a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Senedd Fyw

    A dyna ni am heddiw - bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth nesaf, 8 Rhagfyr, ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

    Tan hynny cadwch yn ddiogel a diolch am eich cwmni.

  2. Dadl fer: Bywyd gwyllt eiconig Cymru: trafferthion gwiwerod coch Cymru

    Yn olaf heddiw y ddadl fer ac mae Darren Millar wedi dewis y testun 'Bywyd gwyllt eiconig Cymru: trafferthion gwiwerod coch Cymru'.

    Mae oddeutu 140,000 gwiwer goch yn y DU o gymharu â 2.5 miliwn o wiwerod llwyd.

    Yn ddiweddar fe awgrymodd ymchwil gan Brifysgol Queens yn Belffast bod nifer y gwiwerod coch ar gynnydd mewn ardaloedd lle mae bele'r coed yn byw.

    Ar un adeg roedd gwiwerod coch yn byw ym mhob rhan o Gymru, ond maen nhw i'w gweld bellach mewn pocedi yn unig.

    Yn ogystal â mewn rhannau o'r canolbarth, amcangyfrifir bod 800 ar Ynys Môn - o le mae gwiwerod llwyd wedi'u difa'n gyfan gwbl - ac yng Nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun.

    Mae rhai gwiwerod coch hefyd wedi cael eu gweld yng Ngwynedd. Ym mis Gorffennaf, rhyddhawyd pedwar bele'r coed i goedwig ger Bangor fel rhan o brosiect Red Squirrels United - rhaglen yr UE i ddiogelu poblogaethau o wiwerod coch.

    Gwiwer goch
  3. Cymeradwyo y cynnig ar y sector bwyd wedi iddo gael ei ddiwygio

    Mae cynnig Plaid Cymru ar y sector bwyd yn cael ei ddiwygio yn llwyr gan Lywodraeth Cymru, ac yna yn cael ei gymeradwyo gan ASau.

    Roedd 39 blaid, ni wnaeth yr un aelod ymatal ac roedd 11 yn erbyn.

  4. Cymeradwyo adroddiad ac argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

    Mae ASau yn cymeradwyo adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Adroddiad 02-20 ac yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

    Roedd 40 o blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd un yn erbyn.

  5. 'Angen gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol'

    Llywodraeth Cymru

    Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ran Llywodraeth Cymru am ddileu popeth yng nghynnig Plaid Cymru ac am gynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.

    2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi yn cael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

    a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;

    b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;

    c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;

    d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.

    Lesley Griffiths AS Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
    Image caption: Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
  6. Cyflwyno siarter bwyd a diod leol

    Ceidwadwyr Cymreig

    Os derbynnir gwelliant Llywodraeth Cymru, caiff gwelliant y Ceidwadwyr ei ddad-ddethol.

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    • cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr;
    • datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru;
    • gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor.
    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
    Bwyd o Gymru
    Image caption: Mae'r Ceidwadwyr am weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, dramor
  7. Dadl Plaid Cymru – Y sector bwyd

    Plaid Cymru

    Dadl Plaid Cymru sydd nesaf ac mae Llyr Gruffydd yn cynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi;

    2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf;

    3. Yn cydnabod bod pandemig Covid-19 wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol.

    4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio.

    5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd fyd-eang.

    6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020.

    7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol;

    b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd;

    c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru;

    d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus.

    Bwyd
    Image caption: Mae Plaid Cymru am i'r Senedd ganmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru 'yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio'
  8. Ymchwil ar y gweill i weld sut gall economi Cymru fod ar ei hennill

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion ac wrth ymateb i'r argymhelliad cyntaf dywed bod "trafodaethau’n mynd rhagddynt â’r Grid Cenedlaethol a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu ynghylch yr effeithiau, a byddwn hefyd yn gwneud ymchwil i sut y gall cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy helpu i wneud y grid yn fwy cadarn.

    "Mae ymchwil hefyd yn mynd rhagddi i sut y gall economi Cymru fod ar ei hennill o’r technolegau sy’n dod i’r amlwg a chyfleoedd ar gyfer ailgylchu.

    Mae modd gweld yr ymateb llawn yma.

  9. Pryd y bwriedir cyhoeddi strategaeth ar gyfer cerbydau trydan?

    Mae 15 o argymhellion yn yr adroddiad a'r un cyntaf yw y "dylai Llywodraeth Cymru ddangos i’r Pwyllgor sut y mae’n ystyried materion sy’n ymwneud ag ynni a chapasiti’r grid wrth gynnal fflydoedd cerbydau cwbl drydan yng Nghymru.

    "Dylai ddangos sut y mae’n cynnwys hynny yn rhan o system gynllunio Cymru, a rhoi sicrwydd ynghylch ei chynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd wrth reoli’r broses gylchol o gaffael ac ailgylchu batris trydan."

