a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i frechlyn Covid-19 gael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU.

    Mae disgwyl y bydd y brechlyn ar gael i'w ddosbarthu i'r cyhoedd yng Nghymru o fewn ychydig ddyddiau.

    Mae prif bwyntiau cynhadledd Llywodraeth Cymru yn yr erthygl ar ein hafan.

    Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Galw am bleidlais yn y Senedd cyn cyfyngu ar dafarndai

    Mae aelodau'r wrthblaid yn galw am bleidlais ar y cyfyngiadau diweddaraf i drechu Covid-19 cyn i dafarndai cael eu rhwystro rhag gwerthu alcohol.

    Mae'r gwaharddiad yn dechrau ddydd Gwener pan fydd busnesau lletygarwch hefyd yn cael gorchymyn i gau am 18:00.

    Ond mae aelodau'r Senedd yn annhebygol o gael pleidleisio ar y rheoliadau tan yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr.

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, hefyd wedi wynebu galwad o'i feinciau cefn i gyhoeddi tystiolaeth ar gyfer y cyfyngiadau.

    Dywed y Ceidwadwyr fod y rheolau'n "gwbl anghymesur" mewn rhannau o Gymru lle mae cyfradd yr haint yn gymharol isel.

    Roedden nhw wedi galw am ddadl frys a phleidlais yn y siambr brynhawn heddiw, ond fe wrthodwyd hynny gan Lywodraeth Cymru.

    Caerdydd
  3. Beth am frechlynnau eraill?

    Mae brechlynnau eraill ar y gweill, ac fe all y rheiny gael eu cymeradwyo yn fuan hefyd.

    Mae un gan Moderna yn defnyddio'r un system mRNA â'r un gan Pfizer, ac mae'n cynnig lefelau tebyg o amddiffyn - mae'r DU wedi archebu 7m dos, allai fod ar gael erbyn y gwanwyn.

    Mae'r DU eisoes wedi archebu 100m dos o fath gwahanol o frechlyn sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen ac AstraZeneca.

    Labordy
  4. Newydd dorriCofnodi 148 achos newydd a 51 o farwolaethau

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 51 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 wedi cael eu cadarnhau dros y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 1,480 o achosion newydd eu cadarnhau dros yr un cyfnod.

    O'r achosion newydd, roedd 206 yng Nghaerdydd, 191 yn Abertawe, 138 yn Rhondda Cynon Taf a 125 yng Nghaerffili.

    Gwynedd (5) oedd yr unig sir i gofnodi llai na 10 achos newydd.

    Cafodd 11,047 o brofion coronafeirws eu prosesu yng Nghymru ddydd Mawrth.

    Mae 82,289 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 2,614 o'r rheiny wedi marw.

  5. 'Angen amserlen' dosbarthu'r brechlyn newydd

    Plaid Cymru

    Mae angen i Lywodraeth Cymru nodi amserlen ar gyfer pryd y bydd pobl yng Nghymru yn gallu cael gafael ar frechlyn Covid-19, yn ôl Plaid Cymru.

    Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, wrth BBC Wales Today fod ar bobl yng Nghymru hefyd angen sicrwydd y byddai’r broses gyflwyno yn cael ei rheoli’n deg ledled y wlad.

    “Er bod hwn yn drobwynt pwysig iawn, iawn, ac yn llygedyn bach o oleuni ar ben draw'r twnnel, mae yna lawer o gwestiynau o hyd ynglŷn â phryd mae hyn yn dechrau yng Nghymru,” meddai.

    “Rhowch amserlen i ni, oherwydd byddwn i wedi dychmygu o'r eiliad y cafodd y brechlyn ei gymeradwyo... y byddai 'na amserlen.”

    Fe aeth ati i ganmol gwaith gwyddonwyr oedd wedi llwyddo i dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer brechlyn Pfizer mor gyflym, ond dywedodd y byddai cwestiynau nawr yn codi ynghylch sut y bydd y broses gyflwyno yn cael ei rheoli.

    “Faint fydd yn y cyflenwad cyntaf? A oes sicrwydd y bydd Cymru yn cael ei chyfran deg ym mhob cyflenwad? Neu fydd o'n gyfran deg o'r darlun cyffredinol?” meddai.

