a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

    Mae ASau yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 fel y Rheoliadau sydd, yng Nghymru, yn llywodraethu’r modd y darperir gwasanaethau fferyllol fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

    Mae Rheoliadau 2020 yn cyflwyno’r gofyniad i fyrddau iechyd gynnal asesiadau o anghenion fferyllol ac, o ganlyniad, maent hefyd yn newid y meini prawf ar gyfer gwneud ceisiadau gan yr unigolion hynny sy’n dymuno darparu gwasanaethau fferyllol y GIG yng Nghymru. Mae asesiad o anghenion fferyllol yn ddatganiad o’r asesiad y mae’n rhaid i fwrdd iechyd ei wneud, bob 5 mlynedd o leiaf, o’r anghenion yn ei ardal am wasanaethau fferyllol a ddarperir fel rhan o’r GIG yng Nghymru.

    Yr effaith y bwriedir i gyflwyno asesiadau o anghenion fferyllol ei chael yw gwella’r drefn o gynllunio a darparu gwasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn rhoi ystyriaeth gadarn i anghenion fferyllol eu poblogaethau, a sicrhau bod gwasanaethau’n cyd-fynd yn fwy agos â’r anghenion hynny.

    Roedd 47 o blaid, fe wnaeth pedwar ymatal a doedd neb yn erbyn.

  2. Cymeradwyo gorchuddion wyneb a mwy

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

    Mae’r diwygiadau

    (a) yn cyfyngu ar gynulliadau o dan do o aelodau o aelwyd estynedig i 6 pherson heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed (nid yw hyn yn effeithio ar y rheol gyffredinol na chaiff unrhyw berson ymgynnull o dan do gydag unrhyw un o’r tu allan i’w aelwyd);

    (b) yn ei gwneud yn ofynnol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn ardaloedd cyhoeddus o dan do “mangreoedd agored” (sef mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd ac y mae’n ofynnol iddynt gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, a’i ledaenu, o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau) a chanolfannau trafnidiaeth, oni bai bod esemptiad yn gymwys neu fod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo’r gorchudd wyneb;

    (c) yn egluro nad yw, o dan baragraff 4 o Atodlen 4A i’r prif Rheoliadau, yn esgus rhesymol i fynd i ardal diogelu iechyd leol i weithio, nac i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol na gwasanaethau elusennol, os yw’n rhesymol ymarferol i wneud y gwaith neu i ddarparu’r gwasanaeth y tu allan i’r ardal;

    (d) yn gwneud mân ddiwygiadau gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a grybwyllir uchod ac ar wneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020.

    Roedd 46 o blaid, wnaeth neb ymatal ac roedd pedwar yn erbyn.

    mygydau
  3. Cymeradwyo mwy o reoliadau

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Awst 2020.

    Mae'r diwygiadau yn:

    (a) yn darparu na chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddedu;

    (b) yn darparu bod gan bobl esgus rhesymol (o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau) i ymgynnull o dan do i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal, hosbis, neu lety diogel i blant;

    (c) yn egluro bod gan bobl hefyd esgus rhesymol i ymgynnull i gael gafael ar wasanaethau addysgol (o dan do fel esgus rhesymol o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau, ac yn yr awyr agored fel esgus rhesymol o dan reoliad 14A o’r Rheoliadau hynny, fel ei gilydd),

    (d) yn caniatáu i gasinos agor, ond rhaid cymryd mesurau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre,

    Roedd 49 o blaid, wnaeth neb ymatal ac roedd dau yn erbyn.

    casino
    Image caption: Mae hawl gan gasinos agor, ond rhaid cymryd mesurau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
  4. Cymeradwyo bod pedair aelwyd yn ffurfio un aelwyd estynedig

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

    Mae’r diwygiadau

    (a) yn caniatáu i aelodau hyd at bedair aelwyd (yn lle dwy) gytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig), sy’n golygu y gall aelodau o’r aelwydydd hynny ryngweithio â’i gilydd fel pe baent yn aelodau o un aelwyd;

    (b) yn darparu bod gan bobl esgus rhesymol i ymgynnull o dan do, mewn mangreoedd penodol, mewn grŵp o hyd at 30 o bobl i ddathlu gweinyddiad priodas, neu ffurfiad partneriaeth sifil, sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020, neu i ddathlu bywyd person sydd wedi marw ac y mae ei angladd yn digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

    (c) yn darparu, fel eithriad i’r rheol sy’n gwahardd pobl rhag cymryd rhan mewn cynulliadau awyr agored o fwy na 30 o bobl, y caiff digwyddiad awyr agored mwy ddigwydd cyhyd ag y bo wedi ei drefnu yn unol â thelerau’r eithriad

    Cafodd y rheoliadau eu llunio gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu rhoi ger bron y Senedd.

