a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Senedd Fyw

    A dyna ni am heddiw gan Senedd Fyw.

    Wythnos nesaf yw wythnos olaf y Senedd cyn y Nadolig.

    Ymunwch â ni ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, ar gyfer y cyfarfod llawn.

    Tan hynny hwyl fawr i chi a chadwch yn ddiogel.

    bauble
  2. Gwahardd Neil McEvoy o'r Senedd am dair wythnos

    Mae ASau yn cymeradwyo argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad felly mae Neil McEvoy, AS Canol De Cymru, yn cael ei wahardd o'r Senedd am 21 diwrnod.

    Roedd 45 o blaid, fe wnaeth dau ymatal ac roedd chwech yn erbyn.

  3. Cynnig y Ceidwadwyr i 'atal y cyfyngiadau ar unwaith' yn cael ei wrthod

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a oedd yn "gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru" wedi cael ei wrthod.

    Roedd 17 o blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd 27 yn erbyn.

    Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

    2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a

    b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

  4. 'Mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws'

    Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf wedi'i basio gyda dau welliant gan y Ceidwadwyr.

    Roedd 33 o blaid, fe wnaeth 10 ymatal ac roedd naw yn erbyn.

    Felly mae'r Senedd:

    "Yn nodi:

    "a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru;

    "b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

    "c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd."

    Y ddau welliant gan y Ceidwadwyr oedd galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do a galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

  5. Cymeradwyo y cynnig ar gefnogaeth i rieni a babanod newydd yn Covid-19

    Mae cynnig Lynne Neagle (Torfaen)ar gefnogaeth i rieni a babanod newydd yn ystod Covid19 wedi cael ei gymeradwyo.

    Roedd 41 o blaid, fe wnaeth 12 ymatal ac nid oedd neb yn erbyn.

  6. Neil McEvoy yn cwestiynu rhai o'r datganiadau

    Mae Mr McEvoy yn gwrthod fersiwn Mr Antoniw o'r hyn ddigwyddodd, a honiadau rhai o'r tystion ei fod wedi codi "ddwywaith neu dair" yn y Senedd.

    Doedd dim lluniau camerau CCTV o'r digwyddiad yn y siambr, ond roedd yna rhai o'r tu allan.

    Dywedodd Mr McEvoy ei fod yn cwestiynu rhai o'r datganiadau a wnaed gan dystion a'r gŵyn ei hun.

    Penderfynodd y pwyllgor i beidio gwylio'r lluniau am resymau gwarchod data, gan ychwanegu fod y comisiynydd wedi canfod digon o dystiolaeth i gefnogi'r gŵyn.

    Roedd Mr McEvoy, meddai'r pwyllgor, wedi derbyn wrth roi tystiolaeth ei fod "wedi colli'i dymer a bod ei ymddygiad at Mick Antoniw MS yn ymosodol".

    "Dyw bod yn ymosodol yn gorfforol ac yn eiriol at unigolyn arall ddim yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa, ond yn arbennig gan rai sydd i fod i arwain trwy esiampl," medd y pwyllgor.

    "Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac yn achos hwn ni ddigwyddodd hynny."

  7. Neil McEvoy wedi torri'r cod ymddygiad "yn ddifrifol"

    Mae’r Pwyllgor yn argymell i’r Senedd, yn unol â pharagraff 7.12(vii) o’r Weithdrefn, y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid gwahardd Neil McEvoy AS o drafodion y Senedd am 21 diwrnod calendr.

    Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell na fydd gan Neil McEvoy AS yr hawl i gael mynediad i Dŷ Hywel na’r Senedd yn ystod y cyfnod hwn o 21 diwrnod.

    Roedd y gŵyn yn honni bod yr Aelod, Neil McEvoy AS, wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd trwy fod yn ymosodol yn gorfforol ac ar lafar tuag at Aelod arall (Mick Antoniw AS).

    Neil McEvoy
    Image caption: Neil McEvoy
  8. Ystyried ymddygiad Aelod o'r Senedd

    Mae Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) yn cynnig bod y Senedd:

    1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

    2. Yn cadarnhau’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi’i thorri.

    3. Yn penderfynu ar y canlynol am gyfnod o 21 diwrnod, ac eithrio yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos 21 Ionawr 2021:

    a) bydd hawliau a breintiau’r Aelodau a’i fynediad i’r Senedd a Thŷ Hywel yn cael eu tynnu’n ôl o dan Reol Sefydlog 22.10 (ii);

    b) caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.10(iii); a

    c) ni fydd yr Aelod yn cael hawlio cyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae paragraffau a. a b. uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.

