a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn y llif byw, hwyl am y tro.

  2. 1,737 achos ac 11 marwolaeth newydd

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 1,737 o achosion newydd o'r coronafeirws eu cadarnhau yn y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd 11 o farwolaethau eu hadrodd hefyd. Mae ICC wedi cofnodi cyfanswm o 49,571 o achosion a 1,859 o farwolaethau.

    Cafodd 12,665 o brofion eu cynnal yn y 24 awr ddiwethaf.

  3. '26,000 o'r boblogaeth gyda Covid-19'

    Twitter

    Dyma'r amcangyfrif diweddaraf gan Ystadegau Cymru am yr wythnos 17-23 Hydref, ond mae'r corff yn dweud fod cryn ansicrwydd am y ffigwr cywir.

    View more on twitter
  4. Angen trafod cynllun ar gyfer y Nadolig 'gyda'n gilydd'

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl cwrdd â Llywodraeth y DU i drafod "agwedd gyffredin tuag at y Nadolig".

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi derbyn llythyr gan Boris Johnson ar ddechrau'r wythnos, lle dywedodd y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu gyda Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Michael Gove.

    Honnodd Mr Drakeford nad yw eto wedi derbyn y gwahoddiad ac mae ei swyddogion wedi ceisio eu gorau "i sicrhau'r cyfarfod hwnnw yr wythnos hon" ond "nid yw wedi dod eto".

    "Mae angen i ni gyfarfod o amgylch y bwrdd gyda'n gilydd. Mae angen i ni rannu gwybodaeth. Mae angen i ni rannu syniadau lle bynnag y gallwn, yn enwedig o gwmpas cyfnod y Nadolig, ac fe hoffwn weld dull mor gyffredin ag y gallwn greu o ymateb gyda'n gilydd."

    Pan ofynnwyd iddo sut mae mesurau yn Lloegr yn effeithio ar camau sydd yn cael eu penderfynu yng Nghymru, ychwanegodd nad oes ganddo "unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn troi hyn yn gystadleuaeth rhwng Cymru, ac unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig."

    Ychwanegodd mai ei obaith oedd gweld pawb sydd yn gweithio yn galed i reoli'r haint ymhob ran o'r DU yn llwyddo.

    "Does gen i ddim ond...dymuniad positif i weld yr holl gamau hyn yn llwyddo", meddai.

  5. 'Dim beirniadaeth o Loegr' wrth gael cyfnod clo yma

    Llywodraeth Cymru

    Nid oes unrhyw feirniadaeth o benderfyniadau Lloegr dros Covid-19 o ran penderfyniad y llywodraeth yma i gael cyfnod clo llym a byr yn ôl y Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford fod y “sefyllfa yn Lloegr yn wahanol iawn".

    "Mae gennym 22 o awdurdodau lleol yma, yn llythrennol mae ganddyn nhw gannoedd ac mae’r bwlch rhwng y rhannau hynny o Loegr lle mae’r feirws ar ei lleiaf a’r rhan o Loegr lle mae ar ei huchaf yn llawer mwy na rydym yn ei weld yma yng Nghymru.

    “Fy ngwaith i yw gwneud y penderfyniadau cywir i Gymru. Dydw i ddim eisiau i bobl ddarllen beirniadaeth o eraill o ganlyniad i'r penderfyniadau sydd, yn ein barn ni, yn iawn i ni.”

  6. Plaid Cymru'n galw am fwy o fanylion

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi galw ar y llywodraeth i esbonio sut y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd yn atal y coronafeirws rhag lledaenu.

    Bydd cyhoeddiad am y rheolau newydd ddydd Llun meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod angen "deall y manylion ar sut ry'n ni'n dod allan o'r clo byr", a sut all y cyfyngiadau newydd gadw'r gyfradd R i lawr.

    "Os ydyn ni'n mynd i'w gael e lawr, sut y'n ni'n mynd i'w gadw i lawr, a dydyn ni heb gael y manylion yna gan Lywodraeth Cymru, y dystiolaeth wyddonol ar sut y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn mynd i atal y cynnydd..."

    Adam Price
  7. Penderfynu ar faint dirwyon dros y penwythnos

    Llywodraeth Cymru

    Bydd gweinidogion yn penderfynu dros y penwythnos am faint y dirwyon y bydd yn rhaid i bobl eu talu am roi gwybodaeth ffug i weithwyr Profi, Olrhain a Diogelu.

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y polisi newydd wedi'i gynllunio i atal pobl rhag hawlio taliad newydd trwy dwyll o £500 wedi'i anelu at bobl ar incwm isel sy'n cael eu gorfodi i hunan-ynysu

    Bydd dyletswydd ar gyflogwyr hefyd i beidio â gorfodi staff i weithio os yw gweithwyr olrhain cyswllt wedi dweud wrthynt am hunan-ynysu.

    “O ganlyniad i’r cyhoeddiadau hyn bydd yn haws gwneud y peth iawn yma yng Nghymru,” meddai.