    Mae'n rhaid i'r Senedd gymeradwyo y rheoliadau o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.

    Roedd yna 49 o blaid, doedd neb yn ymatal ac roedd dau yn erbyn.

    Mae Mark Reckless yn dweud bod Plaid Brexit yn ystyried y rheoliadau yn "anghymesur ac yn wrthgynhyrchiol".

    aelwyd
  5. Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

    Nesaf datganiad gan y Dirprwy Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant.

    Mae'n ychwanegu bod 88% o ddarparwyr cofrestredig ar agor yng Nghymru bellach ond yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn disgwyl y bydd 30% yn llai yn mynychu.

    gofal plant
  6. Ystyried cau tafarnau am 10 yng Nghymru

    Dywed y Gweinidog Iechyd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cau tafarnau am 22:00.

    Yn Lloegr mae llywodraeth San Steffan eisoes wedi nodi y dylai tafarnau gau am 22:00.

    Mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol yng Nghymru mae tafarnau yn cau am 23:00.

    "Ry'n yn ystyried gorchymyn cau tafarnau am ddeg o'r gloch, dywed Mr Gething, "o gael yr un amser efallai bydd y neges yn gliriach."

    Dywed hefyd fod yna ystyriaeth i gael tafarnau i ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig, fel sy'n digwydd yn nhafarnau Lloegr.

    "Petaem yn cau tafarnau yn gyfangwbl, mae yna bryderon y gallai pobl ddechrau yfed mewn cartrefi pobl ac mae tystiolaeth yn dangos bod arfer felly yn gallu lledaenu'r haint," ychwanegodd.

    tafarn
  7. Ysgolion i barhau ar agor

    Wrth ateb Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, dywed Vaughan Gething, y bydd ysgolion yn parhau ar agor am gyn hired â phosib.

    "Mae plant," medd y gweinidog, "yn llai heintus ac mae tystiolaeth yn dangos nad yw pob plentyn wedi ffynnu yn ystod y cyfnod o gael ei addsygu adref."

    Mae Mr Gething yn cadarnhau hefyd na fydd brechu yn orfodol.

    vaughan gething
  8. Adolygiad o gyfyngiadau Caerffili ddiwedd yr wythnos

    Wrth gyfeirio at Gaerffili, dywed y Gweinidog Iechyd y bydd adolygiad o'r sefyllfa ddiwedd wythnos yma.

    Er bod y nifer yr achosion yn parhau i fod yn uchel, meddai, dywed ei fod yn hyderus bod y cyfyngiadau lleol yn dwyn ffrwyth.

    Wrth gyfeirio at achosion mewn siroedd eraill dywed ei fod yn bryderus bod yr haint bellach yn lledu o bobl ifanc i bobl hŷn a bod 34 yn cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

    Caerffili
  9. Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Coronafeirws (COVID-19)

    Nesaf datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Coronafeirws (Covid-19) sydd nesaf.

    Bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn mhedair o siroedd y de-ddwyrain yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

    Am 18:00, bydd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wynebu cyfyngiadau llymach.

    Y bore 'ma dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eu bod yn "cadw golwg" ar niferoedd coronafeirws mewn wyth sir arall yng Nghymru.

    Merthyr
    Image caption: Mae cyfyngiadau llymach yn dod i rym mewn pedair sir nos Fawrth, gan gynnwys Merthyr Tudful
  10. Beirniadu'r Prif Weinidog am beidio annerch y genedl yn y Senedd

    Mae aelodau o fwy nag un blaid yn beirniadu y prif weinidog am ddewis wneud ei ddatganiad ger bron y genedl ar deledu heno yn hytrach nag yn y Senedd.

    View more on twitter
  11. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Datganiad a Chyhoeddiad Busnes y Senedd sydd nesaf ac y mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans, yn amlinellu busnes y Senedd yn y dyfodol ac yn ymateb i gwestiynau gan ASau.

    Rebecca Evans
    Image caption: Rebecca Evans
  12. Gwireddu strategaeth Cymraeg 2050?

    Mae Sian Gwenllian yn gofyn: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cael gydag awdurdodau cyhoeddus a'r sector gyfreithiol ynghylch cyfraniad y gyfraith at wireddu strategaeth Cymraeg 2050?

    Mae Jeremy Miles yn ateb gan ddweud fod y llywodraeth yn gwbl ymroddedig i strategaeth 2050. Dywed nad yw e'n bersonol wedi trafod gydag awdurdodau cyhoeddus a'r sector gyfreithiol ond bod trafodaethau wedi'u cynnal gyda rheoleiddwyr addysg broffesiynol a bod y trafodaethau hynny wedi dwyn ffrwyth.