    “Fydd hyn yn achos, fel rydym yn sicr yn ei obeithio, lle bydd mynediad cyfartal at y brechlyn lle bynnag yr ydych chi?

    “Yr hyn yr wyf am ei sicrhau rŵan yw bod Llywodraeth Cymru yn gyrru hyn ymlaen, ac fe fyddwn yn chwarae ein rhan wrth graffu i sicrhau bod hynny'n digwydd.”

    Plaid Cymru
  6. 'Covid-19 yn parhau i ledaenu yn eang'

    Llywodraeth Cymru

    Er y newyddion positif am frechlyn, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol ei bod yn amlwg bod Covid-19 yn parhau i ledaenu yn eang yng Nghymru.

    Dywedodd Dr Frank Atherton bod bron i 1,500 o achosion newydd a 51 o farwolaethau wedi cael eu cadarnhau ddoe.

    "Dyma pam, yn anffodus, bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau ar rai sectorau yn y cyfnod cyn y Nadolig," meddai.

    Bydd y ffigyrau swyddogol yn cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 14:00.

  7. 'Angen penodi gweinidog penodol ar gyfer y cynllun brechu'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae angen i Lywodraeth Cymru benodi gweinidog penodol ar gyfer y gwaith o gyflwyno brechlynnau Covid-19 yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

    Wrth siarad gyda rhaglen BBC Wales Today, dywedodd eu llefarydd iechyd yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, fod gweinyddu'r cynllun brechlyn yn swydd rhy fawr i'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething, ei reoli.

    “Mae gan y gweinidog iechyd lwyth gwaith enfawr i ddelio ag o yn barod, gyda'r cynnydd enfawr mewn amseroedd aros," meddai Mr Davies.

    "Yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gweinidog all ganolbwyntio'n llwyr ar gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru, oherwydd rydym yn gwybod fel ffaith y bydd gwahanol fathau o frechlynnau ar gael, fydd angen logisteg gwahanol.

    “Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y prif weinidog i ganolbwyntio ar roi gweinidog mewn lle gyda'r cyfrifoldeb dros yrru'r rhaglen hon yn ei blaen.

    “Er y gallem gychwyn yn fach gyda'r rhaglen yma, bydd yn rhaglen enfawr pan fydd wedi cychwyn ac ni allwn fforddio unrhyw gamgymeriadau.”

    Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn hanfodol i gychwyn ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus amlwg am frechlynnau, i dawelu ofnau pobl am eu diogelwch ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut i gael mynediad at y drefn newydd sydd i ddod.

    “Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw sicrhau bod ymgyrch wybodaeth gyhoeddus gynhwysfawr o amgylch y rhaglen frechu hon all sicrhau unrhyw un sydd â phryderon, ond all hefyd hysbysu’r nifer fwyaf o bobl fydd am gael y brechlyn yma am y drefn sydd yn rhaid iddynt ei dilyn er mwyn gwneud hynny."

    Llefarydd
  8. 'Dim llacio i'r rheolau oherwydd bod brechlyn ar gael'

    Llywodraeth Cymru

    Ni fyddai'n syniad da i lacio rheolau coronafeirws oherwydd bod brechlyn ar gael, meddai Dr Frank Atherton.

    Pwysleisiodd yr angen i bobl gadw at y rheolau am nad yw'n glir eto a fydd y brechlyn yn llwyddo i atal lledaeniad o fewn y gymuned.

    "Fe fyddai'n wirion iawn i ni ddweud ein bod ni'n mynd yn ôl at ein bywydau arferol," meddai Dr Atherton wrth y gynhadledd.

    "Mae'n rhaid i ni gadw at y mesurau fydd yn ein cadw'n ddiogel dros y gaeaf wrth i ni weithio drwy’r broses hir o frechu'r boblogaeth gyfan.

    "Felly am y dyfodol rhagweladwy, mae'n rhaid i ni gadw pellter cymdeithasol, gorchuddio ein hwynebau ble fo angen a chadw at y mesurau hylendid ry'n ni wedi dod yn gyfarwydd â nhw."

  9. Rhy gynnar i wybod a fydd y brechlyn yn atal y lledaeniad

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru wrth y gynhadledd nad yw'n sicr eto a fydd brechlyn Pfizer-BioNTech yn llwyddo i atal Covid-19 rhag lledaenu.

