a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi unrhyw ddatblygiadau pellach ar ein gwefan.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

  2. Geifr y Gogarth yn taro eto....

    Mae'r New York Post bellach wedi sylwi ar y geifr enwog ddaeth i ganol Llandudno yn y cyfnod clo.

    Yn anffodus i'r geifr fe gafodd y llun yma ei dynnu ohonyn nhw'n disgwyl i tu allan i siop trin gwallt yn llawer rhy gynnar.

    Heddiw yw'r diwrnod cyntaf i geisio cael trim i'r barf yna!

    View more on twitter
  3. '50,000 swydd lletygarwch mewn perygl'

    Celtic Manor

    Gallai 50,000 o swyddi fod mewn perygl yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru o ganlyniad i'r coronafeirws, yn ôl prif weithredwr gwesty'r Celtic Manor.

    Dywedodd Ian Edwards wrth BBC Cymru y gallai hyd at 40% o swyddi yn y sector gael eu taro.

    Cyhoeddodd y gwesty ei fod yn bwriadu diswyddo 450 o staff yr wythnos diwethaf, bron i hanner y gweithlu, ond mae'r gwaith paratoi i ailagor yn mynd yn ei flaen.

    Dywedodd Mr Edwards mai gorau po gyntaf i'r diwydiant "greu hyder" i gwsmeriaid er mwyn diogelu swyddi.

  4. 'Dylid gwisgo mygydau ar unwaith'

    Mae Cymdeithas Feddygol Cymru (BMA Cymru) wedi croesawu'r cyhoeddiad ar fygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond wedi cwestiynu pam nad yw'n dod i rym ar unwaith.

    Dywedodd y cadeirydd Dr David Bailey y dylid gweithredu'r newid "heb oedi, i amddiffyn y rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y pythefnos nesaf".

    Ychwanegodd bod y BMA yn galw am wisgo mygydau mewn "pob man lle nad yw'n bosib cadw pellter cymdeithasol" a pharhau i lanhau dwylo yn rheolaidd.

  5. Sŵ wedi 'poeni am ein bodolaeth'

    Sw

    "Rydyn ni wedi poeni am ein bodolaeth a bodolaeth ein hanifeiliaid yma.“

    Dyna mae prif weithredwr Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn wedi ei ddweud heddiw, wrth i’r sŵ agor ei drysau am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

    Dywedodd Nick Jackson bod y cwmni wedi colli tua £720,000 o incwm dros y pandemig, ond wedi gorfod cadw’r rhan fwyaf o’i staff er mwyn gofalu am yr anifeiliaid.

    Diolchodd i bawb sydd wedi eu cefnogi dros y cyfnod, ac anogodd ymwelwyr i ddychwelyd unwaith eto.

    "‘Da ni’n hyderus bod pobl yn gallu bod yn ddiogel yma,“ meddai.

    "‘Da ni wedi cyfyngu ar y niferoedd ac mae pawb wedi bwcio, felly ‚da ni’n hyderus y gall pobl gadw pellter.“

  6. Cyhoeddi canllawiau i ysgolion

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi dychwelyd i’r ysgol yn llawn ym mis Medi.

    Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

    "Mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn adlewyrchu’r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. Ac mae’r cyngor yn cynnig llwybr canol rhwng canllawiau cenedlaethol strwythuredig a hyblygrwydd lleol.

    "Eleni, rydyn ni wedi dysgu bod yn rhaid inni fod yn barod ar gyfer amrywiaeth o senarios. Mae’r canllawiau hyn yn nodi pa flaenoriaethau dysgu a ddylai barhau i fod yn gyson, ni waeth ble mae’r dysgu’n cael ei gynnal."

    Mae'r canllawiau i'w gweld trwy glicio yma.

    ysgol
  7. Cei Connah'n bencampwyr

    Mae Cei Connah wedi cael eu cadarnhau fel pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru 2019-20 wedi cyhoeddiad gan yr Uchel Lys.

    Fe gollodd Y Seintiau Newydd eu hachos yn yr Uchel Lys yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi i'r tymor Uwch Gynghrair gael ei gwtogi oherwydd Covid-19.

    Roedd y Seintiau wedi dadlau bod hynny'n annheg arnyn nhw gan nad oedd yn caniatau cystadleuaeth deg am y bencampwriaeth, ond dywedodd y llys fod y penderfyniad gan y Gymdeithas yn un cywir o dan yr amgylchiadau.

    CQNFC
  8. Pam ddim mygydau mewn siopau?

    Wedi cyhoeddiad y prif weinidog y bydd mygydau'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru erbyn diwedd y mis, mae'r ymateb gwleidyddol yn ein cyrraedd.

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar AS, yn croesawu'r newid, ond yn gofyn pam nad yw'n dod i rym ar unwaith.

    Mae'n galw am "y dystiolaeth wyddonol - os yw'n bodoli - i gefnogi eu cyflwyno mewn pythefnos yn hytrach na nawr a pham ond ar drafnidiaeth gyhoeddus".

    Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, pam nad yw'r llywodraeth yn gorfodi mygydau mewn siopau.

    Galwodd Mr Price y newid yn "gam i'r cyfeiriad cywir", ond dywedodd bod "amddiffyn y cyhoedd mewn llond llaw o leoliadau yn unig ddim yn gwneud synnwyr".

    Dyn efo mask
  9. Ffansi peint?

    Wrth i'r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae'n bosib y bydd sawl un yn mentro'n ôl i'r dafarn leol am beint oer neu wydraid o rywbeth blasus.

