a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch a hwyl fawr

    Daw'r llif byw i ben nawr. Diolch am eich cwmni.

    Cofiwch y gallwch chi ddarllen y diweddaraf am y straeon yma i gyd ar ein hafan.

    Hwyl am y tro.

  2. 65,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r gwaharddiad

    Senedd Cymru

    Llun o'r ddeiseb electroneg

    Mae dros 61,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad sy'n atal archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau fel dillad ac offer trydanol yn ystod y cyfnod clo.

    Dyma ydy'r uchaf erioed i lofnodi deiseb o'r fath i'r Senedd.

    Mae'r pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r penderfyniad.

    Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd adolygiad i sut y mae'r rheolau'n cael eu gweithredu yn digwydd ddydd Llun.

    Ond roedd yn pwysleisio ei fod yn credu bod y "penderfyniad sylfaenol" wrth wraidd y gwaharddiad yn gywir.

  3. Newydd dorriChwe marwolaeth a 1,158 achos newydd

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 1,158 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd chwe marwolaeth eu cofnodi hefyd.

    O'r achosion newydd, roedd 199 yng Nghaerdydd, 143 yn Rhondda Cynon Taf, 121 yn Abertawe, 77 yn ardal Nedd Port Talbot, 76 yng Nghaerffili, 72 yn Sir Gaerfyrddin, 63 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 50 ym Mlaenau Gwent.

    Roedd 49 achos ymysg dinasyddion o Gymru sydd yn byw tu hwnt i Glawdd Offa - sef myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r DU mae'n debyg.

    Ers dechrau'r pandemig mae 1,783 o bobl yng Nghymru wedi marw o ganlyniad i'r haint.

    Roedd pedair o'r marwolaethau gafodd eu cyhoeddi heddiw yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a dwy yn rhanbarth Aneurin Bevan.

  4. Strydoedd gweigion y gorllewin

    BBC Cymru Fyw

    Dyma'r olygfa yng nghanol tref Caerfyrddin heddiw ar ddechrau'r wythnos lawn gyntaf o'r cyfnod clo byr.

    Does yr un gopa walltog i'w weld ar y stryd yma yn y dref, wrth i bobl gadw draw am y tro.

    Caer
  5. Wythnos 'mwyaf marwol' hyd yma

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd Vaughan Gething fod yr wythnos diwethaf wedi bod yn “un o’r rhai mwyaf marwol” yn y wlad ers dechrau’r pandemig, gyda mwy na 60 o bobl yn marw gyda Covid-19 yng Nghymru.

    Fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi chwe marwolaeth arall yn ddiweddarach heddiw, ychwanegodd.

    Mae 616 o achosion wedi'u cadarnhau o coronafeirws yn ysbytai Cymru, y ffigur uchaf ers Mai 24 ac i fyny 26% o ddydd Sul diwethaf.

    Mae 56 o bobl mewn gofal critigol yng Nghymru, sydd yn gynnydd o 14%.

    "Nid yw hwn yn amser hawdd i unrhyw un ohonom yng Nghymru," meddai Mr Gething.

  6. 'Angen trin gweithwyr siop â mwy o barch'

    Llywodraeth Cymru

    Gorchudd ar lyfrau mewn archfarchnad

    Mae Vaughan Gething wedi beirniadu “ymddygiad anghyfrifol” unigolion sydd wedi cael eu ffilmio yn rhwygo gorchuddion a gafodd eu gosod dros eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol mewn archfarchnadoedd dros y penwythnos.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd hefyd fod "angen i bobl sy'n rhoi anogaeth a llwyfan iddynt wneud hynny, gan hyrwyddo safbwynt gwleidyddol sy'n ein rhannu, gymryd cam yn ôl."

    Dywedodd Mr Gething fod gweithredoedd o'r fath yn "gwneud bywyd yn anodd iawn i weithwyr siop".

    "Maen nhw'n haeddu cael eu trin â mwy o barch."

