a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ymuno

    A gyda'r newyddion trist yna, rydym yn eich gadael chi am heddiw.

    Diolch yn fawr am ymuno. Dyma'r prif benawdau o'r gynhadledd heddiw:

    • Cadarnhad y bydd y cyfnod clo byr presennol yn gorffen ar 9 Tachwedd, gyda siopau'n cael ailagor bryd hynny;
    • Bydd addoldai, bwytai, tafarndai a champfeydd hefyd yn cael ailagor;
    • Bwriad Llywodraeth Cymru yw cael "set cenedlaethol o reolau" ar ddiwedd y cyfnod clo byr yn hytrach na'r cyfyngiadau lleol oedd yn bodoli mewn sawl ardal cyn hynny;
    • 37 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cadarnhau heddiw - y ffigwr dyddiol uchaf ers 15 Ebrill;
    • Roedd yna 1,414 o achosion positif o Covid-19 yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf - y ffigwr uchaf ers dechrau'r pandemig.
  2. Cadarnhau 37 yn rhagor o farwolaethau

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cafodd 37 o farwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf.

    Roedd yna 1,414 o achosion positif o Covid-19 yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.

    Dyma'r ffigwr dyddiol uchaf o ran achosion positif ers dechrau'r pandemig.

    Dyma hefyd y nifer fwyaf o farwolaethau sydd wedi'u cofnodi mewn un diwrnod ers 15 Ebrill (38).

    Mae'n golygu bod 46,459 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu heintio, ac mae 1,827 wedi marw gyda'r haint.

  3. Disgwyl llawer o achosion eto yn Rhondda Cynon Taf

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan eisoes wedi rhybuddio y bydd ffigyrau Covid-19 heddiw ar gyfer ei sir yn parhau yn hynod o uchel.

    Mae'r awdurdod lleol wedi bod dan gyfyngiadau ers dros fis bellach - yn gyntaf gyda chlo lleol cyn i Gymru gyfan ddod dan glo byr cenedlaethol.

    Ond dydy hynny ddim i'w weld wedi gwneud llawer o wahaniaeth eto, gyda'r sir wedi gweld 2,712 achos o'r haint dros y 30 diwrnod diwethaf - y nifer uchaf oni bai am Gaerdydd.

    Cyfradd yr achosion yno am bob 100,000 o'r boblogaeth dros yr un cyfnod yw 1,124.1 - eto, yr uchaf oni bai am un sir arall (Merthyr Tudful).

    Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi'r ffigyrau dyddiol am tua 14:00.

    View more on twitter
  4. 'Rhaid cydweithio' i achub busnesau bach

    Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio i gefnogi busnesau yn ystod argyfwng Covid-19, yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).

    Mae'r ffederasiwn yn rhybuddio y gallai un neu ddau o swyddi gael eu colli mewn llawer o fusnesau heb i neb sylwi, ond y gallai hynny gael effaith sylweddol ar y sector yn ei chyfanrwydd.

    Daw'r cynllun ffyrlo i ben ar 31 Hydref, ac mae'r cynllun Cynllun Cefnogi Swyddi newydd - a fydd yn talu 67% o gyflogau - yn dechrau ar 1 Tachwedd, wythnos ar ôl dechrau'r cyfnod clo byr.

    Gwrthododd y Canghellor Rishi Sunak, gais i symud y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd ymlaen o fis, er i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod wedi cynnig talu'r gost am y gwahaniaeth rhwng y cynllun ffyrlo a'r cynllun newydd.

    Marchnad Caerdydd
  5. Cyfrifoldeb ar siopau ac unigolion i beidio siopa'n ddiangen

    Llywodraeth Cymru

    Mae gan y cyhoedd a siopau "gyfrifoldeb" i beidio prynu a gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn ystod y clo byr, meddai Jeremy Miles.

    Dywedodd Mr Miles fod y rheoliadau yng Nghymru'n gweithio yn yr un ffordd â rhannau eraill o'r DU, sef bod disgwyl i bobl "beidio gadael y cartref oni bai eu bod nhw'n prynu nwyddau hanfodol".

    Ychwanegodd nad Cymru oedd yr unig wlad oedd wedi dweud wrth fusnesau anhanfodol i gau dros y cyfnod.

  6. 'Pobl angen gwybod am y rheolau newydd'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrth bobl nawr beth yw pwrpas y strategaeth pan ddaw'r cyfnod clo presennol i ben.

    Dywedodd Mr Davies: "Yn blwmp ac yn blaen dylent fod wedi bod yn trafod hyn cyn nawr. Nid ydym yn gwybod beth yw'r cynllun."