  8. Cydnabod bod cymorth busnes yn 'gymhleth'

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r broses o gael cymorth i fusnesau yn "gymhleth" yn ystod y pandemig, meddai Mr Drakeford.

    Er hynny, dywedodd bod busnesau'n deall hynny, ac yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael.

    Dywedodd bod y ffaith bod cynlluniau gwahanol ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU yn "ychwanegu cymhlethdod", ond ei fod yn "gymhlethdod mae busnesau'n deall ac yn croesawu oherwydd gyda'r cymhlethdod yna mae £500m a mwy i helpu busnesau Cymru".

    Ychwanegodd bod "ymateb fawr" i'r cymorth busnes diweddaraf, a bod cymorth ar gael i fusnesau sydd eisiau gwneud cais am arian.

  9. Cyfyngiadau lleol 'ddim yn ddigon da'

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r cloeon lleol wedi helpu ond nid oeddynt yn ddigonol i ddelio ag "ymosodiad" y feirws, meddai'r Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford nad oedd cyfyngiadau mwy lleol "yn gweithio'n ddigon da".

    Wrth ganmol ymdrechion "gwerth chweil" y cyhoedd, ychwanegodd fod yr ymdrechion hyn wedi cwrdd â feirws sydd wedi cynyddu "y gyflym ac ar raddfa eang".

    O 9 Tachwedd fe fydd cyfyngiadau cenedlaethol yn hytrach na lleol yn cael eu cyflwyno.

    "Rydyn ni wedi defnyddio'r amser i adolygu'r dull roedden ni'n ei gymryd yn gynharach yn yr hydref. Ac er bod y dull hwnnw, heb os, wedi helpu, mae wedi dod gyda rhywfaint o gymhlethdod gyda gwahanol reolau mewn gwahanol rannau o Gymru, awedi eu cyflwyno ar wahanol adegau."

    Ychwanegodd: "Er mwyn eglurder a symlrwydd, ein penderfyniad yw y bydd gennym set o reolau cenedlaethol fydd yn berthnasol ym mhob rhan o Gymru, a gobeithio y bydd hynny'n helpu pobl yng Nghymru i fod yn gliriach ynghylch yr hyn y bydd disgwyl iddynt ei wneud.

    "Oherwydd ein bod ni wedi cael tystiolaeth fod pobl eisiau gwneud y peth iawn, ond ddim bob amser yn sicr beth yw'r peth iawn oherwydd mae'r rheolau wedi bod yn anoddach i'w dilyn nag y byddem ni wedi hoffi.

    "Rydym yn mynd i symleiddio, rydym yn mynd i egluro. Ac rydyn ni'n mynd i gael cynllun cenedlaethol o'r nawfed o Dachwedd".

  10. 'Croesawu' adroddiad gwrth-Semitiaeth

    Llywodraeth Cymru

    Wrth wneud sylw ar adroddiad ar wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur, dywedodd Mr Drakeford ei bod wedi "croesawu'r adroddiad", a bod dim lle yn y blaid i wrth-Semitiaeth.

    Dywedodd nad oedd am wneud sylw am unigolion penodol, gan bod yr adroddiad yn cynghori yn erbyn gwneud hynny.

    Roedd Mr Drakeford wedi cefnogi Mr Corbyn pan wnaeth ei gais i fod yn arweinydd Llafur Cymru. Dywedodd nad yw'n difaru gwneud hynny.

  11. 'Dyletswydd gyfreithiol' i hunan-ynysu o hyn allan

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd rhoi gwybodaeth ffug i'r rhai sydd yn olrhain cyswllt achosion Covid-19 ar ran y Gwasanaeth Iechyd yn dod yn drosedd, meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd hefyd y byddai dyletwsydd cyfreithiol ar unigonion i hunan-ynysu pe bai cais yn dod i wneud hynny gan y gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu.

    Daw’r newidiadau wrth i Gymru gyrraedd bron i hanner ffordd yn y cyfnod clo byr 17 diwrnod.

    Mae achosion wedi parhau i gynyddu yn ystod y cyfnod clo, gyda 1,700 yn fwy o heintiau wedi'u cadarnhau heddiw a 1,191 o gleifion yn yr ysbyty, i fyny 20% mewn wythnos, meddai Mr Drakeford.

    Mae’r ffigyrau “yn dweud wrthym pa mor bwysig fu’r cyfnod clo byr hwn,” meddai.

    “Ein gobaith ni yw y bydd y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd yn newid cwrs y clefyd hwn. Yn yr wythnosau sy'n dilyn y cyfnod clo byr, byddwn yn gweld ei effaith yn llawn."

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu gweinidogion y llywodraeth am gyhoeddi’r taliad o £500 fis yn ôl, ond am fethu gweithredu'r cynllun tan nawr.

    Mae cynlluniau tebyg yn Lloegr a'r Alban eisoes ar waith.