  7. Nwyddau angenrheidiol: Angen 'synnwyr cyffredin'

    Llywodraeth Cymru

    Dylai siopwyr a manwerthwyr ddefnyddio “synnwyr cyffredin” yn y “nifer fach iawn” o achosion lle mae gwir angen prynu eitem nad yw’n hanfodol mewn archfarchnad, meddai Vaughan Gething heddiw.

    Byddai’r mwyafrif o bobl yn “gallu ymdopi” yn ystod y cyfnod clo am y pythefnos nesaf, meddai.

    Bydd gweinidogion yn dweud wrth yr archfarchnadoedd mawr heddiw bod ganddyn nhw “rywfaint o ddisgresiwn” i weithio o gwmpas y rheolau.

    Meddai Mr Gething: “Y pwynt ynglŷn â disgresiwn yw ein bod yn cydnabod y bu amgylchiadau eithriadol, maent wedi cael eu hysbysebu’n dda ac wedi siarad yn dda am enghreifftiau o bobl sydd wir angen prynu eitemau unigol ac mae’n ymwneud â hynny.

    “Felly gallwch naill ai gael dull lle rydych chi'n dibynnu ar synnwyr cyffredin a gallu pobl i siarad â manwerthwyr am yr hyn sy'n argyfwng mewn gwirionedd, a sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu, yn hytrach na bod yn fyddar i'r pryderon a'r cwynion go iawn y mae nifer fach iawn o bobl yn mynd i'w brofi yn y pythefnos nesaf.

    “I’r mwyafrif helaeth ohonom, wrth gwrs, byddwn yn gallu ymdopi am y pythefnos nesaf - gyda’r caledi, gyda’r ymyrraeth sy’n cael ei achosi - ond bydd hyn er mwyn osgoi’r caledi llawer mwy a’r ymyrraeth lawer mwy i fywydau pobl rhag gweld teulu a ffrindiau yn y dyfodol.”

  8. Gething: Mwy o gyfnodau clo yn 'bosibl'

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynnau'r wasg dywedodd Mr Gething fod mwy o gyfnodau clo yn “bosibl” yn y dyfodol.

    Gofynnwyd i'r Gweinidog Iechyd a oedd hi'n debygol y byddai Cymru yn gweld mwy o gyfyngiadau yn y Flwyddyn Newydd.

    Daw hynny ar ôl i’r Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, ddweud dros y penwythnos ei bod hi'n debygol nad y cyfnod clo byr yma fyddai'r olaf yng Nghymru.

    “Ni all yr un ohonom ddweud beth sy’n debygol”, meddai Mr Gething.

    “Rydyn ni eisiau cael patrwm Cenedlaethol i bob un ohonom ni fyw ein bywydau er mwyn cyrraedd diwedd y flwyddyn,’ ’meddai.

    “Bydd angen i ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd trwy'r amser hwnnw, bydd angen i ni adolygu ac edrych ar ble'r ydym wrth i ni gyrraedd yno”.

    Ychwanegodd: “Mae mesurau’n bosibl ar gyfer y dyfodol, ond mae hynny’n dibynnu ar ba mor llwyddiannus ydyn ni wrth ddod at ein gilydd fel cenedl”.

    Clo
  9. Y negeseuon yn 'llanast llwyr'

    Plaid Cymru

    Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod eu bod wedi gwneud llanast llwyr o’r negeseuon.

    "Credaf fod gostyngeiddrwydd weithiau’n wirioneddol bwysig wrth gyfaddef eich bod wedi ei gael yn anghywir.

    "Amcan cau manwerthu nad yw'n hanfodol am y cyfnod hwn yw ceisio cyfyngu ar nifer y cysylltiadau fel y gallant gyfyngu ar nifer yr heintiau ac mae hynny rywsut wedi mynd ar goll yn llwyr yn y negeseuon.

    "Pe byddent wedi cael y sgyrsiau gyda'r sector manwerthu yn gynharach, felly clywsom gan y gweinidog eu bod wedi cael cyfarfod ddydd Iau, byddwn yn awgrymu bod hynny'n rhy hwyr.