    "Mae pobl eisiau gwybod beth yw’r camau nesaf ac mae angen i fusnesau wybod fel y gallant gynllunio ymlaen llaw."

    Paul Davies

    Bwriad Llywodraeth Cymru yw cael "set cenedlaethol o reolau" ar ddiwedd y cyfnod clo byr yn hytrach na'r cyfyngiadau lleol oedd yn bodoli mewn sawl ardal cyn hynny.

    Dywedodd Jeremy Miles ei fod hefyd yn gobeithio y bydd y rheolau o 9 Tachwedd ymlaen yn rhai "symlach".

    Cyn y clo byr cenedlaethol, roedd 17 sir yng Nghymru eisoes dan ryw fath o gyfyngiadau lleol.

    Mae disgwyl cyhoeddiad "yn y dyddiau nesaf" ar beth yn union fydd y rheolau wedi'r clo byr.

  7. Beirniadu gwasanaeth eglwys yng Nghaerdydd

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n "rhaid" i bobl barhau i ddilyn y rheolau ar beidio ymgynnull yn ystod y clo byr presennol, yn ôl Jeremy Miles.

    Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn ymateb wedi i'r heddlu gael eu galw dros y penwythnos i wasanaeth eglwys yng Nghaerdydd.

    Ar y pryd dywedodd y Parchedig Wade Mclennan ei fod yn gwybod bod y gwasanaeth yn Llanrhymni yn torri'r rheolau, ond ei fod yn "hanfodol" i bobl.

    Er i Mr Miles ddweud ei fod yn "deall pa mor anodd yw hyn i unigolion", pwysleisiodd fod arweinwyr crefyddol eraill wedi dod o hyd i ffyrdd "creadigol" o barhau i addoli tra'n dilyn y rheolau.

  8. Marwolaethau'n dangos bod clo byr 'yn hanfodol'

    Llywodraeth Cymru

    Mae Jeremy Miles wedi pwysleisio fod y 37 marwolaeth fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw yn dystiolaeth pellach "fod y cyfnod clo byr yn hollol hanfodol".

    "Mae 'na oedi wrth gwrs rhwng y pwynt pan mae rhywun yn cael eu heintio, gorfod mynd i'r ysbyty ac yna'r marwolaethau 'dyn ni wedi'i weld," meddai'r Cwnsler Cyffredinol.

    "Felly 'dyn ni'n disgwyl bod hyn o ganlyniad i'r oedi yna."

    Ychwanegodd bod y clo byr cenedlaethol yno er mwyn "gwarchod bywydau pobl a gwarchod y gwasanaeth iechyd wrth iddyn nhw geisio cadw ni'n saff".

  9. 'Gweithio ar fesurau newydd ar ôl 9 Tachwedd'

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Cwnsler Cyffredinol y bydd Llywodraeth Cymru'n treulio’r wythnos yn gweithio ar "fesurau cenedlaethol newydd" a fydd yn dod i rym pan ddaw’r cyfnod clo presennol i ben ar 9 Tachwedd.

    Dywedodd y gweinidog Jeremy Miles: "Yr wythnos hon, rydym yn gweithio ar y mesurau cenedlaethol newydd, a fydd yn dod i rym pan ddaw’r cyfnod clo i ben ar 9 Tachwedd i helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel.

    "Byddwn yn trafod y syniadau hyn dros yr ychydig ddyddiau nesaf gydag awdurdodau lleol, gyda’r heddlu, gyda’r bobl a’r sefydliadau sydd angen gwneud i’r rheolau weithio i sicrhau eu bod yn iawn i Gymru."

    Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi unrhyw gyfyngiadau ar deithio neu ymweld â theuluoedd a fydd yn aros yn eu lle ar ôl 9 Tachwedd "yn y dyddiau nesaf".

    "Fe allwn ni ddisgwyl clywed gan y Prif Weinidog rwy’n meddwl yn y dyddiau nesaf gyda darlun cliriach o’r hyn sydd o’n blaenau yn dilyn y trafodaethau hynny ac yn dilyn y penderfyniadau hynny," meddai Mr Miles.

    heddlu
    Image caption: Bydd siopau a bwytai yn ailagor ar 9 Tachwedd, meddai Mr Miles
  10. Rhagor o arian i helpu busnesau

    Llywodraeth Cymru

    Mae Jeremy Miles yn dweud y bydd cronfa'n cael ei hagor i helpu busnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd y clo byr cenedlaethol.