    Nodir hefyd y dylai Llywodraeth Cymru roi gwybod i’r Pwyllgor am y sefyllfa ddiweddaraf gyda’i chynlluniau ar gyfer y rhwydwaith seilwaith cerbydau trydan a phryd y mae’n bwriadu cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer cerbydau trydan.

    car trydan
  10. Datgarboneiddio trafnidiaeth

    Nesaf dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth.

    Mae Russell George (Sir Drefaldwyn) yn cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad: Datgarboneiddio trafnidiaeth.

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth a ddaeth i law cyn yr argyfwng iechyd ac economaidd presennol.

    Noda Mr George mai "dyma argyfwng a ddaeth â’r rhwydwaith trafnidiaeth i stop bron yn llwyr, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon.

    "Yn fyd-eang, bu gostyngiad o 17% yn yr allyriadau carbon dyddiol pan oedd y cyfyngiadau symud ar eu hanterth , gyda bron i hanner hynny oherwydd llai o deithiau mewn ceir.

    "Nid yw’r argyfwng hinsawdd wedi diflannu, a bydd yn rhaid i’r economi ailagor nawr o dan amodau newydd a heriol dros ben.

    "Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i gyfrannu at gynlluniau sydd ar y gweill i greu rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ar gyfer y cyfnod ar ôl argyfwng y coronafeirws. Bydd y Pwyllgor yn parhau i graffu ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid i sicrhau buddion o’r agenda datgarboneiddio."

    llygredd
  11. 'Angen i BBC Cymru Wales gael arian gany BBC yn ganolog'

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un o'r argymhellion heblaw yr un oedd yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i lenwi'r bwlch o hyd at £8.5 miliwn yng nghyllid BBC Cymru.

    "Mae Llywodraeth Cymru," medd yr Arglwydd Elis-Thomas - Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - "yn cydnabod y ffaith bod y BBC yn annibynnol ar y Llywodraeth. Caiff BBC Cymru Wales ei gyllido gan y BBC drwy ffi’r drwydded deledu.

    Mae’n bwysig bod BBC Cymru Wales yn parhau i gael ei gyllido gan y BBC yn ganolog o’i gyllideb gyffredinol, a hynny er mwyn diogelu’r annibyniaeth honno. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson am gyllid digonol i BBC Cymru Wales gan y BBC yn ganolog ar gyfer rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill yn Gymraeg a Saesneg.

    "Rydym yn ymwybodol o'r heriau ariannol sylweddol y mae’r BBC yn eu hwynebu ac effaith hyn ar gyllid BBC Cymru Wales. Rydym yn pryderu, yn naturiol, ynghylch effaith hyn ar wasanaethau a gweithrediadau BBC Cymru Wales yng Nghymru.

    "Byddwn yn parhau i bwyso am gyllid digonol i BBC Cymru Wales gan y BBC yn ganolog, yn unol â'i annibyniaeth ar y llywodraeth, a ariennir drwy ffi'r drwydded Deledu."

    Yr Arglwydd Elis-Thomas
    Image caption: Yr Arglwydd Elis-Thomas
  12. 'Mwy o sylw bellach i faterion datganoledig'

    Dywed y Ceidwadwr David Melding bod Mark Drakeford wedi dod yn berson sydd yn ennyn cryn sylw ar draws y DU a bod nifer wedi dod i wybod am ei ddiddordebau megis criced a'i wreiddiau yng Nghaerfyrddin.

    Mae'r diddordeb hwnnw, meddai, yn enghraifft o sut mae'r cyfryngau (Prydeinig) yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig.

    David Melding
    Image caption: David Melding
  13. Awydd am fwy o newyddion lleol yn ystod y pandemig ond dim hysbysebion

    Clywodd y Pwyllgor y bu awydd enfawr am newyddion yn ystod y pandemig a bod mwy o ddiddordeb wedi bod mewn newyddion lleol.

    Ond nodwyd bod effaith yr argyfwng wedi bod yn drychinebus o safbwynt masnachu gan nad yw busnesau lleol yn hysbysebu.

    Er y bu codiad mawr o ran cynulleidfaoedd ar-lein yn ystod y pandemig, nid yw hyn wedi troi’n refeniw yn sgîl hysbysebu.

    Ar anterth y pandemig, nid oedd tua 80 y cant o hysbysebwyr lleol yn hysbysebu.

    Fe wnaeth y pwyllgor naw o argymhellion - yn eu plith annog Ofcom i sicrhau bod darlledwyr yn cynnal cywirdeb a didueddrwydd drwy adrodd ar bob un o bedair gwlad y DU yn gyfartal, fel mater o drefn, ond yn enwedig mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd.

    Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i lenwi'r bwlch o hyd at £8.5 miliwn yng nghyllid BBC Cymru.

    Cymru Fyw
    Image caption: Roedd yna awydd am fwy o newyddion lleol yn ystod y pandemig
  14. Effaith argyfwng Covid-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol

    Nesaf dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng Covid-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol.

    Mae Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) yn cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad y pwyllgor.