  9. 'Dylai terfyn amser gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd fod yr un fath'

    Plaid Cymru

    Mae Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru am ychwanegu y pwyntiau canlynol ar ddiwedd y cynnig:

    Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

    Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

    Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

    a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

    b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

    Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

    Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  10. 'Effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau'

    Mae Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) o Grŵp y Gynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio am ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

    Yn gresynu:

    a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

    b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

    c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

    Caroline Jones
    Image caption: Caroline Jones
  11. 'Dim digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr am ychwanegu y pwyntiau canlynol ar ddiwedd y cynnig:

    Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

    Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

    Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

    Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

    Video content

    Video caption: Rhybudd busnesau wrth i gyfyngiadau ddod i rym
  12. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

    Mae Vaughan Gething yn cynnig ar ran Llywodraeth Cymru bod y Senedd:

    Yn nodi:

    a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru;

    b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

    c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

    Daeth y cyfyngiadau newydd ar fusnesau lletygarwch i rym ar draws Cymru nos Wener diwethaf.

    Mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio'n bennaf ar atyniadau dan do, ac mae tafarndai, bwytai a chaffis yn gorfod cau erbyn 18:00 bob nos, ac nid ydynt yn cael gweini alcohol.

    cwrw
    Image caption: Dyw busnesau ddim yn cael gweini alcohol ar hyn o bryd
  13. Grwpio dwy ddadl ar haint coronafeirws

    Mae Aelodau yn cytuno i grwpio'r ddwy eitem ganlynol i'w trafod gyda phleidleisiau ar wahân:

    • Dadl Coronafeirws LlC (wedi'i gohirio o ddydd Mawrth 8/12)
    • Dadl Coronafeirws Ceidwadol
  14. 'Angen osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto'

    Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Heledd Fychan, ar ôl casglu 274 llofnod ar bapur a 5,743 ar-lein, sef cyfanswm o 6,017 lofnodion.

    Roedd geiriad y ddeiseb, fel a ganlyn:

    "Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus o ran y llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf yn 2020, a bod camau priodol yn cael eu cymryd i unioni unrhyw broblemau fel gellid osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto."

    Nodir "bod hi'n bryd i leisiau a phrofiadau pobl a busnesau Pontypridd, Trefforest, Ffynon Taf, Trehafod, Cilfynydd, Rhydyfelin, Nantgarw, y Ddraenen Wen, Hirwaun, Abercwmboi, Aberpennar, Pentre, Treorci, Treherbert, Maerdy, Porth ac eraill gael eu clywed, fel bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol".

    Heledd Fychan
    Image caption: Cyflwynwyd y ddeiseb gan Heledd Fychan
  15. 'Dysgu gwersi o lifogydd Rhondda Cynon Taf 2020'

    Nesaf Dadl ar Ddeiseb Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu.

    Mae Janet Finch-Saunders (Aberconwy) yn cynnig bod y Senedd:

    Yn nodi’r ddeiseb ‘Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’

    Fe gasglodd y ddeiseb 6,017 o lofnodion.

    llifogydd
  16. Bethan Sayed yn pwysleisio ei phrofiad anodd yn y Senedd

    Mewn datganiad emosiynol yn y Senedd mae Bethan Sayed yn dweud eto am ei phrofiad "anodd" o gael babi yn ystod y pandemig.

  17. 'Gwelliant parhaus' i gefnogi babanod a rhieni newydd

    Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r "gwelliant parhaus" i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol a chefnogaeth i fabanod a rhieni newydd.

  18. Profiad Bethan Sayed

    Idris Sayed
    Image caption: Daeth Idris i'r byd ar ôl genedigaeth Cersarean, ond roedd rhaid i'w dad, Rahil, adael yn syth gan adael Bethan ar ei phen ei hun

    "Roedd mor anodd i mi ddygymod â'r ffaith na fyddai fy ngŵr yn gallu aros gyda fi, a minnau yn fam newydd heb yr un syniad am beth i'w wneud na sut i ymdopi.

    "Doeddwn i ddim yn disgwyl byddai rhoi genedigaeth yn hawdd, ond doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai mor anodd chwaith!

    "Gan fod y babi'n hwyr yn cyrraedd gwnes i dderbyn y cynnig o gael inducement. Ar y ffordd adre o fy hebrwng i'r ysbyty stopiodd yr heddlu fy ngŵr a gofyn iddo pam ei fod yn gyrru'n hwyr y nos yn ystod cyfnod ylockdown. Gwnaeth yr un digwyddiad hynny i mi sylweddoli na fyddai dim yn normal o ran rhoi genedigaeth.

    "Treuliais nifer o ddyddiau yn yr ysbyty, ac ar ôl oriau o boen a thriniaethau lu, daeth y penderfyniad i gael C-section.

    "Roedd y sefyllfa'n anodd, ond roedd fy ngŵr wrth fy ochr trwy'r drinaeth a phrofiad gwefreiddiol oedd medru croesawu babi Idris Abbas Sayed i'r byd o'r diwedd - ei weld am y tro cyntaf, ei glywed yn crio ac i'w ddal yn fy mreichiau yn saff."