    Dywedodd Mr Miles y byddai Llywodraeth Cymru'n rhoi £10m ychwanegol tuag at gefnogi pobl a busnesau sydd wedi'u heffeithio oherwydd bod busnesau wedi gorfod cau.

    Bydd modd gwneud cais am gefnogaeth drwy wefan Busnes Cymru, a bydd hynny yn ychwanegol i'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.

    Bydd busnesau'n gallu derbyn hyd at £5,000 yn dibynnu ar eu gwerth, gyda hyd at £3,000 arall ar gael os oedd cyfyngiadau diweddar wedi'u gorfodi i gau.

  11. Merthyr Tudful â'r gyfradd Covid uchaf

    Llywodraeth Cymru

    Dywed Jeremy Miles mai ardal cyngor Merthyr Tudful sydd â'r gyfradd Covid uchaf yng Nghymru.

    Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd y gweinidog bod 402.8 achos fesul 100,000 o bobl yn yr ardal dros gyfnod o saith diwrnod.

    Dywedodd Mr Miles fod cyfradd saith diwrnod Cymru gyfan ychydig dros 200 o achosion fesul 100,000 o bobl.

    Sir Benfro, Ceredigion a Powys sydd â'r cyfraddau isaf, meddai.

    JM
  12. Siopau a bwytai i ailagor ar 9 Tachwedd

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Miles yn cadarnhau y bydd y cyfnod clo byr presennol yn gorffen ar 9 Tachwedd, gyda siopau'n cael ailagor bryd hynny.

    Dywedodd y bydd pobl hefyd yn cael dychwelyd i'r gwaith, ac y bydd addoldai, bwytai, tafarndai a champfeydd yn cael ailagor hefyd.

    Ychwanegodd y bydd "set newydd o reolau cenedlaethol fydd yn ein helpu i fyw gyda coronafeirws a chadw'r haint dan reolaeth".

  13. Newydd dorri37 marwolaeth Covid-19 yng Nghymru

    Llywodraeth Cymru

    Mae Jeremy Miles wedi dweud y bydd 37 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yn cael eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddarach heddiw.

    Dyma'r ffigwr dyddiol uchaf yng Nghymru ers 15 Ebrill.

  14. Archfarchnadoedd yn 'dyfarnu' pa nwyddau sy'n hanfodol

    Mae gweithwyr archfarchnadoedd yn cael eu rhoi dan fygythiad trwy orfod 'dyfarnu' pa nwyddau all pobl eu prynu, yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru (CMC).

    Yn ôl y rheolau diweddaraf, sy'n parhau mewn grym tan 9 Tachwedd, yr unig nwyddau sydd i fod i gael eu gwerthu yw'r rhai hynny sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol.

    Ond dywed CMC fod gweithwyr siopau yn gorfod dyfarnu pa nwyddau y gall pobl eu prynu neu ddim.

    Yn dilyn nifer o gwynion am y polisi, yn cynnwys deiseb gyda 67,000 o enwau, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhestr o'r hyn sy'n cael ei gyfri'n angenrheidiol.

    Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y gall cwsmeriaid ofyn am gael prynu eitemau eraill mewn amgylchiadau arbennig.

  15. Hawl i brynu rhai nwyddau 'fel eithriad'

    Mae nwyddau hylendid ar y rhestr o eitemau hanfodol
    Image caption: Mae nwyddau hylendid ar y rhestr o eitemau hanfodol

    Mae archfarchnadoedd wedi cael gwybod y dylai cwsmeriaid allu gofyn i gael prynu nwyddau dianghenraid dan amgylchiadau eithriadol yn ystod y cyfnod clo byr.

    Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr busnes ac undebau llafur, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr newydd o nwyddau y gellir eu gwerthu, sydd bellach yn cynnwys dillad babi.

    Dylai cwsmeriaid hefyd allu gofyn am bethau nad sydd ar y rhestr "trwy eithriad" fel rhan o "system synhwyrol".

    Ond bydd yr "egwyddor ganolog" o wahardd gwerthu nwyddau nad sy'n hanfodol yn parhau nes diwedd y cyfnod clo ar 9 Tachwedd, medd y llywodraeth.

    Mae cryn ddadlau wedi bod ynghylch y rheol wedi i archfarchnadoedd gau rhannau o'u siopau ble roedd silffoedd nwyddau fel dillad.

  16. Diolch am ymuno

    Bydd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles yn cynnal cynhadledd i'r wasg i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa coronafeirws yng Nghymru.

    Bydd y gynhadledd yn dechrau am 12:15 - arhoswch efo ni.