    Ond dydy hynny ddim yn golygu y gallwch chi anghofio'r rheolau pellter cymdeithasol, yn ôl un comisiynydd heddlu.

    View more on twitter
  10. 'Cofiwch y rheolau'

    Twitter

    Roedd y penwythnos yn gyfle i lawer o bobl fentro ymhellach o'u cartrefi am y tro cyntaf mewn sawl mis, ond mae un cynghorydd o Aberystwyth wedi cwyno nad oedd rhai yn cadw at reolau pellter cymdeithasol wrth wneud hynny.

    View more on twitter
  11. Mynd i lawr yn dda!

    Fe wnaeth criw ymgynnull yn y Lion, Treorci yn gynnar y bore 'ma wrth i dafarnau ailagor yng Nghymru.

    Yn ôl un o'r criw mae'r "app i archebu diod yn gweithio'n dda... yn rhy dda os rhywbeth!".

    lion treorci
  12. Teithiau KLM i ail-ddechrau o Gaerdydd

    Maes Awyr Caerdydd

    Bydd hediadau KLM yn ailddechrau o Faes Awyr Caerdydd o 3 Awst, yn ôl y cwmni.

    Nid yw'r cwmni wedi bod yn gweithredu ers 27 Mawrth, gydag ond 5% o holl deithiau KLM dros y byd yn weithredol yn Ebrill a Mai.

  13. Newydd dorriDim marwolaethau ychwanegol

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf am y pandemig coronafeirws.

    Does dim mwy o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod y nifer swyddogol o farwolaethau gyda Covid-19 yn parhau yn 1,541.

    Fe gafodd 11 achos newydd o coronafeirws eu cadarnhau - cyfanswm o 15,973 erbyn hyn.

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debygol o fod yn uwch o lawer.

  14. Gyrrwr tacsi eisiau mwy o gyngor ar fygydau

    Stephen Clifford

    Er y newid mewn rheolau ar fygydau heddiw, mae un gyrrwr tacsi o Gasnewydd wedi dweud bod angen mwy o gyngor i yrwyr.

    Dywedodd Stephen Clifford: "Dwi just ddim yn meddwl y byddai'n gweithio.

    "Bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid ddim yn eu gwisgo nhw. Byddwn ni'n colli llawer o arian.

    "Os y' chi'n gorfod ei gael, chi'n gorfod ei gael. A beth os y'n ni'n gorfod eu darparu nhw? Mae'n anodd dweud."

  15. 'Dyfodol Cymru yn benderfyniad i'r bobl'

    Llywodraeth Cymru

    Fe gafodd Mark Drakeford ei holi am y gwahaniaethau rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn ystod y pandemig, ac a oedd yn credu y byddai'n newid barn pobl tuag at ddatganoli neu annibyniaeth yn y dyfodol.

    "Dylai'r penderfyniad am ddyfodol Cymru fod yn nwylo pobl Cymru," meddai'r prif weinidog.

    Ychwanegodd y byddai gan bobl Cymru'r cyfle i ethol llywodraeth newydd ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ond y byddai'n "cefnogi" Cymru ddatganoledig o fewn y DU.

    "Bydd pleidiau eraill yn gallu rhoi cynigion eraill iddyn nhw, ac yn sicr dwi'n cytuno ei fod yn rhywbeth i bobl Cymru wneud y penderfyniad am sut y byddan nhw eisiau trefnu eu dyfodol."

  16. 'Rhaid bod yn barod am glystyrau lleol'

    Llywodraeth Cymru

    Hefyd yn y gynhadledd heddiw, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r llywodraeth yn dweud yn gyhoeddus os ydyn nhw'n amau bod clwstwr newydd o'r feirws yn datblygu.

    Dywedodd bod angen i bobl "fod yn barod" am hynny, ond na fyddai'r llywodraeth yn dyfalu am leoliadau posib, ac yn hytrach yn ymateb i'r data sydd ar gael.

    "Cyn gynted mae gyda ni'r dystiolaeth ohoni, yna byddwn yn cyhoeddi hynny er mwyn sicrhau bod gan bobl y data hefyd," meddai.

  17. Arian i'r celfyddydau

    Llywodraeth Cymru

    Bydd trafodaeth gyda'r sector celfyddydau i benderfynu sut i wario £59m ddaeth i Gymru cyn y bydd cyhoeddiad ffurfiol.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn "cynllunio ac wedyn cyhoeddi, yn hytrach na chyhoeddi a wedyn cynllunio".

    Ychwanegodd ei fod yn deall y bydd hynny'n rhwystredig i rai, ond dywedodd hefyd ei fod yn credu ei bod yn "well ein bod yn dweud pethau'n gyhoeddus wedi i ni gael cyfle i gael y sgyrsiau hynny pan ydyn ni wedi cytuno gyda'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan yr hyn yr ydym yn bwriadu gwneud".

  18. Dal heb gyfarfod

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford mewn ateb i gwestiwn nad yw wedi cyfarfod gyda phrif weinidog i DU ers 28 Mai, ac nad oedd trefniadau mewn lle i gwrdd gyda Mr Johnson yn y dyfodol.

  19. Bron 300,000 o brofion

    Llywodraeth Cymru

    Bellach mae bron 300,000 o brofion coronafeirws wedi eu gwneud yng Nghymru.

    Dywedodd Mr Drakeford bod 17,000 o'r profion wedi bod yn bositif.

    Meddai: "Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif yn parhau i ostwng."

    Er hynny roedd yn annog pobl i barhau i ddilyn y rheolau sylfaenol - cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n aml, cwrdd gyda phobl o un aelwyd arall a gweithio o adre lle mae hynny'n bosibl.