    Jeremy Miles
  13. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

    Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol sydd nesaf ac y mae chwech o'r wyth cwestiwn wedi cael eu cyflwyno gan aelodau o Blaid Cymru.

    Janet Finch-Saunders AS o'r Blaid Geidwadol sydd wedi cyflwyno'r ddau gwestiwn arall.

  14. Brechlyn yn orfodol?

    Mae arweinydd grŵp Brexit, Mark Reckless, yn cyfeirio at sylw gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething am gyflwyno cynllun brechu gorfodol yng Nghymru.

    Mewn cyfweliad gydag ITV mae Mr Gething yn dweud na fyddai'n gwrthod y syniad yn llwyr petai cynllun o'r fath ar gael.

    Mae Mr Reckless yn beirniadu cynllun a fyddai'n gwneud brechu'n orfodol.

    Dywed y prif weinidog nad oes gan Lywodraeth Gymru unrhyw fwriad i orfodi brechlyn Covid.

    Mark Reckless
    Image caption: Mark Reckless
  15. Y Prif Weinidog yn annerch y genedl heno

    Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn siarad heno am 20.05 ar BBC Cymru ac yn darparu mwy o wybodaeth yfory yng nghynadledd y llywodraeth.

    View more on twitter
  16. Colli ymddiriedaeth etholwyr?

    Mae Suzy Davies, sy'n holi ar ran arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies, yn gofyn "pam eich bod yn credu eich bod wedi colli ymddiriedaeth etholwyr?"

    Roedd hi'n cyfeirio at sylwadau y prif weinidog bod yn rhaid i Blaid Lafur Cymru adennill ymddiriedaeth cyn etholiadau'r Senedd yn 2021.

    Mae Mr Drakeford yn ymateb gan ddweud "bod yn rhaid i unrhyw blaid ennill ac adennill ymddiriedaeth".

    Fe gollodd y Blaid Lafur saith sedd Gymreig yn yr etholiad cyffredinol.

    Mae pôl piniwn diweddar yn awgrymu y gallai'r Blaid Lafur golli seddi yn etholiad 2021 ond yn parhau i fod y blaid fwyaf niferus yny Senedd.

    suzie davies
  17. 'Angen gofyn a yw'r daith yn angenrheidiol'

    Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, dywed y prif weinidog "Ry'n yn dechrau o le gwahanol" i Loegr ac mae nifer o'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Boris Johnson eisoes yn digwydd yng Nghymru.

    Mae Mr Drakeford yn ychwanegu na ddylid teithio oni bai bod y siwrne yn angenrheidiol.

    Adam Price
    Image caption: Adam Price
  18. 'Adlais o gefnogaeth i apartheid De Affrica'

    Dywed Neil Hamilton o UKIP bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "anghyfrifol yn galw Cymru yn genedl sy'n cynnig noddfa" (i ffoaduriaid, ceiswyr lloches).

    Mae'r prif weinidog yn ymateb gan ddweud "ry'n yn clywed yma adleisiau o gefnogaeth yr aelod i apartheid De Affrica".

    Neil Hamilton
    Mark Drakeford
  19. Dewis llety dros dro i ffoaduriaid?

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

    Mae hi'n gofyn: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r broses ar gyfer dewis safleoedd i roi llety dros dro i ffoaduriaid sy'n aros i'w hachosion lloches gael eu clywed?

    Dywed y Prif Weinidog nad oes gan "Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am y broses", Y Swyddfa Gartre, meddai, sydd yn penderfynu ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn ymgynghori gydag awdurodau lleol nag unrhyw lywodraeth ddatganoledig.

    Daeth torf o hyd at 30 o ymgyrchwyr a thrigolion lleol at ei gilydd ger giatiau hen wersyll milwrol Penalun ym Mhenfro ddydd Llun, er mwyn gwrthwynebu camau i'w droi yn gartref i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

    Wythnos diwethaf fe ddaeth i'r amlwg fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cartrefu hyd at 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar y safle ger Dinbych-y-pysgod.

    Mae gwersyll hyfforddi Penalun ymysg nifer o leoliadau sydd yn cael eu hystyried, ac mae'n debyg fod rheolaeth dros y safle wedi ei drosglwyddo o ddwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r Swyddfa Gartref.

    Daeth oddeutu 100 o bobl ynghyd ar draeth Dinbych-y-pysgod dros y penwythnos i ddangos eu cefnogaeth i ffoaduriaid.

    Dywed Angela Burns ei bod yn "bryderus nad yw gorllewin Cymru yn addas i fod yn ganolfan derbyn ceiswyr lloches".

    Penalun
    Image caption: Nwyddau'n cael eu cludo i'r gwersyll ddydd Llun