    Yn ôl Dr Frank Atherton mae data'r cwmni yn dangos ei fod yn "eithaf da" am atal pobl rhag cael eu heintio a mynd yn sâl.

    "Ond dydyn ni ddim yn gwybod eto a fydd yn ei atal rhag lledaenu," meddai wrth y gynhadledd.

    "Ni fyddwn yn gwybod hynny nes y bydd y rhaglen frechu wedi ei darparu'n llawn."

    Ychwanegodd Dr Atherton ei bod hi am fod yn "aeaf anodd" a'i bod yn bwysig fod pawb yn cadw at y rheolau.

  10. Pam brechu'r henoed cyn myfyrwyr?

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd brechlynnau ar gyfer pobl iau ar gael ar ôl i bobl dros 50 oed gael eu pigiadau, meddai cadeirydd bwrdd y rhaglen frechu yng Nghymru.

    Gofynnwyd i Dr Gill Richardson pam y bu’n rhaid i fyfyrwyr aros yn hirach am frechiad pan roeddynt yn cael eu beio weithiau am ledaenu’r feirws yn gymdeithasol.

    Mewn ymateb, dywedodd Dr Richardson fod pobl iau yn tueddu i ddangos symptomau llai ffyrnig ac yn llai tebygol o fod yn yr ysbyty os ydyn nhw'n dal coronafeirws.

    Bydd pobl gyda chyflyrau iechyd yn cael eu cynnwys yng nghamau cynharach y rhaglen frechu.

    Fel rhan o gytundeb ledled y DU, dywedodd Dr Richardson: “Dywedwyd wrthym y bydd pawb dros 50 oed” yn cael eu brechu yn gyntaf “ac rwy’n siŵr unwaith y bydd hynny wedi’i wneud yna fe fydd modd edrych ar yr holl beth eto i edrych ar y grwpiau iau”.

    Ychwanegodd: “Mae'n debyg ei bod wedi bod yn anodd iawn os ydych chi'n fyfyriwr i glywed bod llawer o bobl yn teimlo mai chi sy'n gyfrifol.

    “Ond i bob un ohonom mewn gwirionedd fe fyddwn yn dweud nad yw’n fater o oedran. Mae'n fater o'n hagosrwydd at ein gilydd.”

  11. Dau safle wedi'u dewis i gadw'r brechlynnau

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r ddau safle yng Nghymru sy'n cael eu defnyddio i gadw'r brechlyn wedi cael eu dewis er mwyn sicrhau y gallai gael ei yrru i'r GIG mor sydyn â phosib.

    Ond ni wnaeth Dr Gill Richardson ddatgelu ble yn union mae'r safleoedd hynny.

    "Rydyn ni wedi edrych y ofalus ar yr amodau sydd yn rhaid eu storio a pha mor hawdd y bydd ei ddosbarthu, fel y gallan ni ddarparu'r brechlyn mor gyflym â phosib," meddai.

    Cynhadledd
  12. 'Anhebyg y bydd pobl heb gerdyn brechiad yn gael eu gwrthod'

    Llywodraeth Cymru

    Nid ydy cadeirydd y rhaglen frechu yng Nghymru yn rhagweld y bydd busnesau lletygarwch yn gwrthod gweini unigolion sydd ddim yn gallu profi eu bod wedi cael eu brechu.

    Mae yna gynlluniau ar y gweill i roi cerdyn cofnodi i bobl sydd wedi cael y brechlyn.

    Wrth siarad gyda gohebwyr, dywedodd Dr Gill Richardson: “Mae cardiau cofnodi yn cael eu hystyried ar lefel y DU ar hyn o bryd.

    “Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod i gael yr adnodd gwerthfawr a sylweddol yma am ddim o’u gwirfodd eu hunain, ond does dim gorfodaeth.

    “Ac nid ydym yn rhagweld yng Nghymru y bydd y sector lletygarwch yn troi pobl i ffwrdd.”

  13. Y brechlyn yn ddiogel i bobl hŷn neu fregus

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Gill Richardson wrth y gynhadledd bod cael effeithiau anfwriadol o ganlyniad i'r brechlyn yn digwydd mewn achosion eithriadol yn unig.