    "Mae hynny wedi erydu ymddiriedaeth y cyhoedd dros y penwythnos ac yn amlwg mae hynny'n peri pryder oherwydd cefnogaeth y cyhoedd, neges iechyd y cyhoedd yw'r un peth sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel yn y pen draw."

    AP
  10. 'Anhrefn a dryswch' polisi'r llywodraeth

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd Ceidwadwyr Cymru, fod yn rhaid gollwng y gwaharddiad ar archfarchnadoedd yn gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn ystod y cyfnod clo - a gwneud hynny heddiw.

    Dywedodd Mr Davies fod "anhrefn a dryswch" menyw yn cael gwybod yn anghywir na allai brynu cynnyrch misglwyf mewn archfarchnad yn ganlyniad uniongyrchol i'r gwaharddiad.

    "Mae'r polisi chwerthinllyd hwn wedi achosi dicter go iawn ac nid yw'n deg ar staff sy'n gweithio yn ein harchfarchnadoedd a'r cyhoedd yng Nghymru sydd bellach wedi cyrraedd pen eu tennyn gyda gweinidogion Llafur," meddai Mr Davies.

    "Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhuthro i gyhoeddi polisi nad oedd archfarchnad fwyaf y wlad hyd yn oed yn ei ddeall, a bai'r Prif Weinidog a'i gydweithwyr ydy hyn".

  11. 'Dim sioeau West End mawr nes bydd brechlyn'

    BBC Cymru Fyw

    Efallai na fydd Canolfan Mileniwm Cymru yn llwyfannu sioeau'r 'West End' nes bod brechlyn coronafeirws ar gael, yn ôl y cyfarwyddwr artistig.

    Dywedodd Graeme Farrow fod y ganolfan gelfyddydau genedlaethol yn gobeithio cynnal "digwyddiadau prawf" gyda chynulleidfaoedd bach ym mis Ionawr 2021, ar ôl cau'i drysau ym mis Mawrth.

    Ond dywedodd y byddai'r digwyddiadau'n cynnwys tua 150 o bobl yn eistedd wrth fyrddaucabaretwedi'u gwasgaru ar draws y prif lwyfan.

    Dywedodd Mr Farrow fod trafodaethau wedi cychwyn gyda Llywodraeth Cymru i ganiatáu i'r digwyddiadau prawf gael eu cynnal.

    Derbyniodd Canolfan Mileniwm Cymru £3.9 miliwn gan gronfa Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi dosbarthu cyfanswm o £27.5 miliwn i sefydliadau celfyddydol ledled y wlad i fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar y sector.

    Graeme Farrow
    Image caption: Graeme Farrow ydy Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru
  12. Pryderu am effaith y ddadl am fanwerthu

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Vaughan Gething ei fod yn “wirioneddol bryderus” am effeithiau’r ddadl dros y penwythnos am fanwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol.

    Dywedodd ei fod yn poeni fod y ddadl wedi "ein tynnu oddi wrth y rheswm pam mae'r cyfnod clo wedi'i gyflwyno."

    "Mae'n bwysig bod pobl yn ymddiried yn yr hyn y mae'r llywodraeth yn ei wneud a pham," meddai.

    "Mae negeseuon y penwythnos wedi ein symud i ffwrdd o realiti nifer y marwolaethau cynyddol yr ydym yn ei weld a’r ffaith y byddwn yn gweld mwy o niwed yn dod dros y pythefnos nesaf.

    "Roedd y pecyn o fesurau a roddwyd ar waith gennym yn cynnwys cau manwerthu nad oedd yn hanfodol fel un o'r elfennau sy'n ffurfio'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud i achub bywydau, a dyna'r neges y mae angen i ni i gyd fyfyrio arni a'i chofio wrth i ni wneud ein dewisiadau yn ystod yr wythnosau nesaf."