    Helen Mary Jones
    Image caption: Helen Mary Jones
    View more on twitter
  15. 'Y gŵyn hon yn enghraifft glir iawn o gam-drin y broses gwyno'

    Cafodd y gŵyn ei gwneud gan Jonathan Swan, a wnaeth ymddiswyddo fis Rhagfyr y llynedd fel cadeirydd cangen Gorllewin Caerdydd o Blaid Cymru.

    Yn yr adroddiad noda'r Comisiynydd bod y "gŵyn hon yn enghraifft glir iawn o gam-drin y broses gwyno mewn ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol".

    "Er na ellir esgusodi’r ffaith bod Dr Lloyd wedi gweithredu’n groes i'r darpariaethau, mae ymddygiad ysgogydd y gŵyn, yn fy marn i, yn llawer mwy gresynus.

    "Nid yn unig y datgelodd y person hwnnw nodyn cyfrinachol y cyfarfod preifat i Mr Swan gan wybod y byddai’n datgelu hynny unwaith eto ond celodd ef neu hi ei enw hefyd trwy ddefnyddio Mr Swan i fod yn wyneb i’r gŵyn.

    "Rwy'n argymell y dylid ystyried cynnwys darpariaeth yn y Cod Ymddygiad sy'n gwahardd cam-drin y broses gwyno," ychwanegodd y Comisiynydd.

    Bydd y bleidlais ar y cynnig yn cael ei chynnal yn hwyrach y prynhawn yma.

  16. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 02-20

    Mae Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) yn cynnig bod y Senedd yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Adroddiad 02-20, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Tachwedd 2020 ac yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

    Mae'r gŵyn a nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â chyfarfod Grŵp Plaid Cymru ym mis Mehefin 2017, a'r defnydd o adnoddau'r Senedd (sef ystafell yn Nhŷ Hywel) at ddibenion gwleidyddiaeth plaid. Cafodd ei gwneud yn erbyn Dai Lloyd AS, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell i’r Senedd fod achos o dorri’r Cod wedi'i ganfod ac na ddylid cymryd camau pellach.

    Wrth ddod i’w argymhelliad, nododd y Pwyllgor fod Dai Lloyd AS yn llwyr gydnabod bod ei weithredoedd yn torri'r Cod Ymddygiad a'i fod wedi cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad y Comisiynydd.

    Dai Lloyd
    Image caption: Dai Lloyd wedi "llwyr gydnabod bod ei weithredoedd yn torri'r Cod Ymddygiad"
  17. 'Bradychu'r gymuned wledig' gan ei gadael '£137 miliwn yn brin'

    Mae un cwestiwn amserol wedi'i gyflwyno ac mae Llyr Gruffydd am ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau i gyllid amaethyddol Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2020?

    Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyhuddo llywodraeth y DU o "fradychu'r gymuned wledig" gan ei gadael "£137 miliwn yn brin".

    Bydd amaeth yng Nghymru yn derbyn £242m y flwyddyn nesaf ac mae gweinidogion llywodraeth y DU yn dweud y bydd ffermwyr yn cael yr un faint o arian ag a gawsont yn 2019.

    Gwartheg
    Image caption: Mae'r Canghellor yn cael ei gyhuddo o fradychu ffermwyr drwy beidio parhau gyda'r lefel o gyllid arferol, ond gwadu hynny mae llywodraeth y DU
  18. Sut mae cadw siaradwyr Cymraeg yn y gymuned leol?

    Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan sydd nesaf.

    Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru yn gofyn: Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod modd cadw siaradwyr Cymraeg ifanc yn y gymuned leol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig?

    Dywed y gweinidog ei bod wedi sefydlu "bwrdd crwn" i drafod yr heriau ac y bydd allfudo o gymunedau gwledig yn ganolog i'r trafodaethau hynny.

    Cymraeg
  19. Beth am ddyfodol yr Urdd a'r Llyfrgell Genedlaethol?

    Urdd

    Wrth ateb cwestiynau gan Sian Gwenllian ar ddyfodol mudiad yr Urdd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru dywed y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan bod y llywodraeth yn "cadw meddwl agored" ar be sy'n bosib o ran dyfodol yr Urdd.

    Yn sgil y cyhoeddiad ddydd Mawrth y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021 yn cael ei gohirio dywed y gweinidog ei bod yn ymwybodol bod yr Urdd wedi bod yn ymdrechu'n galed ar hyd y blynyddoedd i fod yn llai dibynnol ar y llywodraeth am gefnogaeth ariannol ond fod hynny yn anodd yn ystod y pandemig a nododd bod adroddiad diweddar wedi dangos bod y mudiad yn wynebu colledion o £18m dros y blynyddoedd nesaf.

    Wrth gyfeirio at y Llyfrgell Genedlaethol dywed y gweinidog bod penaethiad y sefydliad yn ymwybodol bod angen "aildrefnu eu cyllideb".

    Llyfrgell Genedlaethol
  20. Covid-19: Nifer achosion heddiw o gryn bryder i'r gweinidog iechyd

    Dywed Vaughan Gething bod niferoedd heddiw - 220 achos o Covid-19 ymhob 100,000 o bobl "o gryn bryder imi".

    View more on twitter