    Yn ôl Dr Richardson bydd pobl yn cael ychydig o boen yn eu braich am ychydig neu dymheredd bychan, a bod y brechlyn yn un "diogel iawn".

    Ychwanegodd bod y brechlyn wedi profi'n ddiogel iawn i bobl hŷn a phobl sydd â chyflyrau iechyd eraill.

    "Rydyn ni'n falch iawn o gynnig yr hyn ry'n ni'n teimlo sy'n frechlyn diogel iawn i boblogaeth Cymru," meddai.

  14. Brechu pawb yn dasg 'enfawr'

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd “yn bell i mewn i’r flwyddyn nesaf” cyn i holl boblogaeth Cymru gael ei brechu yn erbyn Covid-19, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

    Dywedodd Dr Frank Atherton y byddai'r dasg yn un "enfawr”.

    “Mae'n debyg nad ydym erioed yn y DU - yn sicr yn fy ngyrfa broffesiynol i - wedi ymgymryd â rhaglen frechu dorfol o'r natur hon lle mai ein huchelgais yw cyrraedd y cyfan o'r boblogaeth yn y pen draw.

    “Yn amlwg, ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Bydd yn mynd i mewn i'r flwyddyn nesaf cyn i ni weithio trwy hyn ac mae hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod angen i ni gael mynediad at stociau, ac wrth gwrs mae logisteg rheoli rhywbeth ar y raddfa yma'n hollol enfawr."

    Ychwanegodd: “Byddwn yn gweithio ein ffordd trwy'r rhestrau blaenoriaeth hynny.

    "Mae'n newyddion gwych ein bod ni'n mynd i allu dechrau cyn gynted â'r wythnos nesaf, ond mae popeth arall yn dibynnu ar pryd rydyn ni'n cael stociau a pha mor gyflym y gallwn ni ddechrau ei gyflwyno - ond byddwn ni'n edrych ymhell i'r flwyddyn nesaf cyn y mae'r boblogaeth gyfan wedi'i brechu.”

  15. Brechlyn Covid-19 wedi wynebu 'yr un faint o graffu'

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Gill Richardson bod brechlyn Pfizer-BioNTech wedi derbyn yr un faint o graffu ac unrhyw frechlyn arall, er y cyflymder y cafodd ei ddatblygu.

    Yn ôl Dr Richardson y rheswm pam ei bod yn cymryd cyhyd i ddatblygu brechlynnau arferol ydy'r angen am nawdd a digon o wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn treialon.

    Ond dywedodd bod gwyddonwyr wedi rhannu gwybodaeth er mwyn datblygu brechlynnau yn gynt yn yr achos yma, ac nad ydy ariannu'r brechlynnau wedi bod yn broblem.

  16. 'Anodd iawn' dosbarthu brechlyn i gartrefi gofal

    Llywodraeth Cymru

    Nid ydy prif swyddog meddygol Cymru wedi gallu dweud pryd yn union y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn derbyn y brechlyn Pfizer-BioNTech.

    Dywedodd Dr Frank Atherton wrth y gynhadledd i’r wasg fod trefniadau i ddosbarthu'r brechlyn i gartrefi gofal yn “waith oedd ar y gweill”, ond dywedodd hefyd ei fod yn “anodd iawn” darparu’r brechlyn i leoliadau o'r math yma.

    Fel cam cyntaf, byddai'n rhaid ei ddarparu i nifer cyfyngedig o safleoedd, meddai.

    "Rydyn ni'n ceisio dod o hyd i ffyrdd gyda'r brechlyn hwn i ddarparu dull mwy gwasgaredig o ddosbarthu," meddai.

    "Wrth gwrs mae brechlynnau eraill ar y gweill - brechlyn Oxford er enghraifft nad oes ganddo ofynion mor llym o ran rheoli tymheredd," meddai.

    "Wrth i hynny ddod ar-lein, fel rydyn ni'n gobeithio, bydd hynny'n rhoi gallu pellach i ni weithio ein ffordd trwy'r rhestrau blaenoriaeth hynny."

    Ychwanegodd Mr Atherton: "Ni allaf roi union ddyddiad nag amserlen, ond rydym yn gweithio trwy'r broses honno cyn gynted ag y gallwn.