  13. Caniatáu i bobl deithio yn sgil profedigaeth

    Llywodraeth Cymru

    Mae teithio i weld ffrindiau neu deulu oherwydd profedigaeth yn “fesur rhesymol” i’w gymryd yn ystod y cyfnod cloi byr, yn ôl y gweinidog iechyd.

    Ond dywedodd Vaughan Gething y dylai pobl sy'n gwneud hynny "barchu'r rheolau ar bellhau cymdeithasol."

    Wrth siarad yng nghynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, ychwanegodd Mr Gething: "Yr hyn na fyddwn i eisiau ei weld yw pobl yn ymgynnull i gefnogi ei gilydd mewn amgylchiadau lle maen nhw wedi colli rhywun annwyl, ac a allai fod yn gyfarfod lle maen nhw'n lledaenu coronafeirws gyda chymaint mwy o niwed.

    "Dwi ddim eisiau gweld mwy o bobl yn colli eu bywydau. Dyna pam rydyn ni wedi gorfod newid y rheolau, dyna pam mae'r cyfnod clo byr yn ei le."

  14. Tesco'n cynnig esboniad pellach am gynnyrch misglwyf

    Mae cwmni Tesco wedi ymddiheuro am gau cornel oedd yn cynnwys cynnyrch misglwyf yn un o'u siopau yng Nghaerdydd.

    Yn ôl y cwmni roedd yn rhaid iddyn nhw gau'r adran honno yn dilyn lladrad yn y siop.

    Roedd dynes wedi gwneud cwyn wrth y cwmni ar Twitter yn honni bod gweithiwr yn y siop wedi dweud nad oedd modd iddi brynu'r eitemau gan nad oedden nhw'n eitemau hanfodol.

    Yn wreiddiol dywedodd Tesco ei fod wedi cael cyfarwyddyd "gan Lywodraeth Cymru i beidio â gwerthu’r eitemau hyn” yn ystod y cyfnod clo sydd mewn grym.

    Ers hynny mae Tesco wedi dileu'r neges at Twitter ac wedi esbonio'r sefyllfa.

    “Mae cynhyrchion misglwyf yn eitemau hanfodol ac ar gael i gwsmeriaid ym mhob un o'n siopau yng Nghymru", meddai llefarydd.

    "Am fod rhywun wedi torri i mewn i'r siop cafodd yr ardal hon ei chau dros dro mewn un siop ar gyfer ymchwiliad gan yr Heddlu, ond mae bellach ar agor eto.

    "Anfonwyd yr ateb i'r cwsmer hwn, a oedd yn awgrymu nad oedd y cynhyrchion hyn yn hanfodol, trwy gamgymeriad ac mae'n ddrwg iawn gennym am unrhyw ddryswch a achoswyd. "

    Tesco
  15. Llywodraeth 'wedi gwrando ar feirniadaeth'

    Llywodraeth Cymru

    Roedd Tesco “yn anghywir” i ddweud wrth fenyw na allai brynu cynnyrch misglwyf yn ystod y cyfnod clo, meddai’r Gweinidog iechyd, Vaughan Gething.

    Ymddiheurodd yr archfarchnad cyn dweud ei fod wedi gweithredu'r rheolau yn anghywir.

    Dywed rheolau Llywodraeth Cymru mai dim ond nwyddau hanfodol fydd ar gael mewn siopau tan 9 Tachwedd.

    Bellach mae dros 61,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad - y nifer uchaf erioed i lofnodi deiseb o'r fath.

    Dywedodd Mr Gething wrth y gynhadledd i'r wasg y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r archfarchnadoedd y prynhawn yma i egluro bod modd iddynt ddefnyddio “rhywfaint o ddisgresiwn” i werthu pethau nad ydynt yn hanfodol i bobl sydd mewn “gwir angen”.

    Ychwanegodd fod y fenyw yn yr achos yma wedi derbyn gwybodaeth anghywir gan yr archfarchnad:

    “Mae'n ddarlleniad anghywir o'r rheoliadau a'r canllawiau. Ac mae'n ddrwg iawn gen i i'r fenyw hon gael y wybodaeth yma."