    Mynnodd Mr Drakeford y byddai'r cyfnod clo byr yn dod i ben ar 9 Tachwedd, gyda thafarndai, bariau a gwasanaethau eraill yn ailagor.

  12. Taliad £500 os yn hunan-ynysu

    Llywodraeth Cymru

    Bydd gweithwyr ar incwm isel yn derbyn £500 os ydynt yn gorfod hunan-ynysu, meddai'r prif weinidog.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd gweithwyr iechyd cymdeithasol hefyd yn derbyn taliad, os ydynt yn hunan-ynysu yn dilyn prawf positif, neu ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun heintus.

    Mae £32m ar gael ar gyfer y taliadau, meddai Mr Drakeford, a bydd rhaid i bobl wneud cais drwy eu hawdurdod lleol.

    Bydd rhoi gwybodaeth anghywir i'r gwasanaeth profi ac olrhain neu wrthod dilyn cais i ynysu bellach yn droseddau, meddai Mr Drakeford.

    MD
  13. Mwy o wybodaeth ddydd Llun

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y cabinet yn gweithio dros y penwythnos i gadarnhau'r rheolau newydd.

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai mwy o wybodaeth ar gael ddydd Llun.

  14. Rheolau cenedlaethol ar ddiwedd y clo byr

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford y bydd un set o reolau cenedlaethol "syml" yn dod i rym ar ddiwedd y clo byr.

    Roedd mesurau lleol amrywiol mewn grym dros yr wythnosau diwethaf.

    Galwodd ar bawb i gadw at y rheolau, ac i bawb "addasu" er mwyn sicrhau llwyddiant y system.

  15. 'Nawr yw'r amser i roi cymorth'

    Post Cyntaf

    BBC Radio Cymru

    Wrth i'r cynllun ffyrlo dynnu tua'i derfyn cyn i'r Cynllun Cefnogi Swyddi ddod i rym, mae ymgynghorydd busnes yn Llundain wedi dweud wrth Post Cyntaf y dylai llywodraethau stopio meddwl am gost cefnogi gweithwyr a busnesau.

    Dywedodd Dafydd Rhys bod Banc Canolog Ewrop a'r IMF (International Monetary Fund) yn cynghori gwledydd i beidio poeni am faint dyledion y wlad, gyda'r disgwyl erbyn hyn bod y pandemig gyda ni am fisoedd lawer eto.

    "Nawr yw'r amser i roi cymorth, cydnabod y sefyllfa erchyll 'dan ni mewn," meddai. "Ond [mae angen] cynnig tam' bach o weledigaeth a tam' bach o arweinyddiaeth ynglŷn â beth sy'n mynd i ddod yn y dyfodol i ni fel gwlad ac i ni fel cymdeithas."

    Mae Llywodraeth y DU, dywedodd, yn "mynd o un peth i'r llall - dyma'r pedwerydd tro i nhw newid y cynllun mewn chwe mis".

    Mae hynny, meddai, yn cyferbynnu â'r Almaen, ble mae'r llywodraeth wedi "rhoi sicrwydd i'w gweithwyr am o leia' blwyddyn".

    Arian
  16. 'Sgwrsio yn gyfrifol am leadaenu'r feirws'

    BBC Wales News

    Sgwrsio mewn tafarndai, bwytai a chartrefi oedd un o'r prif ffyrdd y cafodd y coronafeirws ei ledu, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywedodd Dr Chris Williams o dîm data'r corff iechyd bod y rhan fwyaf o achosion ddim o ganlyniad i gamgymeriadau gan fariau neu fwytai.

    Yn hytrach, mae sgwrsio "yn anffodus, yn wych ar gyfer lledaenu, fel mae canu a gweiddi", meddai.

    "Dydy o ddim oherwydd natur y dafarn neu far. Ond y ffaith eich bod yn siarad gyda rhywun dros y bwrdd sydd o aelwyd wahanol."

  17. Cyfnod 'pryderus ac emosiynol' ar ddiwedd ffyrlo

    BBC Cymru Fyw

    Mae disgwyl i'r prif weinidog wneud cyhoeddiad am daliadau i'r rhai sy'n gorfod hunan-ynysu heddiw.

    Daw wrth i'r cynllun ffyrlo - sydd wedi bod yn talu hyd at 80% o gyflogau gweithwyr - ddod i ben ar draws Prydain.

    Ar ei uchafbwynt ym mis Mehefin, roedd 378,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo, yn ôl ffigyrau'r Trysorlys.

    Dywedodd un fam sydd wedi bod ar y cynllun ei bod hi'n gyfnod "pryderus ac emosiynol".

    "'S'neb eisiau pentyrru lan dyled. Mae gennym ni bedwar o blant. Mae Nadolig ar y ffordd."

  18. Croeso i'r llif byw

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'r llif byw wrth i ni ddod â'r diweddara' i chi o gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd yn ateb cwestiynau ymhen 15 munud.

    View more on twitter