    "Achos mae'r preswylwyr oedrannus hynny, sydd fel arfer yn oedrannus mewn cartrefi gofal, yn un o'n blaenoriaethau uchaf," ychwanegodd.

  17. 'Posib y bydd angen gwneud y brechlyn yn un blynyddol'

    Llywodraeth Cymru

    Gallai brechlyn yn erbyn Covid-19 fod yn rhaglen flynyddol yn y dyfodol, medd Dr Atherton.

    "Prif nod brechlyn ydy amddiffyn y rheiny sydd yn fwyaf bregus, ac atal pobl rhag datblygu salwch difrifol os ydyn nhw'n cael y feirws," meddai wrth y gynhadledd.

    "Ry'n ni hefyd yn gobeithio y bydd yn lleihau'r lledaeniad o fewn y gymuned.

    "Rydyn ni wedi dysgu llawer am y feirws dros y flwyddyn, ac ry'n ni'n gwybod bod imiwnedd ddim i weld yn para am byth.

    "Mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni feddwl am frechlyn Covid-19 yn yr un modd â phigiad rhag y ffliw - rhywbeth sydd angen arnom yn flynyddol er mwyn ein gwarchod."

  18. Tri brechlyn wedi cael eu profi i fod yn ddiogel

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton bod treialon wedi dangos bod tri brechlyn yn ddiogel.

    Y brechlynnau hynny ydy Pfizer-BioNTech, Moderna ac Oxford-AstraZeneca.

    Ond hyd yma dim ond un Pfizer-BioNTech sydd wedi cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU.

    Dywedodd Dr Atherton bod nifer o gamau o ran treialon clinigol sy'n rhaid goroesi cyn y gellir defnyddio brechlyn ar y cyhoedd.

    "Mae'r tri brechlyn sydd wedi cael eu datblygu, yn dilyn treialon mawr, wedi adrodd eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol," meddai wrth y gynhadledd.

  19. 'Dim gorfodaeth' i dderbyn brechlyn

    Llywodraeth Cymru

    Wth siarad gyda newyddiadurwyr, fe wnaeth Dr Gill Richardson amlinellu pa grwpiau yng Nghymru fydd yn cael eu brechu gyntaf ond dywedodd hefyd na fydd unrhyw un yn cael ei orfodi i gael y brechiad.

    Dywedodd Dr Richardson: “Y grwpiau cyntaf i gael cynnig y brechlyn fydd pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, pobl 80 oed a hŷn a holl weithwyr rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol.

    “Byddwn wedyn yn ei gynnig i grwpiau oedran eraill a'r rhai sydd â'r risg clinigol uchaf.

    “Fe fydd pobl yn derbyn gwahoddiad i gael y brechlyn trwy'r GIG - byddwn yn cynnal clinigau brechlyn arbennig i sicrhau y gall pobl dderbyn y pigiad, wrth gadw gwasanaethau arferol y GIG yn rhydd i weld cleifion.”

    Ychwanegodd: “Y brechlyn yw’r ffordd orau i amddiffyn pobl, ond ni fydd unrhyw un yn cael ei orfodi i’w gael os nad ydyn nhw ei eisiau”.

    Dywedodd y byddai’n annog pobl i gymryd y cynnig o frechlyn ac achub bywydau.

  20. Brechiadau'n dechrau yn syth pan maen nhw'n cyrraedd

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Dr Richardson bod heriau yn bodoli ond y bydd y rhaglen frechu yn dechrau cyn gynted ag y bydd brechlynnau'n cyrraedd Cymru.

    "Rydyn ni wedi profi ein cynlluniau - mae 'na heriau, gan fod yn rhaid cadw un o'r brechlynnau ar dymheredd isel iawn," meddai.

    "Ry'n ni'n hyfforddi staff iechyd ar sut i roi'r pigiad i bobl ac wrthi'n cwblhau'r fframwaith cyfreithiol er mwyn gallu ei roi i'r cyhoedd."

    Ychwanegodd bod angen dau ddos o'r ddau frechlyn - Pfizer-BioNTech ac Oxford-AstraZeneca - er mwyn eu gwneud yn effeithiol, a bod angen y rheiny bedair wythnos ar wahân.