymru Dr Frank Atherton ei fod yn poeni am y cynnydd yn y nifer yr achosion Covid ymysg pobl ifanc dan 25 oed a phobl dros 60 oed.

    "Rydym yn edrych ar y ddau grŵp oedran hyn yn arbennig oherwydd yn ystod y pandemig - ac o amgylch y byd - rydym wedi gweld heintiau yn cychwyn ymhlith pobl iau a lledaenu’n gyflym i bobl hŷn," meddai.

    Dywedodd fod pobl hŷn yn tueddu i fod mewn mwy o berygl o ddatblygu salwch mwy difrifol a'u bod yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty.

    "Mae hyn yn achosi pwysau difrifol ar ein GIG yn enwedig yn ne Cymru a'r Cymoedd."

  11. 'Sefyllfa yn un ddifrifol iawn'

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol Cymru, wrth y gynhadledd fod y sefyllfa bresennol yn un "ddifrifol iawn".

    Dywedodd fod cynnydd mewn achosion positif i'w weld yn 21 o 22 siroedd Cymru.

    O ran achosion positif, roedd cyfradd genedlaethol o 350 fesul 100,000 o bobl, ac roedd hyn meddai yn "uchel iawn".

    Mewn 10 o'r siroedd roedd y ffigwr dros 400.

  12. Cynnydd mewn achosion positif ymysg yr ifanc

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod 16,878 o bobl yn eu 20au wedi profi'n bositif am coronafeirws.

    Mae'n gynnydd o 1,893 ar yr wythnos flaenorol.

    Mae bron i ddwywaith cymaint o blant o dan 10 oed a bron i 50% yn fwy o blant a phobl ifanc rhwng 10 a 19 oed hefyd yn profi'n bositif o'i gymharu gyda mis yn ôl.

    Mae ffigyrau ar wahân, sydd bellach yn cael eu cyhoeddi bob wythnos, yn dangos bod bron i 60% o ysgolion wedi cael eu heffeithio gan y feirws ers mis Medi.

    Roedd gan bob ysgol uwchradd yn 15 o'r 22 sir o leiaf un achos.

    Roedd mwy na 1.6 miliwn o brofion Covid-19 wedi'u cynnal erbyn 6 Rhagfyr, gan gynnwys 748,303 ar weithwyr allweddol a thrigolion cartrefi gofal.

  13. Rhai rhieni i gadw plant adref o'r ysgol

    Mae rhai rhieni'n dweud eu bod am dynnu eu plant o'r ysgol yn gynnar yn sgil pryderon dros y broses o hunan-ynysu dros y Nadolig.

    Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru wedi dweud y dylai ysgolion aros ar agor tan 18 Rhagfyr, er gwaethaf galwadau gan rai undebau i ddod â gwersi i ben yn gynnar oherwydd Covid-19.

    Ym Mlaenau Gwent bydd diwrnod olaf disgyblion yn yr ysgol ddydd Mercher cyn i wersi symud ar-lein tan ddiwedd y tymor, ar ôl i'r ardal weld y graddau heintio uchaf yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'n "disgwyl i ysgolion weithredu fel arfer" oni bai bod rhesymau "eithriadol" dros iechyd y cyhoedd.

    plant
  14. 'Rhaid i bobl newid eu hymddygiad'

    Mae gan bawb ran i chwarae er mwyn arafu lledaeniad coronafeirws, a bydd "goblygiadau difrifol" os nad ydy ymddygiad pobl yn newid, meddai'r gweinidog iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething bod angen i bawb "gymryd cam yn ôl ac ystyried pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa".

    Daeth cyngor gwyddonol ddydd Mawrth i bobl ystyried hunan-ynysu cyn y Nadolig, a hynny ar ôl rhybudd am drydedd don o Covid-19.

    Ychwanegodd Mr Gething y byddai'r llywodraeth yn gwneud ei rhan, ond na fydd llwyddiant heb i "bawb wneud penderfyniadau gwahanol am sut i fyw ein bywydau".

    VG
  15. Croeso

    Y diwrnod ar ôl i'r cleifion cyntaf yng Nghymru dderbyn y brechlyn Pfizer/BioNTech, prif swyddog meddygol Cymru fydd yn arwain cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru.

    Er newyddion calonogol ddoe, parhau i gynyddu mae nifer achosion Covid-19 yng Nghymru.

    Am y diweddara o'r gynhadledd a'r sefyllfa yng Nghymru ymunwch â ni.