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi “gwrando’n ofalus iawn” ar feirniadaeth dros y penwythnos am y polisi, ond pwysleisiodd fod y rheolau ar waith i gyfyngu ar yr amser y mae pobl yn ei wario mewn siopau oherwydd yr “argyfwng real iawn rydyn ni’n ei wynebu” gydag achosion Covid yn codi.

    “Rydyn ni’n cwrdd â manwerthwyr y prynhawn yma i adolygu’r rheoliadau a’r canllawiau i sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso’n deg ac yn gyson,” meddai.

    “Os oes anghysonderau byddwn yn edrych oes angen diwygio’r canllawiau a byddwn hefyd yn ei gryfhau i wneud yn glir bod gan archfarchnadoedd rywfaint o ddisgresiwn i werthu i bobl sydd mewn gwir angen.”

    VG
  16. Y diweddaraf o'r gynhadledd i'r wasg:

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd i'r wasg ar fin cychwyn ac fe fydd modd clywed yr hyn sydd gan y gweinidog iechyd Vaughan Gething i'w ddweud isod:

    View more on twitter
  17. Cynnyrch misglwyf 'ddim yn hanfodol' medd siop

    BBC Cymru Fyw

    Mae siopwraig wedi cwyno ar ôl iddi fethu â phrynu cynnyrch misglwyf o archfarchnad oherwydd gwaharddiad ar werthu eitemau nad oedd yn hanfodol.

    Mewn trafodaeth gyda'r fenyw ar Twitter, dywedodd Tesco ei fod wedi cael cyfarwyddyd "gan Lywodraeth Cymru i beidio â gwerthu’r eitemau hyn” yn ystod y cyfnod clo sydd mewn grym.

    Ers hynny mae Tesco wedi dileu'r neges at Twitter ac ymddiheuro ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud bod cyngor y cwmni yn yr achos yma yn anghywir.

    Daw hyn wrth i weinidogion adolygu'r polisi dadleuol ar werthu nwyddau nad ydynt yn rhai hanfodol.

    O dan y polisi rhaid i archfarchnadoedd i gau rhannau o'u siopau sy'n gwerthu eitemau fel dillad, dillad gwely a theganau yn ystod cyfnod clo byr drwy Gymru.

    Mae'r polisi wedi cael ei feirniadu ac mae dros 60,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn ei wrthwynebu.

    Tesco
    Image caption: Llun o'r nwyddau hylendid a chynnyrch misglwyf oedd ddim ar gael yn y yng Ngaherdydd
  18. Claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn trallwysiad gwrthgyrff Covid-19

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Melanie James yn derbyn y trallwysiad
    Image caption: Mae Melanie James bellach yn gwella adref

    Mae claf yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ger Caerdydd wedi derbyn trallwysiad o wrthgyrff monoclonaidd i drin COVID-19 - y cyntaf yng Nghymru i wynebu'r driniaeth.

    Fe dderbyniodd Melanie James, o ardal Pontprennau yng Nghaerdydd, y trallwysiad fel rhan o dreial clinigol RECOVERY ar ôl cael ei derbyn i Ysbyty Athrofaol Llandough gyda COVID-19.

    Roedd Melanie yn fyr ei gwynt ac yn derbyn triniaeth ocsigen pan gafodd hi'r trallwysiad, cyn i'w symptomau ddechrau gwella.

    Mae hi bellach adref, ac yn dweud ei bod yn falch o fod wedi gallu bod yn rhan o'r treial.

    “Dechreuais deimlo’n well y diwrnod ar ôl y trallwysiad," meddai, "a dim ond ychydig bach o ocsigen a gefais yn ystod y noson honno.

    "Er fy mod i'n dal i wella, rydw i eisoes yn teimlo'n llawer gwell nag y gwnes i wythnos yn ôl. "